The essential journalist news source
Back
10.
November
2017.
Creu Caerdydd sy’n ddinas 24 awr fwy diogel a gwell

 

Bydd dod o hyd i ffyrdd o Wella economi'r hwyrnos yng Nghaerdydd a sicrhau Baner Borffor i'r ddinas yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn ystyried strategaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) newydd ar gyfer y ddinas.

Bydd yr adroddiad BGC, sy'n gosod ger bron yr argymhellion i wella dewisiadau cludiant, atal troseddu ac anrhefn ac i wneud y ddinas yn fwy diogel a chroesawgar i breswylwyr ac ymwelwyr gyda'r nos, yn cael ei drafod gan y Cabinet Ddydd Iau 16 Tachwedd.

Yn ddiweddar cyhoeddodd y Cyngor gynlluniau i wella cerddoriaeth fyw yn y ddinas ar ôl caffael safle ar Stryd Womanby i ddiogelu ardal gerddoriaeth fyw Caerdydd.

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Strategaeth Gerddoriaeth yn cael ei chreu a thrafodaethau ar y gweill gydag arbenigwyr byd yn y diwydiant cerddoriaeth, Sound Diplomacy, i ddatblygu cynllun gydag artistiaid lleol, busnesau a lleoliadau i wella ymhellach y sîn gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd.

Bydd Strategaeth Economi'r Nos y BGC yn cyfuno â'r gwaith yma a gyda'r Strategaeth Cysgu Ar y Stryd, sy'ch chwilio am ddatrysiadau i fegera bygythiol, sbwriel cyffuriau ac atal rheiny sy'n cymryd cyffuriau yn agored ar ein strydoedd.

Mae'r Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Thai wedi sefydlu ymrwymiad i weithio gyda'r holl asiantaethau perthnasol i fynd i'r afael â'r problemau ac ehangu ar y dewisiadau sydd gan bobl gyda'r nos yng Nghaerdydd.

Nododd y Cynghorydd Thorne: "Does dim dwywaith fod Caerdydd yn ddinas wych i ymweld â hi a rhan allweddol o'i atyniad yw economi'r nos. Mae trosiant canol y ddinas ar hyn o bryd tua £6.1 biliwn ac mae £400m o'r ffigwr hwnnw - traean ohono - yn dod o economi'r nos. Gyda 40 miliwn o bobl yn ymweld â chanol y ddinas bob blwyddyn rydym am sicrhau eu bod yn cael profiad gwych. Mae angen i ni ganolbwyntio ar greu amgylchedd ddiogel a chroesawgar i'n preswylwyr a'n hymwelwyr.

"Wrth edrych i'r dyfodol rydym am weithio gyda'n partneriaid i sicrhau statws Baner Borffor. Mae hon yn egwyddor debyg i statws baner Werdd ar gyfer parciau a thraethau ac sy'n dangos ein bod wedi cyrraedd safon o ragoriaeth.

"Mae economi'r nos wedi gwella'n sylweddol yn y blynyddoedd diweddar ond ni ellir edrych ar Gaerdydd yn unig fel dinas dda i gael parti ynddi. Rhaid bod uchelgais gennym i wneud mwy na hyn drwy gynnig economi nos amrywiol sy'n darparu ar gyfer ystod eang o oedrannau, yn cynnig cymysgedd sydd cystal â phrifddinasoedd mawr Ewrop. Dyna y mae'r strategaeth hon yn mynd i'r afael ag ef.


"Nid yw economi'r nos yn ymwneud â chanol y ddinas a Bae Caerdydd yn unig chwaith, mae'r dewisiadau sydd ar gael gyda'r nos yn ardaloedd Treganna a Heol y Plwca yn gwella. Rydym am barhau i dyfu economi'r nos ledled y ddinas ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid i wneud i hyn ddigwydd."