The essential journalist news source
Back
20.
June
2017.
Datganiad gan Arweinydd Cyngor Caerdydd yn dilyn y digwyddiad y tu allan i’r mosg yn Llundain

Datganiad gan Arweinydd Cyngor Caerdydd yn dilyn y digwyddiad y tu allan i'r mosg yn Llundain

Y Cyng Huw Thomas yn siarad am y digwyddiad sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd i ddathlu popeth sy'n gwneud ein dinas a'n cymunedau yn un

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Fel pawb rwy'n ei adnabod, roeddwn yn drist iawn ac wedi dychryn o glywed am y digwyddiad y tu allan i fosg yn Llundain yn ystod oriau mân bore Llun, a gweld adroddiadau yn y newyddion bod dyn o Gaerdydd wedi'i arestio mewn cysylltiad â'r drosedd hon.

"Byddwn ni, y Cyngor, yn ymdrechu'n galetach ar y cyd ag asiantaethau a phartneriaid eraill i roi sicrwydd i holl gymunedau Caerdydd bod croeso iddyn nhw, a'u bod yn ddiogel yma.

"Mae Caerdydd bob amser wedi'i hadnabod fel dinas groesawgar, dinas sy'n dathlu amrywiaeth, dinas sy'n cydsefyll mewn cyfnodau anodd. Mae'n bwysig ein bod yn cydsefyll yn awr, gan beidio â gadael i gasineb a'r sawl sy'n hyrwyddo casineb hollti ein cymunedau.

"Ddydd Gwener yma, ar lawntiau Neuadd y Ddinas o 9pm ymlaen, bydd y gymuned Foslemaidd yng Nghaerdydd yn cynnal Ramadan Iftar arbennig - digwyddiad lle y bydd croeso i bawb ddathlu diwedd yr ympryd dyddiol yn rhan o Ŵyl Ramadan.

"Cafodd y digwyddiad ei drefnu er mwyn bwydo'r digartref a chroesawu ffoaduriaid i'n dinas. Mae hefyd yn agored i unrhyw un a hoffai ddod i fanteisio ar y cyfle hwn i ddathlu popeth sy'n rhwymo ein dinas a'n cymunedau ynghyd. Mae'n gyfle i ddangos na fyddwn ni'n cael ein hannog i droi yn erbyn ein gilydd. Nid yw Caerdydd erioed wedi bod felly ac ni fydd hi byth felly ychwaith.

"Byddaf yno ddydd Gwener ac rwy'n gobeithio y bydd y sawl sy'n gallu yn ymuno â ni o flaen Neuadd y Ddinas i ddathlu'r gwerthoedd y mae pob un ohonom yn eu rhannu; cariad teuluol, cyfeillgarwch, bod yn gymdogion da, gofalu am eraill a dealltwriaeth. Mae gennym ni fwy yn gyffredin o lawer nag y bydd y rhai sy'n ceisio ein troi'n elynion, byth yn ei sylweddoli."