The essential journalist news source
Back
5.
September
2023.
Mae Ysgol Gynradd Pentre-baen yn cael ei chanmol am ei hamgylchedd cynhwysol a meithringar gan Estyn ond fe'i hanogir i

 

5/9/2023

Mae Ysgol Gynradd Pentre-baen wedi cael ei chydnabod am ei hamgylchedd cynhwysol a meithringar, mewn adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Estyn.

Yn ystod ymweliad gan Arolygiaeth Addysg Cymru, tynnodd arolygwyr sylw at ymroddiad yr ysgol i greu awyrgylch diogel a gofalgar lle mae disgyblion yn ymddwyn yn gwrtais tuag at gyfoedion, staff ac ymwelwyr.

Nodwyd bod ymdrechion yr ysgol i gefnogi iechyd emosiynol disgyblion wedi cael effaith gadarnhaol ar eu lles cyffredinol ac mae ymgysylltiad yr ysgol ag ymweliadau amrywiol ac ymwelwyr wedi cyfoethogi profiadau dysgu myfyrwyr, gan arwain at drafodaethau brwdfrydig am y wybodaeth maen nhw wedi'i chael.

Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at sawl maes sydd angen sylw. Canfuwyd bod cynnydd disgyblion, er y gellir ei ganmol i lawer, yn anghyson, gan arwain at fylchau sgiliau mewn ysgrifennu, rhifedd, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), a hyfedredd iaith Gymraeg a ganfuwyd i fod yn effeithio ar feysydd eraill o'r cwricwlwm.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ansawdd amrywiol yr addysgu ar draws yr ysgol, gyda rhai athrawon yn dangos disgwyliadau isel o botensial myfyrwyr sy'n rhwystro datblygiad sgiliau dysgu annibynnol.

Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r angen am strwythur arweinyddiaeth sefydlog ac effeithiol a gwelliannau sy'n angenrheidiol ar gyfer ansawdd cyffredinol yr addysgu a'r dysgu, gan gynnwys mentrau i weithredu'r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at faterion presenoldeb y mae angen eu dadansoddi a'u datrys yn effeithiol.

O ystyried y canfyddiadau,mae Estyn wedi gwneud cyfres o argymhellion ac wedi datgan bod angen mesurau arbennig. Bydd y rhain yn cael trafod yn y cynllun gweithredu gwella ysgolion a byddant yn cynnwys;

  • Mynd i'r afael â phryderon diogelu a nodwyd yn ystod yr arolygiad.
  • Sefydlu strwythur arweinyddiaeth a llywodraethu effeithiol sy'n gwerthuso effaith addysgu ar safonau disgyblion.
  • Gwella ansawdd yr addysgu a'r asesu er mwyn sicrhau cynnydd priodol, yn enwedig mewn meysydd allweddol fel ysgrifennu, rhifedd, TGCh a Chymraeg.
  • Datblygu cwricwlwm cynhwysfawr sy'n meithrin ymgysylltiad myfyrwyr a datblygiad sgiliau blaengar ar draws pynciau.
  • Gwella presenoldeb disgyblion drwy gymryd mesurau wedi'u targedu.

Bydd Estyn yn monitro cynnydd yr ysgol fel arfer bob pedwar i chwe mis.

Dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr Dros Dro, Doug Corp: "Yn dilyn yr arolygiad a'r adroddiad ar ei ganfyddiadau, rydym yn falch bod Estyn wedi cydnabod bod yr ysgol yn amgylchedd cynhwysol a meithringar lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn derbyn gofal.

"Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod nifer o feysydd lle mae angen gwelliannau a bydd cynllun gweithredu yn cael ei roi ar waith a fydd yn mynd i'r afael â'r materion a amlygwyd gan Estyn.

Bydd hyn yn sicrhau bod safonau'n cael eu codi fel bod ein plant yn derbyn yr addysg a'r amgylchedd dysgu y maent yn ei haeddu.

"Gyda'r gwelliannau hynny ar waith, edrychwn ymlaen at weld yr ysgol mewn goleuni llawer mwy cadarnhaol ar eu hymweliad nesaf ag Ysgol Gynradd Pentre-baen."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae ymrwymiad Ysgol Gynradd Pentre-baen i greu amgylchedd meithringar a chynhwysol yn amlwg ac mae Estyn yn cydnabod y berthynas gadarnhaol rhwng disgyblion a staff.

"Er bod gan yr ysgol gryfderau i adeiladu arnynt, mae mynd i'r afael â'r meysydd a nodwyd yn yr adroddiad yn hanfodol i ddarparu addysg gyflawn i'w myfyrwyr. Bydd yr ysgol yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag argymhellion Estyn gyda chefnogaeth gan yr Awdurdod Lleol."

Adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Pentre-baen 220 o fyfyrwyr ar y gofrestr. Mae 53.4% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 23.7% wedi'u nodi fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae 17.8% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae Estyn wedi mabwysiadudull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru.   Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddau crynodol (e.e. 'Rhagorol', 'Da' neu 'Digonol') a byddan nhw bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.