Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 24 Ionawr 2023

Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n cynnwys: Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru 2023; Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn galw ar i bobl sy'n hoff o gerddoriaeth gefnogi lleoliadau annibynnol lleol;Mae disgyblion Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig "yn mwynhau dod i'r ysgol yn arw" meddai Estyn.

 

Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru 2023

I nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2023, bydd recordiad o Goffâd Cymru eleni ar gael i'w wylio ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd.

Wedi'i ffilmio yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd, gellir gwylio'r Coffâd Aml-Ffydd o 11am ddydd Gwener 27 Ionawr, gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol:  https://youtu.be/PI_4jW4FR68  (y ddolen yn weithredol am 11am ar y 27ain).

Arweinir y Coffâd gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, ac ymhlith y cyfranwyr bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford AS, y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, Graham Hinchey.

Gall gwylwyr ddilyn y seremoni drwy lawrlwytho rhaglen Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru 2023  yma.

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ddiwrnod rhyngwladol i gofio dioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau eraill. Mae'r diwrnod yn anrhydeddu'r goroeswyr ac yn cofio'r rheiny a fu farw. Fe'i cynhelir ar 27 Ionawr bob blwyddyn, sef dyddiad rhyddhau carchar Auschwitz.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30650.html

 

Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn galw ar i bobl sy'n hoff o gerddoriaeth gefnogi lleoliadau annibynnol lleol

Lleoliadau annibynnol yw asgwrn cefn sîn gerddoriaeth fyw Caerdydd, ac mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn galw ar bobl sy'n hoff o gerddoriaeth ledled y ddinas i fynd allan a chefnogi lleoliadau lleol ar lawr gwlad yn ystod Wythnos Lleoliadau Annibynnol (IVW).

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae lleoliadau annibynnol wir wedi bod drwy'r felin dros y blynyddoedd diwethaf, ond maent yn parhau'n hanfodol i sîn gerddorol Caerdydd.  Rydyn ni'n deall ei bod hi'n amser anodd ar hyn o bryd, ond y ffordd orau y gall y rhan fwyaf o bobl gefnogi lleoliadau yn y ddinas, a'r artistiaid sy'n perfformio ynddyn nhw, yw drwy fynd i gig, prynu diod, ac efallai hyd yn oed brynu crys-t gan y band."

 

Nawr yn ei 10fedblwyddyn, bydd y dathliad blynyddol yn digwydd ar draws y DU o 30 Ionawr a bydd gigs Caerdydd yn cael eu cynnal yng Nghlwb Ifor Bach, Made, Porter's, The Gate, The Moon a Chanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd.

Mae'r rhestr o fandiau'n cynnwys SJ Hill sy'n cyfuno Soul Rhythm a Blŵs a phop, y band gwerin cyfoes Bwncath, y cerddor pop arbrofol Amber Arcades, y band roc amgen o Gymru Trampolene, yr artist a enwebwyd am Grammy, Manu Delago, y pedwarawd ôl-pync English Teacher, a mwy.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30648.html

 

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig "yn mwynhau dod i'r ysgol yn arw" meddai Estyn

Mewn archwiliad diweddar ar Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig yng Nghaerdydd, canfu Estyn fod disgyblion yn mwynhau mynychu'r ysgol ac yn gwneud cynnydd nodedig yn eu sgiliau cymdeithasol.

Canfu adroddiad a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Addysg Cymru, fod uwch arweinwyr wedi gweithio'n galed i greu teimlad o gyd-ymddiriedaeth a pharch rhwng disgyblion a staff, diwylliant sy'n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau'r agweddau cadarnhaol iawn sydd gan ddisgyblion tuag at eu dysgu.

Yn ôl yr arolygwyr mae ymddygiad disgyblion ar draws yr ysgol yn eithriadol, a bod lles disgyblion a'u teuluoedd yn ffocws pwysig i'r ysgol. Dangosir hyn trwy ystod o weithgareddau ymgysylltu cymunedol a sefydlwyd yn ystod y pandemig a helpodd i ddatblygu sgiliau goddefgarwch, parch a hyder disgyblion yn llwyddiannus.

Mae'r adroddiad yn nodi body rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn ar draws yr ysgol, yn enwedig rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) sy'n 10% o boblogaeth disgyblion yr ysgol. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer datblygiad personol disgyblion yn effeithiol ac yn gyffredinol, mae cwricwlwm yr ysgol yn cynnig ystod addas o brofiadau dysgu.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30636.html