The essential journalist news source
Back
25.
July
2017.
Cylch Chwarae Fun Start yw Meithrinfa Gynaliadwy Cyn Ysgol gyntaf Caerdydd
 Mae Cylch Chwarae Fun Start yn dathlu cwblhau Cynllun Cyn Ysgolion Iach a Chynaliadwy Caerdydd yn gyntaf o blith y Meithrinfeydd.

Mae’r cynllun, sydd wedi ei ariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a sydd wedi’i redeg gan Wasanaeth Addysg Cyngor Caerdydd, yn cydnabod cyfraniad meithrinfeydd at iechyd a llesiant plant ifanc, ac mae’n gwobrwyo eu hymdrechion mewn saith maes gwahanol:

  • Iechyd y Geg a Maeth
  • Gweithgareddau Corfforol a Chwarae Actif
  • Diogelwch
  • Iechyd Meddyliol ac Emosiynol, Llesiant a Pherthnasoedd
  • Ymwybyddiaeth Amgylcheddol
  • Hylendid
  • Iechyd y Gweithle a Llesiant i Staff

Dywedodd y Cynghorydd Graham Hinchley, yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd:“Rwyf am longyfarch staff, plant a rhieni Cylch Chwarae Fun Start ar fod y cyntaf i gwblhau ein Cynllun Meithrinfeydd Iach a Chynaliadwy Caerdydd.Maen nhw wedi gweithio’n hynod o galed i gyrraedd meini prawf y cynllun ac fe ddylen nhw ymfalchïo yn eu llwyddiant.

“Mae iechyd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn hollbwysig, a gorau po gyntaf y mae plant ifanc yn dysgu am fuddion bwyta’n dda ac aros yn ddiogel. Dyna pam y mae Cynllun Meithrinfeydd Iach a Chynaliadwy Caerdydd mor bwysig.”

Wedi ei osod ar dir Ysgol Gynradd Santes Fair yr Eglwys yng Nghymru, caiff Cylch Chwarae Fun Start ei reoli gan yr arweinydd Feng Ying Vellam, gyda chymorth gan Gymdeithas Darparwyr Meithrinfeydd Cymru a’i ariannu gan Dechrau’n Deg Caerdydd..

Gan groesawu’r llwyddiant, dywedodd Feng Ying Vellam:“Mae llesiant y plant sy’n mynychu Fun Start o bwys mawr i ni, ac rwy’n falch bod ein hymdrechion dros y tair blynedd diwethaf, gyda chymorth Swyddog y Cynllun Meithrinfeydd Iach a Chynaliadwy, Maia Banks, wedi cael eu cydnabod.

“Rydyn ni wedi rhoi cymaint o waith i mewn i hyn, cynnwys y plant ym mhopeth o weithgareddau coginio iach i ddeor wyau, gwneud modelau o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu, cael staff sydd wedi eu hyfforddi mewn meysydd fel maeth a rheoli ymddygiad, yn ogystal â sicrhau ein bod yn edrych ar ôl iechyd a llesiant y staff.

“Mae popeth rydym wedi ei wneud i gyrraedd meini prawf y cynllun wedi cael effaith mor gadarnhaol, rwy’ wir yn credu bod Fun Start yn lle hapusach, mwy iach a mwy diogel i bawb nawr.”