The essential journalist news source
Back
15.
September
2023.
Y Cyngor yn symud i ddiweddaru rhestr adeiladau gwarchodedig

15.09.23
Mae Cyngor Caerdydd yn cymryd camau i gynyddu'r amddiffyniad a roddir i adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol yn y ddinas rhag dymchwel neu ddatblygiad digydymdeimlad.

Ar hyn o bryd mae mwy na 200 o 'Adeiladau o Bwys' yn y ddinas. Er bod rhai yn dod o fewn ardaloedd cadwraeth presennol, mae llawer o dafarndai, adeiladau cymunedol a lleoliadau cerddoriaeth nad oes ganddynt statws 'rhestredig yn lleol' ond sy'n dal i wneud cyfraniad pwysig ac sydd â'r potensial i gyfoethogi bywyd hanesyddol a diwylliannol Caerdydd.

Wythnos diwethaf, fe wnaeth cynghorwyr a swyddogion cynllunio symud i ddileu hawl y perchennog i ddymchwel tafarn Castell Rompney yn Heol Gwynllŵg, Tredelerch, ac nawr mae'r awdurdod am gynnal adolygiad o adeiladau eraill er mwyn rhoi'r un statws iddyn nhw.

Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf ym 1997 ond nid yw'r rhestr o adeiladau a ddeilliodd o hynny wedi'i chynnal na'i hadolygu ers hynny, er bod tua thraean o'r rhestr wreiddiol o 323 o adeiladau bellach wedi'u rhestru gan Cadw.

Mewn cynnig i'w drafod gan Gabinet y Cyngor yn ddiweddarach y mis hwn, gofynnir i gynghorwyr gytuno ar y broses ymgynghori ar gyfer adolygiad thematig cyntaf o'r 'rhestr leol, gan ganolbwyntio i ddechrau ar adeiladau sy'n gyfoethog yn hanes dosbarth gweithiol y ddinas.

Pan gaiff ei gwblhau, byddai’n golygu gellir ystyried diddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol arbennig yr adeilad wrth asesu ceisiadau cynllunio cyn gwneud penderfyniad.

Gofynnir hefyd i gynghorwyr adolygu'r trefniadau ar gyfer cyhoeddi cyfarwyddiadau Erthygl 4 fel y'u gelwir, er mwyn caniatáu i'r Cyngor ymateb yn gyflym i ddileu hawliau datblygu a ganiateir, er enghraifft ar gyfer dymchwel, os oes tystiolaeth ddibynadwy i awgrymu y gallai hawliau o'r fath niweidio "diddordeb o bwysigrwydd cydnabyddedig".

Cafodd hawliau dymchwel Castell Rompney eu tynnu'n ôl yn dilyn ymgyrch gan bobl leol a barnwyd y byddai ei golled yn "achosi niwed annerbyniol i les y gymuned leol ac i gymeriad a hynodrwydd lleol".

Bydd yr ymgynghoriad yn galluogi'r cyhoedd i gyflwyno adeiladau i'w cynnwys ar y rhestr. Wrth farnu pa adeiladau ddylai gael eu hychwanegu at y 'rhestr leol' datblygwyd wyth maen prawf i asesu eu gwerth hanesyddol a diwylliannol:

  •  Teilyngdod esthetig neu ddylunio
  • Diddordeb hanesyddol
  • Cysylltiad hanesyddol – gweithiau allweddol gan benseiri nodedig, er enghraifft
  • Statws nodedig – tafarndai, eglwysi, banciau ayyb.
  • Gwerth grŵp – terasau ac ati.
  • Cymdeithasol neu gymunedol – neuaddau tref, capeli neu gofebion, er enghraifft
  • Oedran – adeiladau a godwyd cyn 1875, er enghraifft
  • Prinder

Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drafnidiaeth a Chynllunio Strategol: "Rydym wedi gweld nifer o adeiladau nodweddiadol yng Nghaerdydd yn cael eu colli dros y blynyddoedd, fel Adeiladau'r Coleg yn Sblot a Golchdy y Rhath a gyflwynwyd i'w hasesu gan Cadw ond a gollodd eu hachos.

“Nid oes gan y rhestr leol hon unrhyw beth tebyg i'r un pwerau ag adeiladau sydd wedi'u rhestru gan Cadw, ond bydd yn ein helpu i weithio gyda datblygwyr i geisio diogelu a dathlu adeiladau lleol fel tafarndai, mannau cymunedol a lleoliadau cerddoriaeth – yn enwedig y rhai sy'n gyfoethog o ran hanes dosbarth gweithiol y ddinas.

"Trwy gryfhau ein rheoliadau cynllunio a pharhau i lobïo Llywodraeth Cymru am bwerau cryfach, bydd Rhestr Leol newydd a diwygiedig yn chwarae rhan allweddol wrth gydnabod a gwarchod yr asedau hyn ac, yn bwysig, bydd yn cydweddu’n dda ag ymrwymiad y Cyngor i greu dinas gryfach, gwyrddach a thecach."

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yng nghyfarfod pwyllgor Cabinet y Cyngor ddydd Iau 21 Medi, am 2pm. Bydd yr adroddiad llawn ar gael i'w weld ar ôl 6pm, dydd Gwener, 15 Medi, yma  Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)

Gan ddefnyddio'r un ddolen byddwch hefyd yn gallu gweld gweddarllediad byw o gyfarfod y Cabinet o 2pm, dydd Iau, 21 Medi.