Gwefan newydd yn siop untro ar gyfer gwasanaethau llesiant
Mae gwefan newydd wedi ei lansio yn cynnig siop untro i breswylwyr Caerdydd a Bro Morgannwg i allu derbyn gwybodaeth am ystod o wasanaethau llesiant, gweithgareddau a'r cymorth sydd ar gael iddynt hwy a'u teuluoedd.
Wedi ei lansio yr wythnos hon, mae Dewis Cymru yn gyfeirlyfr ar-lein newydd sy'n galluogi defnyddwyr i gyrchu gwybodaeth am wasanaethau mewn meysydd fel iechyd, gofal, buddion, rheoli arian, clybiau, gweithgareddau a chymorth i deuluoedd.
Gyda thros 1,500 o adnoddau llesiant eisoes wedi eu cofrestru gyda Dewis Cymru, mae wedi ei gynllunio i helpu preswylwyr i ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnynt heb orfod mynd at weithiwr proffesiynol neu ffonio am help.
Gall pobl sy'n mynd ihttps://www.dewis.cymru/ddewis y categori sydd o ddiddordeb iddynt ac mae ystod o gyngor a dolenni at wasanaethau ar gael.
Mae hefyd yn bosib defnyddio cod post i chwilio yn ôl lleoliad i ddod o hyd i wasanaeth penodol, neu weithgaredd mewn ardal arbennig.
Dywedodd y Cyng Susan Ellmore, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant yng Nghyngor Caerdydd: "Mae gwefan Dewis Cymru yn le gwych i fynd iddo os ydych yn dymuno darganfod pa fath o wasanaethau, gweithgareddau, clybiau a chymorth sydd ar gael lle rydych chi'n byw."
Ychwanegodd: "Mae cymaint o wybodaeth ar y wefan gyda thudalennau am lesiant, bod yn gymdeithasol, bod adref, cadw'n ddiogel, rheoli eich arian, plant a theuluoedd a gofalu am rywun.
"Buaswn yn annog preswylwyr i gymryd cipolwg drostynt eu hunain."
Ac os oes gwasanaeth gennych sy'n helpu pobl o safbwynt eu llesiant, gallwch ychwanegu eich manylion at Dewis Cymru, waeth pa mor fawr neu fychan ydych, neu os ydych yn wirfoddolwyr.
I ddarganfod mwy, ewch ihttps://www.dewis.cymru/