The essential journalist news source
Back
10.
November
2017.
Gallai Adeiladwr Twyllodrus wynebu carchar yn Llys y Goron Caerdydd


Ymddangosodd ADEILADWR TWYLLODRUS Marc Foley, cyfarwyddwr MAF Construction and Sons Ltd sydd bellach wedi'i ddiddymu, o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddoe ar ôl pledio'n euog i dri chyhuddiad o dan Reoliadau Amddiffyn Defnyddwyr.

Talwyd £25,650 mewn arian parod i Marc Foley o Allensbank Road yn y Mynydd Bychan, a hynny gan Diane McDonald ym mis Tachwedd 2015, er mwyn ail-wneud llofft yn ei chartref yng Nghyncoed.

Ym mis Rhagfyr 2016, roedd dŵr yn dechrau llifo i mewn o gwmpas y simnai ac roedd yna broblemau gyda'r rheiddiaduron.

Yn dilyn asesiadau gan Swyddogion Rheoli Adeiladau Cyngor Caerdydd ac arolwg strwythurol annibynnol, daeth yn amlwg nad oedd y gwaith a wnaethpwyd yn bodloni'r safonau gofynnol ac nid oedd gwarant ar gyfer y gwaith.

Roedd yn rhaid i Mrs McDonald dalu £27,000 ychwanegol gan gynnwys TAW i gwmni arall i gywiro'r gwaith er mwyn bodloni safonau adeiladau.

Yn yr Asesiad o'r Effaith ar y Dioddefwr, clywodd y llys fod Mrs McDonald wedi gorfod cael cymorth seiciatrig â'r straen a achoswyd gan Mr Foley.

 "Roedd yn ffrind i'r teulu ac roeddwn yn ymddiried yno. Roeddwn yn sicr y byddai'n gallu gwneud y gwaith. Rwyf wedi torri fy nghalon. Dim ond newydd ymddeol oeddwn i ac rwyf wedi gorfod mynd yn ôl i weithio er mwyn datrys hyn i gyd."

Disgrifiodd y Barnwr Rhanbarth Bodfan Jenkins y sefyllfa fel "achos arbennig o ddifrifol, gan fod y gwaith wedi'i gwblhau mewn modd esgeulus, gan anwybyddu technegau adeiladu a allai achosi niwed difrifol.

 "Yn fy marn i, dyma achos lle y mae elfen o dwyll ynghlwm wrtho, sef pan nad yw rhywun yn gwneud y gwaith yn iawn. Teimlaf fod hyn yn wir yn yr achos hwn ac oherwydd hyn, nid yw cosb ariannol yn ddigonol.

 "Credaf fod yn rhaid cyfeirio'r achos hwn at Lys y Goron. Mae mor ddifrifol fel bod angen i'r troseddwr fod yn y ddalfa yn seiliedig ar y materion sydd o'm mlaen i."

Ar ôl gofyn i Mr Foley sefyll, dywedodd y Barnwr Rhanbarth Bodfan Jenkins: "Marc Foley, gwnaethoch weithredu'n anonest, methu ag ymdrin â'r problemau mewn modd priodol, methu ag anrhydeddu gwarant ac roedd eich gwaith ymhell o dan y safonau a hynny'n achosi perygl.

 "Rwy'n cyfeirio'r mater hwn at Lys y Goron ar gyfer Dedfrydu o dan Adran 3 Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000"

Rhyddhawyd Marc Foley ar fechnïaeth a'i orchymyn i fynychu Llys y Goron Caerdydd am 10.00am, 23 Tachwedd.