The essential journalist news source
Back
21.
July
2017.
Dirwy o £10,000 wedi canfod cynnwys brechdan 45 diwrnod yn hŷn na’i ddyddiad darfod ar werth

Dirwy o £10,000 wedi canfod cynnwys brechdan 45 diwrnod yn hŷn na'i ddyddiad darfod ar werth

 

Mae cwmni o Gaerdydd a'i gyfarwyddwr wedi derbyn dirwy o £10,000 ar ôl darganfod cynnwys brechdan ar werth yn un o'r siopau a oedd 45 diwrnod yn hŷn na'r dyddiad darfod.

 

Roedd y cynnwys brechdan cyw iâr a mayonnaise yn un o'r 12 eitem ar werth yn Bargain Booze, 40 Tweedsmuir Road, Tremorfa, Caerdydd, yr oedd eu dyddiad darfod wedi bod pan aeth arolygydd o Gyngor Caerdydd yno ym mis Mehefin y llynedd.

 

Roedd yr eitemau eraill yn cynnwys pwdin gwaed, peli toes a dip garlleg a bacwn heb ei fygu 22, 12 a 10 diwrnod wedi'u dyddiadau darfod.

 

Derbyniodd Gurnham and Sons Ltd, sy'n rhedeg tair siop Bargain Booze yn ne Cymru, a'r cyfarwyddwr, Gurpreet Randhawa, ddirwy pan ymddangosodd Mr Randhawa yn Llys yr Ynadon ddydd Iau, Gorffennaf 12.

 

Roedd Mr Randhawa eisoes wedi pledio'n euog i roi bwydydd ar werth a oedd yn hŷn na'r dyddiad darfod yn groes i Reoliad 4 Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004.

 

Roedd y papurau erlyn a gyflwynwyd i'r llys yn dangos y derbyniodd y Cyngor gŵyn ym mis Mehefin 2016 gan siopwr a oedd wedi prynu brechdan cyw iâr a mayonnaise o Bargain Booze, 40 Tweedsmuir Road gan honni iddo fynd yn wael yn syth wedi bwyta rhan ohoni.

 

Pan edrychodd ar y paced, gwelodd fod y frechdan dridiau wedi'r dyddiad darfod.

 

Cychwynnodd Cyngor Caerdydd ymchwiliad ac roedd manylion y papurau erlyn yn dangos bod swyddog wedi dod o hyd i 12 eitem hŷn na'r dyddiad darfod.

 

Yn ystod cyfweliad dan rybudd, darganfuwyd nad oedd gan Mr Randhawa system reoli bwyd effeithiol er mwyn chwilio am fwyd hŷn na'r dyddiad darfod.

 

Dywedodd yn ei gyfweliad ei fod wedi dweud wrth y gweithwyr am edrych ond nid oedd yn gallu dangos bod hyfforddiant wedi digwydd na bod yr hyfforddiant hwnnw'n effeithiol.

 

Nid oedd polisïau ysgrifenedig na gweithdrefnau monitro yn dangos eu bod yn chwilio am fwydydd hŷn na'r dyddiadau darfod.

 

Dywedodd ei fod wedi rhoi hyfforddiant ar lafar ond nid oedd yn gallu dangos cofnodion hyfforddiant.

 

Dywedodd Mr Randhawa o Station Road, Ystum Taf, Caerdydd ei fod yn ymweld â'r siop bob ychydig ddyddiau ond nad oedd wedi sylwi bod y cynnwys brechdan wedi bod ar ddangos am o leiaf 45 diwrnod na bod dyddiad darfod y pwdin gwaed wedi bod ers 22 diwrnod.

 

Fel dadl er mwyn lliniaru'r achos, dywedodd Kate Lane dros Gurnham and Sons Ltd a Mr Randhawa bod Mr Randhawa'n deall difrifwch y drosedd a'i fod wedi gwneud ymdrech gref ers hynny i unioni'r broblem.

Dywedodd fod Cyngor Caerdydd wedi ymweld â'r siop yn Nhremorfa ddwywaith ers canfod y drosedd ac na chafwyd cwyn arall.

Dywedodd Miss Lane fod Mr Randhawa wedi newid holl staff y siop.

Dywedodd: "Mae'r rheolwr newydd yn dra chymwys ac mae cynllun hyfforddi wedi ei sefydlu er mwyn sicrhau eu bod yn edrych ar y dyddiadau bob dydd. Mae Mr Randhawa'n hyderus ei fod wedi unioni'r methiannau."

Pan aeth swyddog o Gyngor Caerdydd yn ôl i ymweld â'r siop yn Tweedsmuir Road ym mis Mehefin eleni, roedd yr holl fwyd ar ddangos yn iawn o ran dyddiad ac roedd llawer llai o stoc oer a ffres.

Nid yw Gurnham and Sons Lts na Mr Randhawa wedi derbyn euogfarn flaenorol.

Bu i'r Barnwr Rhanbarth, Bodfin Jenkins, gyflwyno dirwy o £9,000 a gorchymyn talu costau o £150 i Gurnham and Sons Limited yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau 13 Gorffennaf.

Hefyd, cyflwynodd ddirwy o £1,000 i Mr Randhawa a chostau o £150 i'w talu.

Gorchmynnwyd Mr Randhawa i dalu iawndal o £200 i'r achwynydd hefyd.

Yn dilyn yr achos, dywedodd y Cyng. Michael Michael, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Dylai'r dirwyon a gyflwynwyd yn yr achos hwn yn Llys yr Ynadon ddangos heb os i bobl bod diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig.

"Dylai hyn ddangos neges glir y cymerir camau gweithredu cadarn pan fo angen er mwyn diogelu iechyd a diogelwch y cyhoedd."