The essential journalist news source
Back
15.
March
2018.
Gwella amddiffynfeydd rhag llifogydd Caerdydd

Mae cynllun amddiffyn yr arfordir newydd gwerth £11m er mwyn helpu i amddiffyn dwyrain Caerdydd rhag llifogydd wedi cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor yn eu cyfarfod heddiw (15 Mawrth).

Mae'r Cyngor wedi cytuno heddiw i dendro am gontract dylunio ac adeiladu ar gyfer y cynllun amddiffyn yr arfordir.

Ar hyn o bryd, mae 249 o eiddo preswyl a 3 eiddo amhreswyl wedi'u nodi fel bod mewn perygl o lifogydd mewn adroddiad sy'n dweud bod cyfraddau erydu ar yr arfordir cyfochr â Rover Way ymhlith yr uchaf yn Ewrop.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Yn ôl adroddiad i gyflwr yr amddiffynfeydd ar hyd y blaendraeth wrth Rover Way, mae'n amlwg eu bod mewn cyflwr gwael a bod ganddynt oes fer neu ganolig yn unig. Yn seiliedig ar gyfraddau erydu a ragwelir ac o ystyried y cynnydd a ddisgwylir yn lefel y môr, bydd yr arfordir i'r gorllewin o afon Rhymni yn parhau i erydu gan encilio 30m erbyn 2036, 50m erbyn 2067 a 170m erbyn 2117.

"Byddai hyn yn arwain at golli safle Teithwyr Rover Way a'r is-orsaf drydanol gyfagos o fewn pum mlynedd gan ryddhau cyfeintiau mawr o ddeunydd tomen anhysbys o'r domen Frag i Aber Afon Hafren. Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu diffyg posibl yn cael ei sefydlu yn yr amddiffynfeydd i'r dwyrain o safle Teithwyr Rover Way, gan arwain at berygl llifogydd i ardaloedd sylweddol o dir gan gynnwys Rover Way ei hun, ystâd ddiwydiannol Tremorfa, rhai eiddo preswyl, amwynderau lleol ac archfarchnad."

Mae'r achos busnes ar gyfer cynllun amddiffyn yr arfordir wedi cynhyrchu costau o £11m. Byddai Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £8.25m o'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol a byddai disgwyl i'r Cyngor gyfrannu £2.75m.

Mae'r cynnig presennol yn cynnwys amrywiaeth o fuddiannau gan gynnwys:

  • Rheoli risg llifogydd yn yr ardal dros y 100 mlynedd nesaf ar gyfer 1,116 o eiddo preswyl a 72 o eiddo amhreswyl;
  • Atal y safle tirlenwi rhag erydu; ac
  • Amddiffyn ffyrdd a Safle Teithwyr Rover Way.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Mae'n rhaid i'r cynllun fod yn un blaengar gan roi ystyriaeth i lwybr yr arfordir ar hyd yr ardal hon, yn ogystal â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cam olaf Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae.

"Rydym wedi cynnal asesiad ar saith cynllun gwahanol a bellach mae gennym ddatrysiad a ffefrir. Bydd wal o glogfeini - a elwir yn arfogaeth gerrig - yn cael ei hadeiladu ar hyd mwy na 2,000 o fetrau o'r arfordir cyfochr â Rover Way, yn ogystal â'r arfordir o flaen y safle tirlenwi. Bydd y dechneg hon yn cael ei defnyddio hefyd i atal rhagor o erydu i Bont Ffordd Lamby.

"Yna, bydd yr arglawdd yn cael ei godi ar hyd 1,320 o fetrau o arfordir o amgylch safle Clwb Hwylio a Physgota Cychod Modur Afon Rhymni ar bob ochr i'r afon, a bydd wal fetel - sef pyst seiliau - yn cael ei hadeiladu ymhellach i mewn i'r tir 610 metr o arfordir ar hyd cylchfan Ffordd Lamby.

"Ar ôl gorffen dyluniad manwl y cynllun bydd hefyd angen i ni sicrhau ein bod yn ailasesu er mwyn cadarnhau y gellir ei adeiladu o fewn y gyllideb a'i fod yn addas at y diben."