Pwyllgor i adolygu safonau tacsis yng Nghaerdydd
Mae disgwyl i Bwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd dderbyn eitem ar wasanaethau tacsi Caerdydd yn ei gyfarfod ar ddydd Mawrth, 3 Hydref 2017.
Yn y cyfarfod, bydd cynghorwyr sy'n cefnogi'r Pwyllgor yn adolygu safonau tacsis cyfredol yn y ddinas; trafod yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant tacsis yng Nghaerdydd ac ystyried sut i wneud gwelliannau.
Eglurodd y Cynghorydd Ramesh Patel, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd, a fydd yn cadeirio'r cyfarfod:
"Mae tacsis sy'n gweithredu yng Nghaerdydd yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o sicrhau bod ein dinas yn symud.
"Maent yn cefnogi pob rhan o'r gymdeithas, ond yn benodol maent yn wasanaeth hanfodol i lawer o'n pobl sydd fwyaf agored i niwed. Mae hyn yn golygu bod gan y Cyngor gyfrifoldeb i sicrhau safonau uchel.
"Canfyddiad y cyhoedd yw bod nifer o broblemau gyda gwasanaethau tacsi yng Nghaerdydd, er enghraifft, eu bod yn gwrthod siwrneiau byrion ac yn achosi rhwystr ar lonydd bysus.
"Rôl y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yw rhoi'r canfyddiad hwn ar brawf a gwneud awgrymiadau i wella'r sefyllfa os yw'n ystyried bod hynny'n angenrheidiol."
Bydd yr eitem ar Wasanaethau Tacsi yng Nghaerdydd yn cael ei dderbyn gan Bwyllgor Craffu Amgylcheddol am 5.30pm ddydd Mawrth, 3 Hydref.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Ystafell Bwyllgor 4 yn Neuadd y Sir, ac mae croeso i aelodau'r cyhoedd fynychu. Gall y cyhoedd hefyd wylio'r cyfarfod ar weddarllediad byw drwy fynd ar:
https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/309873
I gael manylion am agenda'r cyfarfod llawn ac i weld papurau'r cyfarfod, ewch i:
http://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=143&MId=3123&LLL=0