The essential journalist news source
Back
10.
November
2017.
Caerdydd yn y ffrâm ar gyfer partneriaeth feicio
   

Dewiswyd Caerdydd i gymryd rhan mewn partneriaeth gyffrous a fydd yn gweld rhaglen sylweddol o weithgareddau beicio yn cael eu datblygu yn y brifddinas.

 

Fe fydd hwn yn cynnwys digwyddiad beicio cyfranogiad torfol proffil uchel gyda miloedd o feicwyr yn beicio ar hyd cylched o ffyrdd caeedig yng nghanol Caerdydd.

 

Mae cais ger bron i'r Cyngor gytuno ar bartneriaeth pum mlynedd, gyda'r opsiwn o ymestyn am hyd at dair blynedd, gyda Britich Cycling i alluogi cyflawni project beicio Dinasoedd Craidd y DU a noddir gan HSBC yng Nghaerdydd.

 

Fel rhan o'r cytundeb, byddai gofyn i Gaerdydd wneud cyfraniad cyfatebol blynyddol gwerth £100,000 un ai yn uniongyrchol neu yn rhannol dryw gyfrwng ‘gwerth mewn nwyddau'.

 

Mae'r cynnig yn golygu y byddai British Cycling, gyda chefnogaeth HSBC, yn buddsoddi £500,000 y flwyddyn a fydd yn cynnal rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau datblygu beicio a gaiff eu cynnig yng Nghaerdydd gan British Cycling mewn partneriaeth â Welsh Cycling a Chyngor Caerdydd.

Cynhaliwyd Taith Ddinesig lwyddiannus wedi ei threfnu gan British Cycling a'i noddi gan HSBC fis Awst eleni gyda 4,000 o feicwyr yn cymryd rhan.

Y dyddiad dros dro ar gyfer y Reid Ddinesig Dorfol yw Dydd Sul 13 Mai 2018, pan gaiff strydoedd canol y ddinas eu cau i greu cylched feicio di-draffig ar gyfer beicio.

Y nod yw gwneud y digwyddiad yn rhan o'r Diwrnod di-Draffig yn 2018.

Gobeithir y bydd y digwyddiad yn denu 8,000 o feicwyr.

 

Ar ben hynny, fe fydd rhaglen o deithiau grŵp tywys a chymorth i bob gallu.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng Caro Wild, fod cynyddu beicio fel dull o gael pobl i wneud eu teithiau beunyddiol o amgylch Caerdydd yn flaenoriaeth yng nghynllun pum mlynedd y Cyngor ar gyfer y ddinas - sef Uchelgais Prifddinas - gydag ymrwymiad i osod teithio actid wrth galon polisi cynllunio, trafnidiaeth a phriffyrdd.

 

Dywedodd hefyd: "Ein targed yw i dros 50% o deithiau gael eu gwneud ar feic, ar droed neu ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2026."

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild: "Mae'r potensial i dyfu beicio yng Nghaerdydd yn sylweddol gyda 28% o breswylwyr Caerdydd yn dweud nad ydyn nhw yn beicio ar hyn o bryd ond yr hoffen nhw wneud hynny."

 

Dywedodd: "Gall beicio wneud cyfraniad pwysig i annog patrwm iach o fyw ac hefyd gynnig datrysiad ymarferol i broblemau trafnidiaeth a llygredd sylweddol Caerdydd."

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild: "Mae uchelgais pellach gennym pan ddaw hi at feicio, gan gynnwys datblygu llwybrau mwy diogel i ysgolion a chynllun teithio actif ar gyfer beicio a cherdded i bob ysgol yng Nghaerdydd.

 

Adnoddau HSBC / British Cycling a rhaglenni'r cyngor ar y cyd fydd y ffordd ddelfrydol o wireddu ein huchelgais a bydd hefyd yn mynd law yn llaw â rhaglen flynyddol y cyngor o ran diogelwch ffyrdd a hyfforddiant mewn ysgolion.

 

Felly rwy'n hynod falch fod British Cycling wedi dewis Caerdydd i fod yn rhan o'r bartneriaeth hon, gyda Welsh Cycling a HSBC.

 

"Mae'r potensial ganddo i gynnig nifer o fuddion i Gaerdydd, gan gynnwys rhaglen gynhwysfawr o ddatblygu beicio wedi ei alinio a strategaeth feicio'r cyngor ac i ddatblygu enw da Caerdydd ymhellach fel ‘dinas feicio o safon byd.'

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae'r rhaglen gyffrous yma gan HSBC British Cycling yn cynnig cyfle heb ei ail i gyflawni pecyn cynhwysfawr yn targedu datblygiad beicio ar gyfer trafnidiaeth, hamdden a chwaraeon yng Nghaerdydd.

 

"Bydd hyn yn cynnwys cynnig modd i bobl ifanc gyfranogi ymhellach mewn beicio ar gyfer hamdden a chystadlaethau chwaraeon trwy gyfrwng clybiau beicio sy'n bodoli a rhai newydd a theithiau lleol."

 

Aeth y Cynghorydd Bradbury yn ei flaen i ddweud:"Nod y bartneriaeth fydd cynyddu cyfranogiad, recriwtio hyfforddwyr newydd a gwirfoddolwyr er mwyn cynnig llwybr i'r rhai hynny sy'n dangos addewid mewn beicio fel camp chwaraeon. Gan adeiladu ar lwyddiant Maendy, gobeithiwn ddarganfod y Geraint Thomas a'r Elinor Barker nesaf i gynrychioli Cymru ar lwyfan Byd."

 

Dywedodd hefyd: "Dyw croesawu digwyddiadau chwaraeon uchel eu proffil ddim yn beth dieithr i Gaerdydd, megis y Tour of Britain, Felothon Cymru a'r Daith Ddinesig hyfryd eleni."  

Bydd yr adroddiad yn rhoi'r cyfle i aelodau'r pwyllgor ystyried y cynigion cyn iddynt fynd i gyfarfod nesaf cabinet y Cyngor ar 16 Tachwedd.

 

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, y Cynghorydd Ramesh Patel: "Yn dilyn llwyddiant proffil uchel beicwyr o Gymru fel Geraint Thomas, Elinor Barker, Owain Doull a Luke Rowe rydym i gyd yn ymwybodol o dwf poblogrwydd beicio yma yng Nghymru a thros y DU. Mae cyhoeddusrwydd eang i fuddion iechyd ymarfer corff rheolaidd. Ond swyddogaeth fy Mhwyllgor yw i ddadansoddi'r glo mân yn y cynnig hwn ac i osod argymhellion ger bron y Cabinet ar pa un ai yw'r Bartneriaeth y ffordd gorau o hyrwyddo beicio yng Nghaerdydd."

 

Bydd yr eitem ar Bartneriaeth arfaethedig British Cycling / HSBC a Chyngor Caerdydd yn mynd ger bron y Pwyllgor am 6.10pm ar Ddydd Mawrth 7 Tachwedd.

 

Lleoliad y cyfarfod hwn fydd Ystafell Bwyllgor 4 yn Neuadd y Sir ac mae croeso i aelodau'r cyhoedd fynychu. Caiff y cyfarfod hefyd ei ddarlledu ar ddarllediad gwe byw y bydd modd ei weld yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home

 

Am fanylion llawn ar yr agenda ac i weld y papurau ar gyfer y cyfarfod ewch i: http://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=143&MId=3131&LLL=4