Datganiad Arweinydd Cyngor Caerdydd yn dilyn cyhoeddiad Tesco UK
Mae Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, wedi cadarnhau y bydd y Cyngor yn galw am gyfarfod brys â Phrif Swyddog Gweithredol cwmni Tesco UK. Y nod fydd darganfod rhesymau'r cwmni dros ei benderfyniad a chynnig cymorth i staff y mae'n effeithio arnyn nhw.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae economi Caerdydd yn dangos arwyddion clir o dyfiant. Mae'r ffigurau diweddaraf yn datgelu y bu cynnydd o 6% mewn cyflogaeth, mwy nag unrhyw un o ddinasoedd craidd eraill y DU. Yn ogystal â hynny bu gostyngiad o 30% yn nifer y bobl ddi-waith yn y ddinas.
"Mae Tesco yn gwmni strategol yng Nghymru ac yn yr hinsawdd economaidd bresennol sydd ohoni, mae'r penderfyniad hwn yn peri syndod a siom.
"Mae angen i ni ddeall y rhesymau dros y penderfyniad a'r pecyn dileu swydd sy'n cael ei gynnig i'r staff y mae wedi effeithio arnyn nhw.
"Mae gan Tesco weithlu medrus iawn, felly mae angen i ni weithio â Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Byd Gwaith a darparwyr hyfforddiant fel Coleg Caerdydd a'r Fro i roi cymaint â chymorth ag y gallwn, ac i weld p'un a oes modd i ni baru sgiliau â busnesau presennol a chwmnïau sy'n dewis buddsoddi ym Mhrifddinas Cymru.
"Yn ddiweddar cyhoeddwyd mai Caerdydd yw'r lleoliad gorau ond dau i swyddfeydd yn y DU. Mae lefelau buddsoddi ar gynnydd, felly mae ein dinas yn lle sy'n fwyfwy deniadol i fasnachu. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu a'n cylch gwaith i ddod o hyd i'r datrysiad gorau posibl i'r sawl y mae'r penderfyniad hwn wedi effeithio arnyn nhw.