The essential journalist news source
Back
25.
July
2023.
Cyngor yn helpu i leddfu'r pwysau ar deuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol

25/07/23

Mae timau ar draws Cyngor Caerdydd, ynghyd â sefydliadau partner a grwpiau cymunedol ledled y ddinas, yn ymuno i helpu teuluoedd sy'n wynebu anawsterau ariannol yn ystod gwyliau'r haf i ysgolion.

Mae amrywiaeth o gymorth ar gael ar adeg pan fo pwysau ariannol cynyddol a gellir tywys rhieni a theuluoedd tuag at ffyrdd y gall pobl ifanc ymysgwyd a chael eu diddanu, yn ogystal â sut i ddod o hyd i ffyrdd rhad - ac am ddim - o fwydo teuluoedd.

Mae'r rhaglen 'Bwyd a Hwyl', bellach ar ei wythfed blwyddyn, ar gael mewn 27 o ysgolion yn y ddinas. Mae'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol arobryn yn darparu prydau am ddim ochr yn ochr â rhestr gyffrous o weithgareddau, sgiliau a chwaraeon hwyliog am ddim a ddarperir gan sefydliadau partner, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n cefnogi sesiynau addysg maeth.

Yn ogystal, mae llu o sefydliadau, elusennau a chwmnïau eraill yn hyrwyddo ffyrdd am ddim neu am gost isel i sicrhau bod pawb yn gallu bwyta'n iach.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Bydd llawer o bobl yn teimlo effeithiau'r argyfwng costau byw parhaus ond i rai teuluoedd mae'r effaith yn llawer mwy, yn enwedig gyda'r baich ariannol ychwanegol a ddaw yn sgil gwyliau ysgol hir.

"Rydym yn cydnabod yr angen a phwysigrwydd cael cynllun Bwyd a Hwyl Caerdydd. Dros yr wyth mlynedd diwethaf rydym wedi sefydlu gwaith partneriaeth llwyddiannus sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi iechyd a lles cadarnhaol ymhlith y plant hynny sy'n elwa fwyaf o'r cynllun.

"Gan roi mynediad i weithgarwch corfforol, prydau iach a sesiynau maeth a bwyd, mae'r fenter yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau hwyliog na fyddai rhai plant fel arfer yn cael cyfle i'w mwynhau.

"Rwy'n falch iawn bod y cynllun wedi tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â llawer o'r sesiynau yr haf hwn i gwrdd â'r plant a'n haelodau staff ymroddedig."

Dwedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:   "Mae ein tîm Cynghori Ariannol yn dal yma i helpu pobl sydd angen cymorth dros wyliau'r ysgol, a thu hwnt.  Os oes unrhyw un yn ei chael hi'n anodd, mae'n bwysig cofio bod help ar gael i bawb, galwch draw i'ch canolfan leol neu ffoniwch y Llinell Gynghori. Mae ein tîm wrth law i helpu."

 

Dyma restr o rai o'r gweithgareddau a'r cyngor ymarferol sydd ar gael:

 

Gweithgareddau am ddim neu am gost bychan

 

Cymorth i Deuluoedd

  • Anogir rhieni a theuluoedd i gysylltu âCyngor Ariannol Caerdydd(029 2087 1071,https://www.cardiffmoneyadvice.co.uk/cy/) os ydynt yn teimlo eu bod yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd neu os hoffent gael help i gael gafael ar fudd-daliadau. Ymhlith y cynlluniau y gallant helpu gyda nhw mae:

-         Talebau Cynllun Byrbrydau Iach

-         Prydau Ysgol Am Ddim

-         Gostyngiad y Dreth Gyngor

-         Cronfa Atal Digartrefedd     

-         Taliad Tai yn ôl Disgresiwn

 

Bwyd am ddim neu am bris isel

  • Pantri bwyd - bwyd ffres, ffrwythau a llysiau ar gyfer tanysgrifiad wythnosol bach, fel arfer tua £5 (www.eichpantrilleol.co.uk)
  • Oergell Gymunedol - brechdanau, bwyd wedi'i goginio, cig, llaeth, llysiau ac ati.  Talu beth allwch ei fforddio. Bob dydd, 9.30am-11pm (Canolfan Gymunedol Cathays, Teras Cathays)
  • Banc Bwyd Al-Ikhlas - Dydd Mawrth, 10am-canol dydd (Canolfan Al-Ikhlas, Heol Lydan (Broadway), Adamsdown)
  • Bwyd am Oes Cymru - prydau bwyd maethlon am ddim, yn seiliedig ar blanhigion, Llun-Gwener, 11am-6pm, Sad, 11am-5pm (Lolfa Atma, Uned 20, Capital Centre, Heol y Frenhines, canol dinas Caerdydd)
  • Rainbow of Hope - te a choffi am ddim i'r rhai mewn angen, Llun-Iau, 10.30am-1pm, Sad, hanner dydd-1pm (23-25 Heol Lydan)
  • Fforwm Tredelerch - bagiau bwyd, £7 i'r rhai yn ardal CF3, Mawrth (Brachdy House, Heol y Brachdy Tredelerch)
  • Eglwys Sant Marc a Sant Phillip - marchnad am ddim, Mawrth a Sadwrn, 10-10.30am, St Mark's; Sul, 3.30-4pm, St Phillip's (St Mark's, Heol y Gogledd, Gabalfa; St Phillip's, Heol Tweedsmuir, Tremorfa)
  • Eglwys Gymunedol Glenwood - pantri i bobl yn Llanedern neu Bentwyn, £3 am 16 eitem, Gwen (Eglwys Gymunedol Glenwood, Ffordd Gylchol y Gorllewin, Llanedern. Cofrestrwch yn gyntaf ynwww.glenwoodchurch.org/food-club)
  • Food Cycle Caerdydd - pryd poeth am ddim, croeso i deuluoedd, Trelái, Llun, 6.30pm; Glan-yr-afon, Mercher, 6.30pm (Yr Efail Ddwst, Heol Orllewinol y Bont-faen, Trelái; Canolfan Wyndham Street, Glan-yr-afon;www.foodcycle.org.uk)
  • Ystafell Fyw Capel Tredelerch - brecwast a chinio am ddim, ynghyd â swper ar rai nosweithiau (Heol y Brachdy, Tredelerch.www.rumneychapel.org/thelivingroomneu 029 2025 0998
  • Splo-Down - Grŵp Bwyd Cymunedol- Dydd Mercher, 5-7pm (Cwrt Canolfan Oasis, Heol y Sblot, Y Sblotwww.https://splo-down.org/)

Cafodd y cynllunBwyd a Hwylei ddatblygu gan dîm Bwyd a Hwyl Caerdydd yn 2015 ac fe'i mabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno i weddill Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddilynol. Mae wedi cael ei ddefnyddio fel enghraifft o Arfer Gorau ac mae wedi arwain at gydnabod mai Cymru sydd â'r ddarpariaeth gwyliau fwyaf datblygedig yng ngwledydd Prydain.