Bydd pob ffordd yng nghanol y ddinas ar gau ar gyfer gornest uno pwysau trwm Anthony Joshua yn erbyn Joseph Parker yn Stadiwm Principality ar 31 Mawrth.
Bydd gwiriadau diogelwch mwy manwl yn digwydd yn Stadiwm y Principality, felly dylai deiliad pob tocyn ddisgwyl cael ei archwilio yn y lleoliad. O ystyried hyn, cynghorir deiliaid tocynnau yn gryf i neilltuo digon o amser i gyrraedd Caerdydd a'r stadiwm.
Gyda thorf o fwy na 65,000 o bobl yn llenwi'r stadiwm, mae'r awdurdodau'n cynghori pob deiliad tocyn i gynllunio eu teithio cyn prynu eu tocyn, oherwydd bydd gwasanaethau trên yr hwyrnos yn gyfyngedig iawn o ganlyniad i waith peirianyddol cynlluniedig ar y rheilffordd a disgwylir i'r rhwydwaith ffyrdd fod yn brysur iawn.
Bydd y gatiau ar agor am 5pm. Disgwylir i'r digwyddiadau bocsio rhagarweiniol gychwyn am 5.10pm ac mae'r brif ornest i fod i gychwyn am 10.30pm (i'w gadarnhau).
Ychydig iawn o wasanaethau trenau fydd yn rhedeg ar ôl y brif ornest, o ganlyniad i waith peirianyddol ar y rheilffordd. Cynghorir teithwyr i gynllunio eu siwrne ymlaen llaw yma:www.nationalrail.co.uk; neu drwy ffonio Llinell Deithio Cymru ar 0800 464 0000.
Bydd Bws Caerdydd yn darparu gwasanaethau hwyrnos, a bydd y bysiau olaf yn gadael Canol Dinas Caerdydd am 3.30am. Bydd y gwasanaethau hyn yn stopio yn Nhreganna;Trelái;Heol y Gogledd;Llwynbedw;Llanisien;Draenen Pen-y-graig; Heol Casnewydd;Tredelerch;Trowbridge; St. Mellons;Albany Road;Llanedern;Pentwyna Phontprennau.
Disgwylir i'r galw am dacsis fod yn uchel iawn ar ôl y digwyddiad. Cynghorir pawb sy'n dod i Gaerdydd i gynllunio ymlaen llaw ac archebu eu tacsi i mewn i Gaerdydd ac yn ôl cyn iddynt deithio.
Cynghorir y rheiny sy'n teithio mewn car i gadw lle yn y cyfleuster parcio a theithio, neu drwy ddilyn y ddolen hon cyn cychwyn -https://www.parkjockey.com/principality-stadium
Bydd pob ffordd o gwmpas y stadiwm yng nghanol y ddinas ar gau o 4pm nes 1am y bore canlynol.
Mae manylion gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn i'r wasg.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau yn rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas:
- Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
- Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
- Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
- Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sydd yn arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
- Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio cyn y digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Noder:
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd gyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, yna bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.
Anogir cefnogwyr bocsio felly i gynllunio i gyrraedd y stadiwm mewn da bryd, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau sydd wedi eu gwahardd ymaprincipalitystadium.wales cyn prynu tocynnau.
Trenau
Ychydig iawn o wasanaethau trên fydd yn rhedeg ar ôl y brif ornest o ganlyniad i'w hamser gorffen disgwyliedig a gwaith adnewyddu rheilffordd cynlluniedig. Cynghorir teithwyr i gynllunio eu siwrne ymlaen llaw yma ynwww.nationalrail.co.uk; neu drwy ffonio Llinell Deithio Cymru ar 0800 464 0000.
Mae Network Rail yn cynllunio ei waith peirianyddol dros flwyddyn ymlaen llaw. Yn ystod Gŵyl Banc y Pasg eleni, bydd peirianwyr Network Rail yn cyflawni gwaith moderneiddio ar y brif linell De Cymru a byddant yn gosod system signalau newydd yng ngorsaf Temple Meads Bryste.
Efallai yr effeithir ar deithwyr sy'n teithio i'r ornest neu ohoni gan waith adnewyddu rheilffordd:
MaeGreat Western Railwayyn cynghori pob cwsmer y bydd y trên olaf yn gadael Caerdydd i gyfeiriad Llundain am 10.47pm, gan stopio yng Nghasnewydd ar y ffordd a gorffen yng Ngorsaf Bristol Parkway.Nid oes unrhyw gysylltiadau i barhau ymlaen o orsaf Bristol Parkway tan y diwrnod canlynol.
MaeTrenau Arriva Cymruyn cynghori eu cwsmeriaid y bydd trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd a chynghorir cwsmeriaid i ddefnyddio'r gwasanaethau cynharaf i deithio i'r ddinas.Bydd gwasanaethau trên lleol ar ôl y digwyddiad yn gyfyngedig a chynghorir cwsmeriaid i wirio eu cynlluniau teithio wrth fynd adref
Bydd trenau'n rhedeg o orsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd yn ôl yr amserlen arferol, ond dylai'r rhai sy'n mynychu'r digwyddiad fynd i orsaf Caerdydd Canolog ar gyfer eu gwasanaeth wedi'i drefnu yn dilyn y digwyddiad. Gweithredir system giwio ar ôl y digwyddiad yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Bysiau
Bysiau lleol:
Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd a fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin.
Darperir y gwasanaethau hwyrnos canlynol gan Bws Caerdydd:
18 Canol y Ddinas - Treganna - Trelái
O Heol y Porth am 00:30, 01:30, 02:30 a 03:30. Ar ôl Heol y Porth, bydd y bws yn stopio wrth Bont Caerdydd gan ddilyn yr un llwybr ag y mae yn ystod y dydd.
27 Canol y Ddinas - Heol y Gogledd - Llwynbedw - Llanisien - Draenen Pen-y-graig
O Stryd Havelock am 00:30, 01:30, 02:30 a 03:30. Ar ôl Stryd Havelock, bydd y bws yn stopio wrth Stryd y Castell, yna Ffordd y Brenin gan ddilyn yr un llwybr ag y mae yn ystod y dydd.
44 Canol y Ddinas - Heol Casnewydd - Tredelerch - Trowbridge - Llaneirwg
O Rhodfa Bute am 00:30, 01:30, 02:30 a 03:30. Bydd y bws yn stopio ar Ffordd Churchill hefyd yng nghanol y ddinas.
57 Canol y Ddinas - Albany Road - Llanedern - Pentwyn - Pontprennau
O Heol y Tollty am 00:30, 01:30, 02:30 a 03:30. Bydd y bws yn stopio ar Ffordd Churchill hefyd yng nghanol y ddinas.
Parcio a Theithio Digwyddiad
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio Digwyddiad ar gael yn Lecwydd, a gellir mynd yno o gyffordd 33 oddi ar yr M4 ac yna dilyn yr arwyddion i'r safle.
I gadw lle ar y gwasanaeth Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i -https://www.parkjockey.com/principality-stadium
Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.
Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.
Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).
Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 11.30am, a bydd y bws cyntaf yn gadael y safle am hanner dydd. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 12.30pm a bydd y maes parcio'n cau am 1am.
Traffyrdd a phriffyrdd
Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio rhag blaen a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a phriffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a Chaerdydd fod yn brysur iawn.
Parcio ar y Diwrnod
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4
Cost: £15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos
Noder: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan hanner nos, gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Caiff unrhyw gerbydau a adawir yn y maes parcio ar ôl yr amser cau, ddirwy.
Parcio Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)
Cyrraedd yno: Gadewch gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £12 ymlaen llaw ar-lein neu £15 yn y maes parcio (arian parod yn unig).
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
I archebu man parcio ymlaen llaw, cliciwch: https://www.parkjockey.com/principality-stadium(ceir yn unig).
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud..
Gwyddom hefyd y byddai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.
Parcio i'r Anabl
Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae Parcio i'r Anabl ar gael hefyd mewn amryw feysydd parcio preifat. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Tacsis - bydd y rhes dacsis ar Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau rhwng 3pm a 12.30am.
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.