The essential journalist news source
Back
25.
May
2017.
Cyhoeddi Arglwydd Faer a Dirprwy Arglwydd Faer Newydd Caerdydd

Cyhoeddi Arglwydd Faer a Dirprwy Arglwydd Faer Newydd Caerdydd

 

Mae Bob Derbyshire, un o gynghorwyr mwyaf profiadol Caerdydd, wedi'i benodi yn 113eg Arglwydd Faer Caerdydd.

 

Mae Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Derbyshire, yn gynghorydd ar gyfer ward Tredelerch.

 

Yn briod gyda dau o blant a saith o wyrion, dywedodd y Cyng. Derbyshire ei fod yn falch iawn o gael ei ddewis i fod yn Arglwydd Faer newydd. Ei wraig, Caroline Derbyshire, fydd yr Arglwydd Faeres.

 

Dywedodd y Cyng. Derbyshire: "Mae'n anrhydedd mawr i gael fy newis yn 113eg Arglwydd Faer Caerdydd. Rwy'n cydnabod yr her o fod yn Arglwydd Faer a hyrwyddo Caerdydd i'r bobl sy'n dod i ymweld â'n dinas wych."

 

Ychwanegodd: "Penderfynais ddod i Gaerdydd am gyfnod byr ym 1981, ond roeddwn i'n dwlu ar y lle cymaint nad ydw i fyth wedi gadael! Gwerthodd Caerdydd ei hun i mi."

 

Dywedodd: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael cyfle i ddweud wrth bawb pa mor wych yw Caerdydd."

 

Y Cyng. Daniel De'Ath yw'r Dirprwy Arglwydd Faer, cynghorydd ar gyfer ward Plasnewydd. Ei bartner, Rebecca Crump, fydd y Dirprwy Arglwydd Faeres.

 

Yn dad i ddau o blant ifanc, dywedodd y Cyng. De'Ath ei fod yn falch iawn i ddod yn Ddirprwy Arglwydd Faer Caerdydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Ychwanegodd: "Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi i'r swydd hon. Rwy'n gobeithio y byddaf yn gallu defnyddio'r flwyddyn hon i ymgysylltu â chymunedau, ac yn benodol, pobl ifanc y ddinas.

 

"Byddaf hefyd yn chwarae rhan lawn wrth gefnogi'r Cynghorydd Derbyshire i fod yn Arglwydd Faer."

 

Mae'r Cyng. Derbyshire yn disodli'r Cyng. Monica Walsh yn swydd yr Arglwydd Faer, a bydd y Cyng. De'Ath yn disodli'r Cyng. Georgina Phillips yn swydd y Dirprwy Arglwydd Faer.

 

Yr Arglwydd Faer yw'r prif gennad o ran swyddogaethau dinesig y ddinas. Mae'n rhaid i'r Arglwydd Faer fod yn niwtral yn wleidyddol yn ystod y swydd a chadeirio cyfarfodydd y cyngor.

 

Bydd y Dirprwy Arglwydd Faer yn cefnogi'r Arglwydd Faer gyda swyddogaethau dinesig y Ddinas.