Back
Blwyddyn Newydd, Hyb Newydd - Bydd Hyb Lles Cymunedol Rhiwbeina

03/01/23 

Mae canolfan ddiweddaraf y ddinas yn paratoi i agor ar ôl gwaith adnewyddu llyfrgell mawr gael ei gwblhau yng ngogledd Caerdydd. 

A bench sits in front of a buildingDescription automatically generated with low confidence

Bydd Hyb Lles CymunedolRhiwbeinayn croesawu cwsmeriaid yn ôl i hen adeilad y llyfrgell ym Mhen-y-Dre ddydd Llun, 16 Ionawr ar ôl ailfodelu'r cyfleuster i alluogi cyflwynogwasanaethau ychwanegol a gwell i'r gymuned. 

Gyda chyllid gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru,y Gronfa Integreiddio ac Ail-gydbwyso Gofal (IRCF) a MALD (Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd), mae'r adeilad wedi'i drawsnewid yn gyfleuster cymunedol addas at y diben a fydd yn cefnogi cyd-leoli gwasanaethau llyfrgell gyda gwasanaethau cyngor, iechyd a lles, tai a gofal cymdeithasol newydd a fydd yn cael eu darparu yn yr ystafelloedd cymunedol newydd, ystafelloedd cyfarfodydd ac ardaloedd cyfweld. 

Bydd ymwelwyr â'r hyb hefyd yn elwa ar ystafell gyfrifiadurol newydd, ardal ddisglair a chroesawgar i blant, silffoedd llyfrgell newydd a thoiledau newydd gan gynnwys tŷ bach hygyrch gyda chyfleusterau newid babanod. Y tu allan, mae ardal yr ardd gefn wedi'i thirlunio i ddarparu lle deniadol gydag ardal eistedd. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Mae canolfan les newydd addas at y diben yn ffordd wych o ddechrau 2023 i'r gymuned yn Rhiwbeina. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn dod â llu o fanteision i bobl yn yr ardal leol, gan ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig y gallant gael mynediad iddynt mewn un lle. 

"Bydd ffocws cryf ar wasanaethau iechyd a lles yn yr hyb yn ogystal â'r llyfrgell, gwasanaethau tai a gwasanaethau cynghori arferol a mwy.  Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl yn ôl i'r adeilad i weld yr holl welliannau. 

"Diolch i'r gymuned am eu hamynedd tra roedd yr adeilad yn cael ei adnewyddu - dwi'n siŵr y bydd pawb yn cytuno, roedd hi werth yr aros am y ganolfan lles newydd wych yma i Rhiwbeina." 

Bydd y ganolfan lles ar agor o ddydd Llun 16 Ionawr, 10am - 7pm, ar gau ar ddyddiau Mawrth; dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener 9am - 6pm a dydd Sadwrn 9am - 5.30pm.