Back
Bwlch y Gyllideb 2023/24 - Cwestiynau ac Atebion

Bwlch y Gyllideb 2023/24 - Cwestiynau ac Atebion

Y Gyllideb Refeniw

Beth yw'r Gyllideb Refeniw?

  • Mae'r gyllideb refeniw yn nodi'r hyn y mae'r Cyngor yn bwriadu ei wario ar wasanaethau o ddydd i ddydd.
  • Mae'r rhain yn cynnwys cynnal ysgolion, gofalu am bobl sy'n agored i niwed, casglu gwastraff, cynnal a chadw priffyrdd a pharciau a gweithredu llyfrgelloedd a lleoliadau diwylliannol.
  • Rhaid i'r gyllideb refeniw hefyd nodi sut y caiff y cynlluniau gwariant hyn eu hariannu.
  • Mae rhai gwasanaethau'n cynhyrchu incwm i helpu i dalu eu costau (fel Castell Caerdydd), ac weithiau rydym yn derbyn grantiau ar gyfer gweithgareddau penodol - gelwir hyn yn incwm gwasanaeth-benodol.
  • Ar ôl ystyried incwm sy'n benodol i wasanaethau, ariennir ein costau sy'n weddill (y Gyllideb Refeniw Net) o'r Grant Cyffredinol (73%) a'r Dreth Gyngor (27%).  

Sut ydych chi'n paratoi'r Gyllideb Refeniw?

Yn gryno rydym yn:

  • Amcangyfrif cost darparu gwasanaethau'r flwyddyn nesaf
  • Cymharu hyn â'r arian y disgwyliwn ei dderbyn y flwyddyn nesaf
  • Os yw'r costau amcangyfrifedig yn fwy na'r arian, yna mae gennym "Fwlch yn y Gyllideb".


Beth sy'n digwydd os oes Bwlch yn y Gyllideb?

  • Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i'r Cyngor gynhyrchu cyllideb gytbwys.  Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gydbwyso gwariant a chyllid - rhaid iddynt gyfateb.
  • Gellir gwneud hyn drwy:
    • Leihau gwariant (arbed arian)
    • Cynyddu incwm (ar gyfer gwasanaethau penodol)
    • Adolygu lefel y Dreth Gyngor
    • Ystyried defnyddio cronfeydd wrth gefn clustnodedig - er nad yw hwn yn ateb hirdymor

 

A oes Bwlch yng Nghyllideb 2023/24?

  • Oes, amcangyfrifir bod bwlch o £23.5 miliwn yn y gyllideb ar gyfer 2023/24
  • Mae hyn yn adlewyrchu costau ychwanegol amcangyfrifedig o £75 miliwn, llai cyllid ychwanegol o £51.5 miliwn.
  • Yn seiliedig ar lefelau ariannu dangosol a dderbyniwyd yn gynharach eleni, amcangyfrifwyd yn flaenorol fod y bwlch yn £53 miliwn. Fodd bynnag, ar 14 Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ffigyrau ariannu 2023/24 ar gyfer Llywodraeth Leol - fel rhan o'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro. Roedd y lefelau ariannu a gyhoeddwyd yn uwch na'r awgrymiadau cynharach (9% yn lle 3%). Mae hyn wedi helpu i leihau'r bwlch cyllidebol amcangyfrifedig i £23.5 miliwn

 

Beth yw'r costau ychwanegol o £75 miliwn yr ydych yn eu disgwyl?

  • Mae'r £75 miliwn yn cynnwys:
    • £27.9 miliwn ar gyfer chwyddiant prisiau amcangyfrifedig. Rydym yn disgwyl cynnydd sylweddol yng nghost ynni a ddefnyddir i bweru goleuadau stryd, ysgolion a'r ystâd ehangach.  Mae cost tanwydd i redeg ein cerbydau wedi cynyddu.  Rydym hefyd yn cydnabod y bydd angen i'n cyflenwyr drosglwyddo eu cynnydd eu hunain mewn costau i'r prisiau y maent yn eu codi arnom. Mae hyn yn cynnwys effaith codiadau yn y Cyflog Byw Gwirioneddol ar y pris a dalwn am ofal.
    • £6.7 miliwn ar gyfer cynnydd disgwyliedig yn y galw. Mae hyn yn cynnwys cynnydd yn nifer y bobl sydd angen ein cymorth mewn Gofal Cymdeithasol Oedolion. Mae'n cynnwys costau sy'n gysylltiedig ag addysg fel cynyddu nifer y disgyblion, anghenion gwahanol disgyblion, a chost ysgolion mewn Ardaloedd Cynllun Datblygu Lleol. Gwyddom hefyd y bydd digartrefedd yn faes allweddol i'w adolygu'n barhaus o ran y galw.
    • £29.7 miliwn ar gyfer dyfarniadau cyflog amcangyfrifedig. Mae hyn yn cynnwys y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrif a gwir ddyfarniad 2022/23, yn ogystal ag amcangyfrif ar gyfer dyfarniad 2023/24.  Mae'r dyfarniadau'n cynnwys staff ar draws yr holl wasanaethau, gan gynnwys er enghraifft, athrawon, gweithwyr cymdeithasol a chasglwyr sbwriel.
    • £10.7 miliwn ar gyfer pwysau eraill. Mae hyn yn cynnwys y costau sy'n gysylltiedig ag ariannu'r rhaglen gyfalaf, a chynnydd mewn ardollau y mae'r Cyngor yn eu talu (e.e. i Wasanaeth Tân De Cymru).  Mae'r swm hwn hefyd yn cynnwys pwysau cost sy'n effeithio ar y flwyddyn bresennol gan gynnwys costau trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol, oedi yn yr adferiad incwm ar ôl Covid a phwysau digynsail yn y Gwasanaethau Plant.

 

Sut fydd y Cyngor yn pontio'r bwlch yn y gyllideb?

  • Y tri phrif beth y gall y Cyngor eu hystyried er mwyn pontio'r bwlch yw arbedion, treth gyngor a defnyddio cronfeydd wrth gefn
  • Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd y rhan fwyaf o'r bwlch yn cael ei bontio trwy wneud arbedion.
  • Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac felly'n anelu at sicrhau o leiaf £8.5 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd.  Mae'r rhain yn arbedion sy'n darparu'r un gwasanaethau gan ddefnyddio llai o adnoddau ac felly nid ydynt yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar drigolion. Ond mae maint y bwlch yn golygu na fydd modd ei gau drwy arbedion effeithlonrwydd yn unig - mae'n debygol y bydd angen gwneud rhai newidiadau i wasanaethau.  Gofynnir i ddinasyddion roi eu barn ar hyn fel rhan o'r ymgynghoriad ar y gyllideb a lansiwyd yn ddiweddar.
  • Mae'r modelu presennol yn adlewyrchu cynnydd o 3% yn y Dreth Gyngor - a fyddai'n rhoi £4.9 miliwn tuag at bontio'r bwlch o £23.5 miliwn. Ni fydd hyn yn cael ei gwblhau tan ddechrau mis Mawrth 2023.
  • Bydd y Cyngor hefyd yn adolygu lefel briodol o gefnogaeth o gronfeydd wrth gefn clustnodedig. Fodd bynnag, mae defnyddio cronfeydd wrth gefn i bontio'r bwlch yn arwain at broblem fwy y flwyddyn ganlynol oherwydd unwaith yr ydych wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn, maen nhw wedi mynd - ond mae'r pwysau roedden nhw'n eu hariannu yn cario ‘mlaen.
  • Mae'n bwysig pwysleisio mai gwaith paratoadol yw hwn ac na fydd cynlluniau i bontio'r bwlch yn cael eu cwblhau'n llawn nes bod y gyllideb yn cael ei gosod ddechrau mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Bydd canlyniadau'r Ymgynghoriad ar y Gyllideb, a lansiwyd yn ddiweddar, yn ystyriaeth bwysig wrth gwblhau'r cynlluniau hynny.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Byddwn yn parhau i adolygu'r bwlch yn y gyllideb yn fanwl - gall pethau newid o hyd, yn enwedig yn yr amgylchiadau economaidd anwadal presennol. Mae adolygu rheolaidd yn rhan bwysig o baratoi.
  • Byddwn yn parhau i geisio nodi arbedion effeithlonrwydd pellach (arbedion nad ydynt yn effeithio ar wasanaethau) a'u gweithredu'n gynnar lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol.
  • Byddwn yn parhau i ystyried gostyngiad rheoledig yn nifer y staff sy'n cael eu cyflogi gan ddefnyddio diswyddo gwirfoddol, tra'n lleihau diswyddiadau gorfodol cymaint â phosibl.
  • Byddwn yn adlewyrchu ar ganlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus ac yn eu hystyried wrth ddrafftio'r Cynnig Cyllideb 2023/24 terfynol i'w ystyried gan y Cyngor llawn yn y gwanwyn.

 

Y Rhaglen Gyfalaf

Beth yw gwariant cyfalaf?

  • Mae gwariant cyfalaf yn cyfeirio at gaffael neu wella asedau.  Mae ganddo ffocws tymor hwy na gwariant refeniw.
  • Mae enghreifftiau o wariant cyfalaf yn cynnwys adeiladu ysgol newydd neu ailosod wynebau priffyrdd.

 

Beth yw'r Rhaglen Gyfalaf?

  • Mae'r rhaglen gyfalaf yn nodi ein cynlluniau gwariant a sut y byddwn yn talu amdanynt dros gyfnod o bum mlynedd. Mae'n alinio ag amcanion y Cyngor ac mae'n rhaglen fuddsoddi i ymateb i'r heriau hirdymor sy'n wynebu'r ddinas.
  • Mae'r rhaglen bresennol yn cynnwys cymorth ar gyfer adfywio'r ddinas, moderneiddio adeiladau ysgol, ymateb i'r argyfwng hinsawdd a darparu rhaglen adeiladu tai sylweddol.

 

Pa gyfnod y mae'r rhaglen bresennol yn ei gwmpasu?

  • Cymeradwyodd y Cyngor y rhaglen gyfalaf pum mlynedd gyfredol ym mis Mawrth 2022. Pennodd hyn y rhaglen ar gyfer 2022/23 yn ogystal â rhaglen ddangosol tan 2026/27. 
  • Nawr mae angen i ni gynllunio ar gyfer pennu rhaglen 2023/24. Mae angen i ni hefyd ddiweddaru blynyddoedd diweddarach y rhaglen ddangosol, a'i hymestyn i gwmpasu 2027/28.

 

Sut ydych chi'n cynllunio ar gyfer prosiectau cyfalaf?

  • Mae maint a chymhlethdod cynlluniau cyfalaf yn golygu bod ystod eang o ffactorau i'w hystyried - mae hyn yn gofyn am achosion busnes cadarn ac asesiadau hyfywedd.
  • Mae'n hanfodol bod yr holl risgiau allweddol yn cael eu deall yn llawn cyn cychwyn ar brosiect.

 

Sut y telir am wariant cyfalaf?

  • Mae cynghorau'n derbyn arian grant (penodol a chyffredinol) i gefnogi gwariant cyfalaf. Mae hyn yn debyg i'r Gyllideb Refeniw, ond mae rhai gwahaniaethau pwysig iawn hefyd.
  • Un o'r rhain yw bod rheolau'n caniatáu i Gynghorau fenthyca er mwyn ariannu gwariant cyfalaf -cyn belled â bod y benthyca hwnnw'n cael ei ystyried yn fforddiadwy, yn gall ac yn gynaliadwy.
  • Un arall yw y gall cynghorau hefyd ariannu gwariant cyfalaf trwy werthu asedau a defnyddio'r enillion - sef derbyniadau cyfalaf.

 

Beth yw'r sefyllfa o ran benthyca?

  • Mae benthyca yn rhoi pwysau ar y gyllideb refeniw. Y rheswm dros hyn yw bod yn rhaid i'r Cyngor ad-dalu dyled gyda llog. Gelwir y gyllideb refeniw yr effeithir arni yn "gyllideb ariannu cyfalaf".
  • Yn gyffredinol, mae pob £1m o wariant cyfalaf yn rhoi pwysau ychwanegol o £75,000 ar y gyllideb refeniw. Mae hyn yn rhagdybio y bydd yr ased yn para amser hir (25 mlynedd). Mae'r effaith ar refeniw yn uwch os na ddisgwylir i asedau bara mor hir â hynny.
  • Mae ariannu cyfalaf yn cyfrif am tua 5% o'r gyllideb refeniw.  Hyd yn oed heb fenthyca pellach, bydd y gyllideb hon yn cynyddu dros y tymor canolig.
  • Mae hyn yn ystyriaeth allweddol wrth farnu a yw unrhyw fenthyca pellach yn fforddiadwy - oherwydd bod y gyllideb refeniw eisoes o dan bwysau sylweddol.

 

Beth yw'r sefyllfa o ran derbyniadau cyfalaf?

  • Gall gwerthu asedau: 
    • Ddarparu arian i gefnogi'r rhaglen gyfalaf.
    • Lleihau costau refeniw sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw a gweithredu asedau.
  • Mae'r rhaglen gyfalaf bresennol eisoes yn cynnwys targedau heriol o ran derbyniadau cyfalaf.  Mae diweddariadau i'r targed derbyniadau wedi'u cynnwys yn y cynllun eiddo blynyddol.
  • Mae cynlluniau buddsoddi cyfalaf yn cynnwys nifer o brosiectau datblygu mawr yn seiliedig ar dderbyniadau cyfalaf yn cyfrannu at eu cost. Gall fod risg lle mae gwariant yn dechrau cyn i dderbyniadau gael eu gwireddu, a bydd angen adolygu hyn yn rheolaidd fel rhan o'r cynllun eiddo blynyddol.

 

Beth fyddwch chi'n ei ystyried wrth ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf?

  • Yr ystyriaeth allweddol yw fforddiadwyedd.
  • Heb fawr ddim cyfle i gynyddu benthyciadau neu dderbyniadau cyfalaf i ariannu cynlluniau, bydd angen i ni flaenoriaethu.
  • Bydd angen i ni hefyd feddwl am ffactorau economaidd a allai effeithio ar gostau cynlluniau. Bydd hyn yn cynnwys pethau fel problemau cyflenwi deunyddiau, costau adeiladu cynyddol, argaeledd cyflenwyr a'r potensial i gynyddu cyfraddau llog i effeithio ar gost benthyca.
  • Mae'r Cyngor wedi, ac yn parhau i fod yn llwyddiannus wrth wneud ceisiadau am grantiau allanol i gefnogi cynlluniau penodol. Mae hon yn ffordd hanfodol o gefnogi fforddiadwyedd cyffredinol - ond weithiau mae trefniadau ymgeisio ar gyfer y ffrydiau ariannu hyn yn ei gwneud hi'n anodd cynllunio yn yr hirdymor.

 

A all rhywfaint o fuddsoddi dalu amdano'i hun drwy arbedion neu ffrydiau incwm newydd?

  • Gall, cynlluniau buddsoddi i arbed (ITS) neu ‘fuddsoddi i ennill' (ITE) yw'r rhain. Mae'r rhain yn gynlluniau lle mae buddsoddiad cyfalaf yn arwain at arbedion neu incwm sy'n helpu i dalu'r costau benthyca. Mae cyfyngiadau ar fuddsoddiadau'r Cyngor mewn prosiectau o fath masnachol e.e. y rhai a wneir yn bennaf ar gyfer adenillion ariannol.
  • Mae achos busnes cadarn yn allweddol i sicrhau bod yr incwm / cynilion yn dod i'r amlwg ar y lefelau sy'n ofynnol i dalu'r costau benthyca. Os na fyddant, mae risg taw'r gyllideb refeniw fydd yn talu'r costau hynny am flynyddoedd lawer i ddod.

 

O ystyried yr uchod, beth yw'r dull arfaethedig o ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf?

  • Ar gyfer y Gronfa Gyffredinol (meysydd ar wahân i'r Cyfrif Refeniw Tai), ni fydd unrhyw fuddsoddiad newydd oni bai ei fod:
    • Wedi'i ailflaenoriaethu o'r rhaglen bresennol - mewn geiriau eraill mae'n rhaid i rywbeth arall ddisgyn allan / lleihau.
    • Yn mynd gydag arian cyfatebol allanol sylweddol - ac y cadarnhawyd yr arian hwnnw
    • Ar sail buddsoddi i arbed yn dilyn achos busnes a gymeradwywyd gan y Cabinet
  • Os yw cost cynlluniau sydd eisoes wedi'u cynnwys yn y rhaglen ddangosol wedi cynyddu, bydd angen rheoli hyn o fewn y dyraniadau presennol drwy liniaru effeithiau neu adolygu amseru.
  • Ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai:
    • Bydd angen i fuddsoddiad newydd ystyried modelu fforddiadwyedd cynlluniau busnes hirdymor.
    • Dylai cynlluniau adeiladu newydd fod yn destun asesiadau hyfywedd unigol.
    • Bydd y dull o bennu rhenti yn ffactor allweddol mewn asesiadau fforddiadwyedd.
  • Bydd yn hanfodol parhau i adolygu'r cynnydd a wneir tuag at dderbyniadau cyfalaf.
  • Dylai'r holl fuddsoddiad arfaethedig fod yn unol â rhaglen cyflawni'r Uchelgais Prifddinas a dylid ystyried pob ateb amgen ar gyfer ariannu a chyflawni'r un canlyniad, cyn ystyried arian ychwanegol gan y Cyngor. Bydd hefyd angen dangos gwerth am arian yn y dull o gyflawni canlyniadau.

 

Beth nesaf?