Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 13 Ionawr 2022

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar Fuddsoddiad Addysg Caerdydd; Cyhoeddi Canlyniadau Prawf Rheoli Chwyn Amgen; Strategaeth Gwasanaethau Plant (2023-2026); Mae gweithwyr y cyngor yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos i ddatrys y problemau a achoswyd gan y stormydd.

 

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar Fuddsoddiad Addysg Caerdydd

Mae buddsoddiad Caerdydd yn y maes addysg, sydd werth miliynau, gan gynnwys ysgolion newydd a gwelliannau i adeiladau ysgol presennol, wedi cael ei amlinellu mewn adroddiad newydd a gafodd ei gyhoeddi'r wythnos hon.

Mae'r Adroddiad Blynyddol ar Fuddsoddi yn yr Ystâd Addysgyn rhoi diweddariad ar gynnydd y buddsoddiad ar draws y ddinas a'r camau nesaf o fuddsoddi yn y dyfodol.

Ers 2012 mae Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio i gyflwyno rhaglen buddsoddi cyfalaf fawr, hirdymor a strategol, gyda'r nod o greu cenhedlaeth o gyfleusterau dysgu carbon-sero rhagorol yng nghanol y gymuned.

Fel rhan o Fand A y Rhaglen Fuddsoddi Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (a elwid gynt yn rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif) gwelwyd £164 miliwn yn cael ei wario yng Nghaerdydd, a chyda'r ail gam, Band B, daeth buddsoddiad pellach o £298.6 miliwn a ariannwyd drwy gyfuniad o fuddsoddiad cyfalaf traddodiadol, ynghyd â ffrwd ariannu refeniw a elwir yn Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC).

Hyd yma, mae saith ysgol gynradd newydd a dwy ysgol uwchradd newydd wedi'u cyflawni, gydag ysgol uwchradd newydd Fitzalan bron â chael ei chwblhau i fod yn barod i groesawu disgyblion yng ngwanwyn/haf 2023.

Mae cynigion yn cael eu datblygu i ddarparu adeiladau newydd ar gyfer Campws Cymunedol y Tyllgoed (Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Riverbank, ac Ysgol Uwchradd Woodlands), Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd Willows, Ysgol Arbennig The Court ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair, gydag eraill i ddilyn.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30585.html

 

Cyhoeddi Canlyniadau Prawf Rheoli Chwyn Amgen

Mae adroddiad gwyddonol annibynnol a asesodd dri math gwahanol o chwynladdwr i reoli twf planhigion ar briffyrdd a phalmentydd Caerdydd wedi dod i'r casgliad mai glyffosad yw'r "dull rheoli chwyn mwyaf effeithiol a chynaliadwy sydd ar gael ar hyn o bryd."

Roedd y prawf gwyddonol yn asesu hyfywedd dau ddewis 'eco-gyfeillgar' amgen i'r dull sy'n seiliedig ar glyffosad a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn y DU. Canfu'r astudiaeth fod gan glyffosad ôl troed amgylcheddol cyffredinol llai na'r ddau ddewis arall a dreialwyd, sef asid asetig (finegr hynod grynodedig) a thriniaeth ewyn poeth (cynnyrch sy'n seiliedig ar blanhigion ac sy'n cyfuno dŵr poeth gydag ewyn bioddiraddiadwy). Glyffosad hefyd oedd y cynnyrch rhataf a brofwyd ac roedd yn sgorio'n uwch na'r un arall o ran boddhad cwsmeriaid.

Roedd y prawf, a ddigwyddodd yn dilyn argymhelliad gan Ymchwiliad Pwyllgor Craffu Amgylcheddol Cyngor Caerdydd i'r ffordd y mae bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol yn cael ei reoli, wedi'i gynnal gan Dr Dan Jones, Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd yn Adran Biowyddoniaeth Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddwr Masnachol Advanced Invasives, ymgynghoriaeth a sefydlwyd yn 2016 i ddod â meddylfryd a arweinir gan dystiolaeth i reolaeth masnachol planhigion goresgynnol.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30580.html

 

Strategaeth Gwasanaethau Plant (2023-2026)

Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu strategaeth newydd sy'n amlinellu ei weledigaeth a'i gyfeiriad ar gyfer cyflawni gwasanaethau Plant dros y tair blynedd nesaf.

Bydd y Strategaeth Ymdrechu am Ragoriaeth mewn Gwasanaethau Plantyn helpu i sicrhau y gall Cyngor Caerdydd reoli ac ymateb i'r lefelau cynyddol o alw am wasanaethau, diwallu anghenion plant sydd angen gofal a chymorth, a pharhau i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc Caerdydd yn cael eu diogelu.

Mae adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan Gabinet yr Awdurdod Lleol pan fydd yn cwrdd ar dydd Iau, Ionawr 19, wedi nodi nifer o flaenoriaethau yn ymwneud â phlant a phobl ifanc:

  • Cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n profi problemau lles emosiynol ac iechyd meddwl difrifol.
  • Cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio
  • Cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sydd ag ystod o anghenion ychwanegol.

Mae hyn yn ychwanegol at heriau eraill sy'n cael eu profi megis pwysau cyllidebol sylweddol, materion digonolrwydd marchnad, ac anhawster recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol profiadol.

Os cytunir, bydd y cynllun strategol yn nodi sut y bydd Gwasanaethau Plant yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan ddefnyddio ymagwedd ataliol, ac ymyrraeth gynnar ar lefel isel a elwir yn "symud y cydbwysedd gofal".

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30589.html

 

Mae gweithwyr y cyngor yn gweithio bob awr o'r dydd a'r nos i ddatrys y problemau a achoswyd gan y stormydd

Yn dilyn y glaw trwm a'r gwyntoedd cryfion ddydd Mercher a dydd Iau yr wythnos hon, mae Tîm Priffyrdd y cyngor wedi bod yn gweithio y tu allan i oriau i ymateb i'r problemau a gododd yn sgil y Rhybudd Tywydd Melyn gan y Swyddfa Dywydd.

Roedd y brif ffordd yng Ngwaelod-y-Garth ar gau oherwydd llifogydd. Bu swyddogion y cyngor yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân i bwmpio'r llifddwr i'r man isel. Rhoddwyd gwyriad ar waith i sicrhau bod modd mynd at yr ysgol.

Gorlifodd Nant y Garth yn Nhongwynlais ac roedd yn llifo dros Heol Merthyr. Mynychodd tîm o'r cyngor i glirio a delio â'r sefyllfa.

Fe wnaeth Awdurdod yr Harbwr gau llwybrau bordiau Cei'r Fôr-Forwyn, ond cafodd y rhain eu hail-agor am 11am bore dydd Iau. Cafodd y siopau a busnesau'r ardal eu cynghori i gymryd rhagofalon angenrheidiol, gan mai tir preifat yw hwn.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30592.html