The essential journalist news source
Back
11.
May
2017.
ROWNDIAU TERFYNOL CYNGHRAIR Y PENCAMPWYR UEFA - Y CYFAN SYDD ANGEN I CHI EI WYBOD

 

ROWNDIAU TERFYNOL CYNGHRAIR Y PENCAMPWYR UEFA - Y CYFAN SYDD ANGEN I CHI EI WYBOD

 

GŴYL Y PENCAMPWYR UEFA

Bydd yr ŵyl 4 diwrnod hon yn wledd o bêl-droed ym Mae Caerdydd, o ddydd Iau 1 Mehefin i ddydd Sul 4 Mehefin.

Bydd elfennau o'r ŵyl hon, sydd am ddim, yn cael eu cynnal yn Roald Dahl Plass, Canolfan Mileniwm Cymru a'r Eglwys Norwyaidd.

Bydd ar agor o 11am i 11pm ddydd Iau 1 Mehefin a dydd Gwener 2 Mehefin; ac o 11am i 5pm ddydd Sadwrn 3 Mehefin a dydd Sul 4 Mehefin. Gall yr amseroedd newid.

Ni fydd yr ŵyl yn dangos y ffeinal ar 3 Mehefin.

Bydd y gwaith o osod safle'r ŵyl yn dechrau ar 12 Mai. Efallai y bydd rhai cyfyngiadau bach, dros dro ar y defnydd o lonydd.

Mae'r holl wybodaeth am gyfyngiadau a'r ffyrdd fydd ar gau ar gael ynwww.cardiff2017.wales

Bydd Prif Lwyfan y Pencampwyr yn Roald Dahl Plass, gyda llwyth o artistiaid, DJs a bandiau byd-eang a lleol yn perfformio drwy'r dydd.

Am y tro cyntaf, bydd Cae'r Pencampwyr yn arnofio yn y Bae ac yn cynnal Gêm hir ddisgwyliedig Pencampwyr Pennaf UEFA ddydd Gwener 2 Mehefin, gyda chwaraewyr chwedlonol yn dangos eu doniau.

Y llynedd, chwaraeodd Roberto Carlos, cyn-chwaraewr Brasil a Read Madrid, Luís Figo o Bortiwgal a Lothar Matthäus o'r Almaen.

Bydd y cae hefyd yn croesawu gweithgaredd cymunedol, gan gynnwys pêl-droed cerdded, timau ffoaduriaid o Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd, gêm bêl-droed ryngwladol i bobl fyddar, gemau i chwaraewyr ag anabledd dysgu a gemau ieuenctid.

Bydd Oriel y Pencampwyr UEFA, amgueddfa sy'n dathlu hanes UCL, yn yr eiconig Ganolfan y Mileniwm.

Bydd yr oriel hefyd yn dathlu ac yn arddangos y gwaith gwych sy'n cael ei wneud ledled Cymru gan glybiau, ysgolion a chymunedau. Bydd hefyd yn cynnwys gweithdy ar amrywiaeth o bynciau fel ffotograffiaeth chwaraeon, ysgrifennu creadigol a chynhyrchu fideo.

Bydd yr Oriel hefyd yn dangos y gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o Fentrau Cysylltu â'r Gymuned gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn ystod y cyfnod sy'n arwain at y rowndiau terfynol, gan gynnwys Adnodd Cwricwlwm 2017 Caerdydd, a grëwyd ar gyfer pob ysgol gynradd yng Nghymru, a'r gystadleuaeth ffotograffiaeth #ThisIsWelshFootball.

Bydd Adeilad y Pierhead yn cael ei weddnewid yn Arena Rithwir y Pencampwyr, gan gynnig profiad rhithwir cyflawn.

Bydd llawer o'r gosodiadau gan UEFA yn ceisio ymgysylltu â'r cefnogwyr, gydag arddangosfa Tlws eiconig Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn goron ar y cyfan, sy'n rhoi'r cyfle i ymwelwyr gymryd llun gyda thlws mwyaf eiconig y byd pêl-droed gyda Bae Caerdydd yn gefndir hardd.

Bydd bwyd a diod ar gael o'r stondinau a digonedd o bethau i'w gweld a'u gwneud bob dydd.

Bydd rhestr lawr o weithgareddau ar gael ynwww.cardiff2017.wales

 

LLETY I GEFNOGWYR SY'N TEITHIO YMA

Gan fod yr holl westai'n llawn, bydd maes gwersylla'n cael ei adeiladu yng Nghaeau Pontcanna i sicrhau bod llety fforddiadwy ar gael i ymwelwyr sy'n dod i'r ddinas ar gyfer Rowndiau Terfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA -campingninja.com/camp-cardiff-2017/

Bydd y maes gwersylla, a fydd yn cynnwys cyfleusterau gwersylla a glampio a gaiff eu codi ymlaen llaw, yn cael ei osod o ddydd Llun 22 Mai, ac ar agor o 31 Mai i 5 Mehefin.

Y bwriad yw creu lle i 5000 o gefnogwyr gysgu mewn amrywiaeth o bebyll 2, 4 ac 8 person a gaiff eu codi ar siâp crys pêl-droed.

Ni fydd parcio ar gael ar y safle ond i'r rheini sydd wedi cadw lle yn yr ardaloedd VIP a glampio.

Dylai gwersyllwyr ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd Caerdydd. Dylai'r rheiny sydd yn gyrru, ddefnyddio cyfleusterau parcio a theithio'r ddinas.

Mae'r safle'n gyfleuster gwahanol iawn i'r Eisteddfod Genedlaethol o ran maint a'r cyfnod amser, a bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn sicrhau bod y parc yn cael ei ddiogelu i'w ddefnyddwyr.

Nid yw'r cyngor yn disgwyl gweld llawer o ddifrod i'r glaswelltir, ond bydd rhaglen adfer yn cael ei rhoi ar waith i ddelio ag unrhyw ddifrod sydd yn digwydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y parciau, cliciwch yma:www.parc-bute.com

 

 

 

 

RHOI GWYBODAETH I DRIGOLION A BUSNESAU

Dechreuodd swyddogion y Cyngor raglen ymgysylltu wyneb yn wyneb gyda phob busnes yn yr Ardal Ddiogelwch Fewnol ar 27 Mawrth.

Mae'r Ardal Ddiogelwch Fewnol yn ardal ddiogel o amgylch y stadiwm lle bydd lefel eithriadol o uchel o weithrediadau diogelwch ar waith.

Mae swyddogion y Cyngor yn gweithio ar unrhyw broblemau logisteg a allasai godi ar gyfer busnesau tra bod ffyrdd canol y ddinas ar gau, megis dosbarthu, casglu arian a rheoli gwastraff.

Ysgrifennwyd at drigolion sy'n byw yn yr Ardal Ddiogelwch Fewnol hefyd - bydd yr ardal yn effeithio'n bennaf ar y rheiny sy'n byw yn Heol y Porth, Rhodfa Lloyd George, Ffordd Churchill, Heol Eglwys Fair a Heol y Brodyr Llwydion.

Mae trefniadau parcio amgen wedi'u gweithredu ar gyfer pan fydd y ffyrdd ar gau.

Yn ystod pedwar diwrnod yr ŵyl, bydd llawer o ffyrdd ar gau ym Mae Caerdydd a chanol y ddinas, o ganol nos Ddydd Gwener 2 Mehefin hyd yr oriau mân Ddydd Sul 4 Mehefin.

Mae'r rheiny sy'n byw ar strydoedd na effeithir arnynt fel arfer gan ddigwyddiad yn y stadiwm wedi cael llythyr i roi gwybodaeth iddynt ac fe'u gwahoddwyd i sesiynau galw hebio cyhoeddus a gynhelir yn Ebrill.

Gall y rheiny sy'n byw yng nghanol y ddinas yr effeithir arnynt gan ddigwyddiadau yn y stadiwm gael gwybodaeth drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Cyngor y Ddinas ar Facebook a Twitter, ar wefan swyddogol y digwyddiad ynwww.cardiff2017.walesa thrwy'r cyfryngau traddodiadol, papurau newydd ac ati.

Bydd map yn dangos y ffyrdd fydd ar gau, gan gynnwys amseroedd cau ac ailagor y ffyrdd, ar gael o 7 Ebrill.

Mae gwybodaeth am gyfyngiadau a'r ffyrdd fydd ar gael hefyd ar gael ynwww.cardiff2017.wales

 

DIOGELWCH AR GYFER Y DIGWYDDIAD

Dyma un o'r ymgyrchoedd diogelwch mwyaf y mae Caerdydd wedi'i weld erioed.

Bydd mwy o heddlu o gwmpas cyn ac yn ystod y digwyddiad, a bydd gan rai ohonynt arfau.

Nid yw'r mesurau hyn yn cael eu rhoi ar waith oherwydd unrhyw wybodaeth benodol am y digwyddiad, ond oherwydd y bygythiad uwch o derfysgaeth yn fyd-eang.

Bydd mesurau diogelwch ychwanegol ar waith ar ffyrdd penodol ar gyfer y digwyddiad hwn i greu Ardal Ddiogelwch Fewnol yng nghanol y ddinas - ardal ddiogel o amgylch y stadiwm lle bydd lefel eithriadol o uchel o ddiogelwch - a Bae Caerdydd.

Bydd y rhan fwyaf o'r mesurau hyn yn cael eu rhoi ar waith dros nos, ac ni roddir gwybodaeth am eu lleoliad ymlaen llaw.

Gallai fod tarfu cysylltiedig ar drafnidiaeth, a dylai pawb ganiatáu mwy o amser ar gyfer eu taith, ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gyfleusterau parcio a theithio neu, os ydynt yn byw yn lleol, ystyried cerdded neu feicio.

 

CYFYNGIADAU TRAFFIG A CHAU FFYRDD

Bydd mwy o ffyrdd ar gau ar gyfer ffeinal y dynion ar 3 Mehefin nag ar gyfer unrhyw ddigwyddiad arall sydd wedi'i gynnal yn y stadiwm.

Mae llawer o waith cynllunio wedi'i wneud i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu yn sgîl Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr UEFA.

Bydd angen rhoi nifer sylweddol o fesurau ar waith yn y bythefnos cyn y rowndiau terfynol.

Bydd y gwaith o adeiladu cyfleusterau ar gyfer y rowndiau terfynol yn golygu y bydd mynediad cyfyngedig i ganol y ddinas drwy Heol y Castell yn ystod y cyfnod cyn y digwyddiad.

Bydd pont droed dros dro dros Heol y Castell yn golygu y bydd y stryd ar gau ychydig i'r gorllewin o Heol y Porth i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan o ganol nos Ddydd Mercher 31 Mai i 6am Ddydd Llun 5 Mehefin.

Bydd gweddill Heol y Castell yn cau yn unol â threfniadau cau ffyrdd canol y ddinas ar gyfer y digwyddiad.

Yn ystod pedwar diwrnod gŵyl y cefnogwyr, bydd llawer o ffyrdd ar gau ym Mae Caerdydd - gan gynnwys Rhodfa Lloyd George ac o amgylch y Bae ei hun - yn ogystal â chanol y ddinas, o ganol nos Ddydd Gwener 2 Mehefin hyd yr oriau mân Ddydd Sul 4 Mehefin.

Hefyd, bydd rhai ffyrdd ar gau yn y byrdymor ar lefel leol tra bod safle Gŵyl y Cefnogwyr a Phentref y Pencampwyr UEFA a Phentref Pêl-droed UEFA yn cael eu codi.

Mae gwybodaeth am gyfyngiadau a'r ffyrdd fydd ar gau ar gael ynwww.cardiff2017.wales

 

TREFNIADAU TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS AR GYFER DIWRNOD A NOSON Y FFEINAL

Bydd 60,000 o deithiau rheilffordd ar gael ar ôl y gêm - 15,000 yn fwy nag yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd. Bydd hyn yn cynnwys 21 o wasanaethau trên cyflym i Lundain.

Bydd 22,500 o hediadau siartr ar gael o Feysydd Awyr Caerdydd, Birmingham a Bryste gyda 450 o fysus i gludo pobl yno.

Bydd cyfleuster parcio a theithio ychwanegol ar gael yn Llanwern yng Nghasnewydd yn ychwanegol at y cynllun parcio a theithio yn Nwyrain Caerdydd a 5,000 o leoedd parcio a theithio ym Mae Caerdydd i gefnogi Gŵyl y Pencampwyr.

Bydd rhwydwaith bysus cenedlaethol o 1,250 cerbyd (10% o'r farchnad bysus sydd ar gael) yn cynnig llwybrau uniongyrchol o fwy na 30 o drefi a dinasoedd yn Lloegr yn ogystal â theithiau i feysydd awyr.

Bydd trefniadau rheoli tyrfaoedd newydd ar waith yng ngorsafoedd trenau Caerdydd Canolog, Heol-y-Frenhines a Bae Caerdydd.

Bydd swyddogion o Heddlu Trafnidiaeth Prydain hefyd wrth law mewn gorsafoedd ac ar wasanaethau trên i ac o Gaerdydd yn ystod y rowndiau terfynol.

Bydd swyddogion rheilffordd arbenigol hefyd yn helpu staff rheilffordd a Network Rail i leihau tarfu ar y rhwydwaith yn ystod cyfnod prysur iawn.

Mae ap trafnidiaeth newydd yn cael ei lansio ar gyfer cefnogwyr.

 

DIWRNOD FFEINAL Y DYNION - CYNGOR TEITHIO I DRIGOLION

Gan y bydd ffyrdd ar gau a degau o filoedd o gefnogwyr yn ymweld â'r ddinas o'r oriau mân ar gyfer y ffeinal Ddydd Sadwrn 3 Mehefin, cynghorir pawb i gynllunio ymlaen llaw ac i beidio â theithio mewn car ar hyd coridor yr M4 oni bai bod eich taith yn hollol hanfodol.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhyngwladol na welwyd ei debyg ar gyfer y ddinas, a bydd teithio ar y ffordd yng Nghaerdydd ar y dydd Sadwrn yn drafferthus tu hwnt.

Mae Cyngor y Ddinas yn awgrymu'n gryf y dylai trigolion sydd am flasu awyrgylch y gêm deithio ar droed neu ar fws a gadael y car gartref. 

Mae cefnogwyr yn debygol o hedfan i mewn i feysydd awyr yn Lloegr yn ogystal â Chymru, felly bydd yr M4 yn arbennig o brysur ddydd Sadwrn.

Er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o oedi a thagfeydd, mae pobl yn cael eu hannog i osgoi'r M4 os yn bosibl drwy gydol dydd Sadwrn.

Gan y bydd cynifer o gefnogwyr yn ymweld â Chaerdydd ar ddiwrnod y gêm, mae Cyngor Caerdydd yn annog cynifer o bobl â phosibl i ymweld â gŵyl y cefnogwyr ym Mae Caerdydd ar y dydd Iau, y dydd Gwener a'r dydd Sul yn ogystal â Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 1 Mehefin.

 

PENTREF PENCAMPWYR UEFA / PENTREF PÊL-DROED UEFA

Bydd dau bentref arbennig yn cael eu codi yng nghanol y ddinas ar gyfer gwesteion lletygarwch ar ddiwrnod y ffeinal.

Bydd Pentref Pencampwyr UEFA yng Nghae Cooper, gyda lle i 7,000 o westeion. Bydd Pentref Pêl-droed UEFA, yn nhiroedd Castell Caerdydd, yn croesawu 2,000 o westeion. Bydd y ddau yn agor am 4pm ar ddiwrnod Ffeinal y Dynion.

Bydd gwaith i osod y ddau bentref yn dechrau ar 12 Mai, a bydd rhywfaint o ffyrdd ar gau yn y byr dymor tra bod y gwaith yn mynd rhagddo. Bydd manylion am y ffyrdd fydd ar gau, wrth iddynt gael eu cyhoeddi, ar y wefanwww.cardiff2017.wales

Bydd pentref Cae Cooper yn cael ei ddatgymalu a'i gludo oddi yno erbyn diwedd Mehefin. Bydd cwrt wrth gefn y castell ym Mharc Bute, sy'n cael ei adeiladu i alluogi adeiladu Pentref y Castell, yn cael ei symud oddi yno cyn hynny.

Caiff rhai clwydi a llwybrau eu cau am resymau diogelwch wrth i'r pentrefi gael eu codi a'u datgymalu.

Am resymau diogelwch, bydd rhan ddeheuol Parc Bute, o Bentref Cynghrair y Pencampwyr UEFA i Afon Taf, ychydig cyn Pont y Mileniwm a'r Tŷ Haf, ar gau i'r cyhoedd yn ystod penwythnos y gêm.

Disgwylir i ran ddeheuol Parc Bute fod ar gau o 7pm ddydd Iau 1 Mehefin, a disgwylir iddi ailagor ar yr oriau gweithredu arferol ddydd Sul 4 Mehefin.

Bydd mynediad cyfyngedig i gefn y castell oherwydd symudiadau cerbydau, a bydd arwyddion gwyriadau'n cael eu codi.

Gall cerddwyr ddefnyddio'r bont a'r tŷ haf, ond ni allant gerdded i'r de o'r fan yma i'r dref.

Gan y bydd y ddaear wedi ei gorchuddio am nifer o wythnosau oherwydd Sioe'r RHS, sydd ymlaen o 7 i 9 Ebrill, a phentrefi UEFA, disgwylir difrod i'r glaswellt ar y safleoedd hynny.

Bydd y Cyngor yn adfer y glaswellt yn llawn, a disgwylir iddo fod mewn cyflwr gwell ar ôl y digwyddiadau nag yw nawr.

Unwaith i'r pentref adael Cae Cooper, bydd haen uchaf y pridd yn cael ei dynnu oddi yno, caiff y tir ei wastatáu a heuir cymysgedd o hadau gwair rhyg sy'n para'n dda.

Bydd y glaswellt newydd yn cael ei drin â gwrtaith, ei dorri'n a'i ddyfrhau'n rheolaidd, gan greu arwyneb glaswellt o safon sy'n addas ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr yn rheolaidd.

Bydd Cae Cooper wedi ei amgylchynu â ffens am 13 wythnos i ganiatáu'r glaswellt newydd i ymwreiddio.

Caiff ardaloedd eraill o wair yr effeithiwyd arnynt eu ffensio er mwyn eu hail-dyfu â hadau neu eu hadfer â thyweirch newydd.

Bydd ardaloedd mawr o barcdir canol y ddinas yn parhau ar agor tra bod safleoedd y digwyddiad ar gau.

I gael rhagor o wybodaeth am y parciau, cliciwch yma:www.parc-bute.com