The essential journalist news source
Back
13.
July
2017.
Diwrnod Agored yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig

Bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig er mwyn ceisio chwalu mythau a chamddealltwriaeth gyffredin o'r broses amlosgi, ac er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o wasanaethau sydd ar gael i bobl sydd wedi cael profedigaeth.

 

Yn rhan o'r digwyddiad ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf, rhwng 10am a 2pm, bydd sgyrsiau am hanes a symbolaeth gwasanaethau coffa, dulliau o ddygymod â phrofedigaeth, sesiwn cwestiwn ac ateb â phanel o arbenigwyr, stondinau gwybodaeth lleol, a chyfle i fynd ar daith dywys drwy'r amlosgfa.

 

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Profedigaeth: "Nid yw'n peri syndod bod gan bobl duedd i osgoi siarad am brofedigaeth, ond weithiau y sgyrsiau mwyaf anodd yw'r sgyrsiau mwyaf gwerthfawr o'u trin mewn modd sensitif. Nod y Diwrnod Agored yma yw rhoi gwybodaeth i bobl a fydd yn eu helpu i wneud dewisiadau cytbwys dros eu hunain a'r sawl sydd fwyaf annwyl iddyn nhw pan ddaw'r amser."

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cardiffbereavement.co.uk neu ffoniwch 029 2054 4820.