The essential journalist news source
Back
12.
March
2018.
Codi Baner Diwrnod y Gymanwlad - Dydd Llun 12 Mawrth 2018.
Am 10.00am heddiw (Dydd Llun 12 Mawrth 2018), llywyddodd y GwirAnrhydeddusArglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bob Derbyshire dros seremoni codi baner y Gymanwlad, gan ymuno â thros 1000 o faneri’r Gymanwlad a godwyd ar hyd a lled y byd ar yr un adeg er mwyn nodi dathliad a rennir o’r teulu o genhedloedd anhygoel sydd o amgylch y byd.

Digwyddodd y dathliad rhyngwladol sydd yn cydnabod holl wledydd y Gymanwlad yn y Plasty, Caerdydd ac roedd yn cynnwys negeseuon gan Ei Mawrhydi’r Frenhines ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad.Cafwyd hefyd Ddatganiad y Gymanwlad a bendithio’r faner gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk cyn iddo gael ei godi gan geidiaid a sgowtiaid.

DywedoddGwir AnrhydeddusArglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Bob Derbyshire:“Dethlir Diwrnod y Gymanwlad yn flynyddol ar draws y Gymanwlad gan bobl ifanc, ysgolion, cymunedau a sefydliadau dinesig.Mae’r digwyddiad ‘Chwifio Baner’ yn rhoi cyfle i ni ddod ynghyd a chysylltu ein hunain â gwerthfawrogiad cyhoeddus ehangach o’r Gymanwlad, y cyfleoedd a rydd a’r gwerthoedd y saif drostynt. 

“Eleni rydym hefyd yn cofio 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.Gwasanaethodd gwirfoddolwyr o bob hil a chred, o bob trefedigaeth a dominiwm mor anrhydeddus a chydnabyddwn hwy heddiw fel rhan o deulu byd-eang y Gymanwlad.Dylem fod yn ddiolchgar iddynt ac i ni ein hunain hefyd am yr oll a wnaethant drosom.”

Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, mae menter Chwifio Baner y Gymanwlad wedi dal dychymyg miloedd o gyfranogwyr o bob cwr, gan eu hysbrydoli i ymuno ag eraill ledled y Gymanwlad.Fel mynegiant cyhoeddus ar y cyd o ymrwymiad i’r Gymanwlad, mae’n galluogi cyfranogwyr i ddangos gwerthfawrogiad dros y gwerthoedd a gynhelir gan y Gymanwlad, a’r cyfleoedd a rydd o ran cyfeillgarwch a chydweithrediad gyda chyd Gymanwladwyr ddinasyddion hen ac ifanc ledled y byd.

Ar Ddiwrnod y Gymanwlad bydd pobl o bob oed a chefndir yng ngwledydd y Gymanwlad ym mhob cyfandir a chefnfor yn ail-ymrwymo i weithio ‘Tuag at Ddyfodol Cyffredin’, y thema ar gyfer eleni ac i Benaethiaid Llywodraethau’r Gymanwlad a gaiff eu croesawu gan y Deyrnas Unedig fis Ebrill.