Back
Strategaeth Gwasanaethau Plant (2023-2026)


                                                                        20/1/2023

Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu strategaeth newydd sy'n amlinellu ei weledigaeth a'i gyfeiriad ar gyfer darparu Gwasanaethau Plant dros y tair blynedd nesaf.

Bydd y Strategaeth Ymdrechu am Ragoriaeth mewn Gwasanaethau Plant yn helpu i sicrhau y gall Cyngor Caerdydd reoli ac ymateb i'r lefelau cynyddol o alw am wasanaethau, bodloni anghenion plant sydd angen gofal a chymorth, a pharhau i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc Caerdydd yn cael eu diogelu.

Mae Cabinet yr Awdurdod Lleol wedi cytuno ar y strategaeth sy'n nodi nifer o flaenoriaethau sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc;

 

-       y cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n profi problemau lles emosiynol ac iechyd meddwl difrifol.

-       y cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio

-       y cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sydd ag ystod o anghenion ychwanegol.

Mae hyn yn ychwanegol at heriau eraill sy'n cael eu profi megis pwysau cyllidebol sylweddol, problemau digonolrwydd y farchnad, ac anhawster recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol profiadol.

Bydd y cynllun strategol yn nodi sut y bydd Gwasanaethau Plant yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan ddefnyddio dull ymyrryd , cynnar a lefel isel a elwir yn "symud y cydbwysedd gofal".

Mae tri maes ffocws allweddol yn cynnwys:

-       Lle – sicrhau bod plant yn aros gartref gyda'u teuluoedd lle mae hynny’n ddiogel ac yn briodol

-       Pobl – recriwtio gweithlu parhaol a lleihau ein dibyniaeth ar weithwyr cymdeithasol asiantaeth

-       Ymarfer - datblygu ein hymarfer i sicrhau ei fod yn seiliedig ar gryfderau, yn seiliedig ar drawma, yn adferol, wedi ei arwain gan ymchwil ac yn canolbwyntio ar y teulu

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant:  "Mae sicrhau bod plant a phobl ifanc Caerdydd yn ddiogel a bod modd iddynt gyflawni eu gorau glas yma yng Nghaerdydd - Dinas sy'n Dda i Blant - yn rhywbeth y gall pob un ohonom chwarae rhan ynddo.

"Mae’r Gwasanaethau Plant eisoes yn wasanaeth prysur iawn ac o dan bwysau ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r gwasanaeth wedi gweld pwysau ychwanegol ac mae effaith y pandemig yn dal i gael ei weld, sy'n golygu bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth ac yn byw mewn amgylchiadau heriol.

"Mae'r strategaeth ar ei newydd wedd yn adlewyrchiad o bob agwedd ar y gwasanaethau rydym yn eu cynnig, mewn ffordd onest, gan amlygu ein cynnydd ond hefyd lle mae gennym fwy i’w wneud, ac amlinellu sut y byddwn yn gweithio ar draws y cyngor a gyda phartneriaid i gyflawni ein hamcanion.

"Hoffem ddiolch i'r holl staff ar draws ein gwasanaethau am eu hymroddiad, eu hangerdd a'u hymrwymiad i wneud popeth o fewn eu gallu fel y gall plant a phobl ifanc fyw bywydau hapus, iach a diogel"

Mae’r strategaeth Gwasanaethau Plant yn cefnogi cyflawni strategaethau allweddol eraill fel Strategaeth y Gweithlu, y Strategaeth Llety a’r Strategaeth Gomisiynu yn ogystal â'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol, y Strategaeth Seiliedig ar Drawma, y Strategaeth ar gyfer Plant ag Anableddau ac Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Strategaethau Cyfiawnder Ieuenctid.

Mae hefyd yn atgyfnerthu Strategaeth Dinas sy’n Dda i Blant Caerdydd sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ei pholisïau a'i phenderfyniadau.

Edrychodd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar yr adroddiad mewn cyfarfod cyhoeddus ar 16 Ionawr 2023.   Profodd y pwyllgor gynigion i ddeall eu rhesymeg a’u sail dystiolaeth, gofynion a chanlyniadau disgwyliedig y Cyngor, a'r camau nesaf.

Mae papurau cyhoeddedig y Pwyllgor Craffu ar yr adroddiad ar gael i'w gweld yma Agenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, Dydd Llun, 16 Ionawr, 2023, 5.00 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)

*Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) yw'r weithdrefn a ragnodir gan y gyfraith pan fo angen amddifadu preswylydd neu glaf o’u rhyddid gan nad oes ganddynt y gallu i gydsynio i'w gofal a'u triniaeth er mwyn eu cadw'n ddiogel rhag niwed