Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 17 Ionawr 2023

Dyma ein diweddariad diweddaraf, sy'n cynnwys: Bydd archebu bagiau ailgylchu gwyrdd i gartrefi preswylwyr yn dod i ben ar Ionawr 31; Datgelu'r camau nesaf ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol; Dweud eich dweud, Systemau Trafnidiaeth Deallus.

 

Bydd archebu bagiau ailgylchu gwyrdd i gartrefi preswylwyr yn dod i ben ar Ionawr 31

O Ionawr 31, ni fydd modd i breswylwyr archebu bagiau ailgylchu gwyrdd i'w cartrefi, gan fod system newydd bellach yn ei le i bobl gael casglu'r bagiau o siop leol neu adeilad cymunedol ble maen nhw'n byw.

Bydd danfoniadau swmpus yn cael eu gyrru i ddarparwyr lleol fel mater o drefn a gall trigolion ddod o hyd i'w darparwr lleol trwy roi eu cod post i'rwefan Cyngor Caerdydd ymadrwyAp Caerdydd Gov.

Ni fydd unrhyw breswylydd sydd ar y cynllun casglu â chymorth yn cael ei effeithio gan y newid hwn i'r gwasanaeth, gan y bydd danfoniadau chwarterol arferol yn parhau i gael eu gwneud i'w heiddo.

Bydd cyflenwadau bagiau gwastraff bwyd, cadis ymyl ffordd a chadis cegin yn parhau i gael eu danfon i eiddo yng Nghaerdydd ar gais, drwy naill ai archebu ar wefan y cyngor neu trwy Ap Caerdydd Gov.

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30604.html

 

Datgelu'r camau nesaf ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

Bydd cynlluniau i gwblhau Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd - i greu cyrchfan chwaraeon a hamdden eithriadol a allai ddenu dwy filiwn o ymwelwyr bob blwyddyn - yn cyrraedd carreg filltir arall yr wythnos hon.

Mae disgwyl i Gabinet Cyngor Caerdydd gymeradwyo adroddiad sy'n dangos cynlluniau ar gyfer ardal newydd y glannau, mannau preswyl a manwerthu newydd, ynghyd â Phentref Chwaraeon Rhyngwladol fydd yn cael ei bweru gan ynni 'gwyrdd'.

Bydd gan y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Hwb Perfformiad Canolog newydd wedi'i gynllunio i gefnogi athletwyr o blith campau  gwahanol, Felodrôm newydd, cylched dolen gaeedig, cyfleusterau hamdden awyr agored, a chyfleuster 'clipio a dringo' newydd. Bydd cyfleuster parcio a theithio newydd, a'r cyfan yn cyd-fynd â'r Pwll Nofio Rhyngwladol, y Ganolfan Rafftio Dŵr Gwyn, a'r Arena Iâ, sydd eisoes ar y safle.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:  "Mae'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn rhan allweddol o'n cynlluniau uchelgeisiol i sefydlu Bae Caerdydd fel cyrchfan ymwelwyr blaenllaw yn y DU. Rydyn ni'n credu y gallai ddenu hyd at 2 filiwn o ymwelwyr y flwyddyn, gan helpu i ddod â swyddi a buddion economaidd i Gaerdydd.

"Un o'n hamcanion allweddol nodau yw sicrhau bod hwn yn 'ddatblygiad gwyrdd' sy'n cael ei bweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni solar, gwynt, ac adferiad gwres o'r aer, y ddaear, a dŵr. Rydym yn credu bod cyfle i gyflawni rhywbeth arbennig yma, a allai ddod â rhagor o swyddi 'gwyrdd' i hybu'r economi tra hefyd yn helpu'r cyngor i gyflawni ei ymrwymiadau Caerdydd Un Blaned.

"Rydym wedi mynd allan i'r farchnad i sicrhau partneriaid yn y sector preifat all ein helpu i ddod â buddsoddiad newydd i'r ardal, gan gynnwys cyfleoedd preswyl a manwerthu ochr yn ochr â'r pentref chwaraeon ar ei newydd wedd.  Bydd yr adroddiad sy'n dod i'r Cabinet yn argymell trafod gyda nifer o bartïon er mwyn sicrhau contractau."

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30601.html

 

Dweud eich dweud - Systemau Trafnidiaeth Deallus

Hoffem wybod beth rydych chi'n ei feddwl am y dechnoleg a allai gael effaith gadarnhaol ar sut rydych chi'n teithio o amgylch y ddinas.

Mae ein ymgynghoriad ‘Systemau Trafnidiaeth Deallus' (STD) bellach yn fyw. Gallwch weld ein strategaeth STD ddrafft a chwblhau'r arolwg yma:
Ymgynghoriad Systemau Trafnidiaeth Deallus

Mae STD yn helpu i roi penderfyniadau teithio yn eich dwylo, yn gallu cynyddu dibynadwyedd amser teithio ar fysiau, gwella ansawdd aer, a chaniatáu rheolaeth well dros y rhwydwaith priffyrdd.

Gan ddefnyddio gwybodaeth amser go iawn, gallai STD ddefnyddio ystod o fesurau i'ch helpu i benderfynu ar y ffordd orau o symud o amgylch y ddinas ar ddiwrnod neu amser penodol, gan gynnwys:

  • Ap defnyddwyr trafnidiaeth ar gyfer y cyhoedd
  • Cyfnewidfa fysiau newydd wedi'i integreiddio i rwydwaith priffyrdd Caerdydd
  • Tocynnau integredig rhwng pob math o drafnidiaeth gyhoeddus
  • Coridorau CLYFAR i wella amseroedd teithio ar fysiau a rheoli teithio trawsffiniol o awdurdodau cyfagos
  • Ystafell reoli integredig gyda'n partneriaid trafnidiaeth a sector cyhoeddus, ac
  • Uwchraddio systemau a seilwaith telemateg.

Er mwyn sicrhau'r manteision hyn a llawer o rai eraill, mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu Strategaeth Systemau Trafnidiaeth Deallus Ddrafft sy'n nodi ein gweledigaeth i 2030 a thu hwnt.

​Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 31 Ionawr 2023.

Darllenwch fwy yma:
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Projectau-Trafnidiaeth/Ymgynghoriadau/Systemau-Trafnidiaeth-Deallus-Caerdydd/Pages/default.aspx