Back
Landlord o Gaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu dros £25,000

31/01/23


Mae landlord o Gaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu dros £25,000 yn Llys Ynadon Caerdydd am gatalog o fethiannau'n ymwneud â'i eiddo rhent yn Heol y Fferi yn Grangetown.

 

Ni wnaeth Mr Sohail Baig, 65 oed o Heol Cyncoed yng Nghaerdydd fynychu'r llys ar 27 Hydref y llynedd ond fe'i cafwyd yn euog yn ei absenoldeb am bob un o'r 18 trosedd. Cafodd Mr Baig ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener diwethaf (27 Ionawr).

 

Daeth yr achos i'r amlwg pan dderbyniodd y cyngor gwynion gan denantiaid am yr eiddo teras Fictoraidd pedwar llawr, sy'n cynnwys pedwar fflat deulawr.

 

Cynhaliwyd archwiliad gan y Cyngor a chafwyd hyd i nifer sylweddol o dor-rheolau gan gynnwys:

System larwm tân ddiffygiol;

Diffyg canllawiau ar grisiau neu ganllawiau ansefydlog;

Gardiau anniogel ar ben grisiau;

Gorchuddion llawr diffygiol;

Ffenestri lefel isel a oedd yn peri risg o gwympiadau;

Arwynebau gwaith wedi'u difrodi yn y gegin;

Gosodiadau cegin anniogel;

Toiled ansefydlog;

Sbwriel yn cronni yn yr iard gefn yn debygol o ddenu cnofilod;

Gosodiadau trydanol anniogel; a 

Drws mynedfa anniogel.

 

Cafodd Mr Baig wyth diwrnod i drwsio neu ddisodli'r boeler, a methodd.  Gosododd y cyngor foeler newydd, gan anfonebu'r gost i'w gyfeiriad cartref, a dechrau'r camau cyfreithiol i'w erlyn drwy'r llysoedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai yng Nghyngor Caerdydd:  "Mae mwyafrif landlordiaid y sector preifat yn darparu gwasanaeth da iawn i'w tenantiaid, ond mae yna leiafrif sy'n methu â chyrraedd y safonau cyfreithiol.

 

"Fel landlord, mae gennych gyfrifoldebau i sicrhau bod yr eiddo a osodir yn ddiogel i bobl fyw ynddyn nhw. Doedd yr un yma'n amlwg ddim yn ddiogel, felly byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa i sicrhau bod y diffygion yn cael eu hatgyweirio ar gyfer y tenantiaid sy'n byw yn yr eiddo hwn."

 

Cafodd ddirwy o £23,750 am yr 18 trosedd, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £450 a thâl dioddefwr o £1,200.