The essential journalist news source
Back
1.
December
2017.
Benthyciwr arian anghyfreithlon ymosodol wedi’i garcharu

 

Mae benthyciwr arian anghyfreithiol ymosodol sy'n derbyn budd-daliadau llawn wedi'i garcharu am dair blynedd a hanner yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Plediodd Robert Sparey, 54 o Y Cilgant, Caerffili, yn euog i fenthyca arian yn anghyfreithlon, meddu ar eiddo troseddol, gwerthu tybaco ffug, gwyngalchu arian a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Clywodd y llys fod 116 o ddioddefwyr wedi'u nodi yn yr achos hwn, ar ôl i Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru ymweld â'i gartref ar 25 Ionawr 2017. Cafodd llawer o waith papur, £20,000 mewn arian, dwy oriawr Rolex, gemwaith arian a dau ffôn symudol eu hatafaelu.

Datgelwyd yn ystod yr ymchwiliad fod Mr Sparey wedi benthyca chwarter miliwn o bunnoedd dros gyfnod o dair blynedd, gan ennill £61,839 o log i'w hunan. O ystyried fod Sparey yn gweithredu fel benthyciwr arian anghyfreithlon am 20 mlynedd, roedd y swm y byddai wedi ennill o'i droseddau yn helaeth.

Clywodd y llys fod £109,000 o daliadau arian yn arian a wyngalchwyd trwy amryw gyfrifon ers 2011, ond mae'r cyfanswm arian a enillodd o'i droseddau yn anhysbys.

Dywedodd Stephen Grey, Pennaeth Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru: "Dyma ddyn a bortreadodd ei hun fel rhywun a oedd wedi dioddef o amgylchiadau corfforol ac ariannol, sydd heb fod mewn cyflogaeth ers 1990, sydd wedi bod yn derbyn budd-dal treth gyngor llawn, budd-dal tai, £57 yr wythnos o'r cynllun symudedd am ei gar, y lefel uchaf o lwfans cymorth cyflogaeth posibl ac roedd yn gwneud symiau mawr o arian drwy fenthyca arian yn anghyfreithlon. "

Roedd Mr Sparey yn codi £35 o log ar bob £100 yr oedd yn ei fenthyca i'w ddioddefwyr, ond roedd y swm o arian a oedd yn cael ei godi mewn llog yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau'r dioddefwyr.

Yng nghartref Sparey yng Nghaerffili roedd arian yn aml yn cael ei gadw yn yr oergell yr oedd e'n ei alw'n "sêff", yn ogystal â thuniau bisgedi a mannau eraill o amgylch ei gartref.

Dywedodd yr erlyniad, Tim Evans, wrth y llys fod Sparey yn aml yn casglu arian gan ei ddioddefwyr gyda'i fab anabl, sy'n dioddef o epilepsi difrifol a phroblemau niwrolegol. Dywedodd Mr Evans fod ei "fab anabl yn cael ei ddefnyddio fel ffrynt" ai fod yn "fflawntio'i arian" ac hyd yn oed ar ôl iddo gael ei arestio a'i fechnïo fe wnaeth e barhau i gasglu benthyciadau.

Cafodd Sparey a oedd â 15 collfarn flaenorol yn dyddio'n ôl i'r 1980au ei ddisgrifio fel "ymosodol a brawychus", yn bygwth dioddefwyr â thrais yn ogystal â "bygwth llosgi tŷ dioddefwr gyda'i phlant y tu mewn."

Yn amddiffyn, dywedodd Edward Mitchard wrth y llys wrth liniaru fod geirdaon cymeriad yn disgrifio Mr Sparey fel "dyn da iawn, ffrind da a chymydog ardderchog" a bod Mr Sparey yn ddyn ag "anghenion meddygol cymhleth", fod ei fab anabl yn ddibynnol arno a'i fod yn gallu "bod yn rhiant i'w fab er gwaetha'r ffaith fod ei gynbartner wedi sicrhau gorchymyn ataliol yn ei erbyn."

Cafodd Gareth Sparey ei ganmol am ei bledion cynnar a chafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 3 blynedd a chwe mis yn y carchar, gyda hanner i'w dreulio yn y ddalfa a hanner i'w dreulio ar drwydded.

Bydd Gwrandawiad Enillion Troseddau yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd.