Bydd Rasio Beiciau Modur yn ôl ym Mhrifddinas Cymru ddydd Sadwrn hwn ar gyfer yr Adrian Flux British FIM Speedway Grand Prix.
Yn rhan o'r gystadleuaeth rasio, bydd beicwyr yn rasio ar y trac ar feiciau modur 500cc, heb frêcs, hyd at 70 MYA. Mae'r beiciau yn rhedeg ar Fethanol sy'n danwydd ecogyfeillgar.
O'i gymharu â digwyddiadau Speedway blaenorol, fe fydd mwy o fesurau diogelwch ar waith yn Stadiwm Principality, a mwy o gyfyngiadau ar yr hyn sy'n cael ei ganiatáu a'i wahardd yn y digwyddiad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma -http://www.principalitystadium.wales/security.php#.WXCBwk0kvcs
Disgwylir y bydd 45 000 o bobl yno i wylio'r digwyddiad. Bydd y gatiau yn agor am 3.30pm a bydd y ras gyntaf yn dechrau am 5.15pm. I sicrhau diogelwch y sawl a fydd yn bresennol, bydd nifer fechan o ffyrdd canol y ddinas ar gau yn ystod y digwyddiad hwn.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 3pm a 9.30pm:
Heol y Porth
Heol y Parc
Heol Scott
Am resymau diogelwch, os oes angen, bydd modd i'r Cyngor gau Stryd Wood, Pen isaf Heol Eglwys Fair, gydag un lôn ar gau ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, gyfagos â Giât 1.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 5pm ac 8pm i hwyluso'r Ardal Gefnogwyr ar lawnt Neuadd y Ddinas
Rhodfa'r Brenin Edward VII o'r gyffordd â Neuadd y Ddinas i'r gyffordd â Boulevard de Nantes.
Os bydd y digwyddiad yn gorffen am 8pm - bydd y mesurau cau ychwanegol ar waith rhwng 7.45pm a 8.45pm:
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen rhwng y gyffordd â Heol y Gadeirlan a'r gyffordd â Heol y Porth.
Heol y Castell, Heol y Dug a Stryd Wood.
Yn ôl yr awdurdodau, os oes unrhyw bryderon ynglŷn â diogelwch y system giwio yng Ngorsaf Drenau Caerdydd Canolog, bydd y ffyrdd canlynol ar gau hyd nes bod y broblem yn cael ei datrys: Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty.
Oes modd beicio neu gerdded?
Efallai y bydd y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd yn dymuno beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos i ni fod 52% o'r teithiau car sy'n cael eu gwneud ym Mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Gellid beicio'r pellter hwn mewn 20 munud yn hawdd. Rydym hefyd yn gwybod yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio i'r gwaith ar hyn o bryd wneud hynny. Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae beicio hyd yn oed yn fwy atyniadol gan y byddai mynd ar gefn beic yn gynt na gyrru yn ystod yr oriau brig neu pan fydd digwyddiadau mawr.
Trenau
Bydd system giwio ar waith yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, ewch:http://www.arrivatrainswales.co.uk/principalitystadium/
Bydd Gorsaf Heol-y-Frenhines yn cau ychydig cyn diwedd y digwyddiad. Bydd pob trên yn gadael o Orsaf Drenau Caerdydd Canolog.
Cynghorir teithwyr i brynu tocyn (un dwyffordd os oes angen) o'r peiriant/swyddfa docynnau cyntaf sydd ar gael neu oddi ar ap tocynnau Trenau Arriva Cymru cyn mynd ar y trên. Bydd Timau Gwarchod Refeniw yn gweithredu yn ystod y digwyddiad yma. Fel gyda phob digwyddiad mawr yng Nghaerdydd, cynghorir cwsmeriaid i gynllunio ymlaen llaw -www.arrivatrains.wales/events
Parcio a Theithio i'r Digwyddiad - Stadiwm Dinas Caerdydd
Mae cyfleuster Parcio a Theithio'r Digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd (Lecwydd).
Codir tâl o £8 os ydych yn archebu tocyn ymlaen llaw trwywww.parkjockey.com/principality-stadiumneu £10 mewn arian parod ar y dydd.
Bydd staff ar gael yn y maes parcio o Hanner Dydd ymlaen. Bydd y bws cyntaf yn gadael am 12.30pm a bydd y bws olaf yn gadael y man codi teithwyr am 11.30pm.
I deithio i'r cyfleusterau parcio a theithio, gadewch yr M4 wrth Gyffordd 32. Y man gollwng i deithwyr yw Gogledd Ffordd Tresilian, y tu cefn i Orsaf Drenau Caerdydd Canolog.
Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad
Gerddi Sophia - Bydd cyfleusterau parcio ar y dydd ar gael yng Ngerddi Sophia a £15 fydd y gost mewn arian parod.Nid oes modd archebu ymlaen llaw.
Bydd staff ar gael yn y maes parcio tan hanner nos. I gyrraedd Gerddi Sophia gadewch yr M4 ar gyffordd 32.
Y Ganolfan Ddinesig- Rheolir mynediad at y Ganolfan Ddinesig. Caniateir mynediad i barcio yn ystod diwrnod y digwyddiad, llwytho ac i gael mynediad i feysydd parcio preifat. Bydd hynny'n cael effaith ar y ffyrdd canlynol: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd. Codir tâl o £15, i'w dalu ar y diwrnod, mewn arian parod neu £12 os byddwch yn archebu tocyn ymlaen llaw trwyhttps://www.parkjockey.com/principality-stadium
Bydd y maes parcio'n agor am 8am a bydd yn cau am hanner nos.
Parcio i Fysiau
Bydd parcio i fysiau ar gael yn y Ganolfan Ddinesig a £20 fydd y gost i bob bws, i'w thalu ar y diwrnod. Gallwch archebu parcio ar gyfer bws ymlaen llaw drwy ddilyn y ddolen ganlynol -https://www.parkjockey.com/principality-stadium
Parcio i Bobl Anabl
Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Bydd lleoedd ychwanegol ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Ewch i'r gwefannau perthnasol i weld lleoedd a fydd ar gael.
Bysiau
Bydd bysiau yn cael eu dargyfeirio o safleoedd ynghanol y ddinas. Os nad oes modd cyrraedd safleoedd ar ffyrdd a fydd ar gau, bydd bysiau'n mynd naill ai i Ffordd Churchill ar gyfer y Dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion ar gyfer y Gogledd neu Tudor Street ar gyfer y Gorllewin. Ewch i wefannau'r gwahanol gwmnïau bysiau i weld y newidiadau i'w gwasanaethau:
I weld gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i -www.bwscaerdydd.co.uk
I weld Gwasanaethau New Adventure Travel, ewch i -https://www.natgroup.co.uk/
I weld Gwasanaethau Stagecoach, ewch i -www.stagecoachbus.com
Parcio i Siopa
Dylai siopwyr fanteisio ar y safleoedd Parcio a Theithio dynodedig ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir.
Neu bydd meysydd parcio ynghanol y ddinas hefyd ar gael:
Meysydd Parcio Heol y Gogledd
Canolfan Siopa Dewi Sant
John Lewis
Canolfan Siopa'r Capitol
NCP - Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion
National Express- bydd bysiau National Express yn defnyddio Gerddi Sophia yn ôl yr arfer.
Tacsis- Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) ar gau ar ôl 6:00pm a chaiff ei hailagor am 11.30pm.
Nid effeithir ar Safle Tacsis Lôn y Felin a bydd ar agor trwy gydol y dydd a'r nos.