Back
Gwefrwyr Cerbydau Trydan newydd wedi’u gosod yng Nghaerdydd

Mae 24 pwynt gwefru newydd yn cael eu gosod yng Nghaerdydd i'w gwneud hi'n haws i breswylwyr newid i gerbydau trydan.

Mae'r gwefrwyr newydd yn cael eu hariannu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac maent yn cael eu gosod mewn 12 lleoliad gan ganolbwyntio ar feysydd parcio cyhoeddus, yn agos at ganolfannau siopa, parciau a hybiau cymunedol. Pan fydd y gwaith gosod wedi'i gwblhau bydd mwy na 70 o gyfleoedd gwefru ar gael i'r cyhoedd ar dir neu briffyrdd sy'n eiddo i'r cyngor yn y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd: "Mae gosod gwefrwyr mewn lleoliadau allweddol yn helpu perchnogion Cerbydau Trydan presennol i lenwi eu lefelau gwefru wrth fynd, tra'u bod yn ymweld â chyfleusterau cymunedol, siopau neu'r gwaith ac gall alluogi pobl na all eu cartrefi ddarparu ar gyfer gwefrwyr oddi ar y stryd i wneud y newid i ffwrdd o betrol neu ddisel, lleihau allyriadau carbon a helpu i wneud ein haer yn lanach.

"Mae 41% o allyriadau carbon Caerdydd yn dod o drafnidiaeth ar hyn o bryd, felly mae newid sut rydyn ni'n symud o gwmpas yn allweddol i'n Strategaeth Un Blaned, ond nid yw cerbydau trydan yn unig yn fwled arian, ac mae gosod seilwaith gwefru yn eistedd ochr yn ochr â'n cynlluniau uchelgeisiol i ddyblu nifer y bobl sy'n beicio ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030."

Dywedodd y Rheolwr Ynni a Thrafnidiaeth P-RC Clare Cameron:"Mae'r broses ddiweddaraf hon o gyflwyno gosodiadau gwefru Cerbydau Trydan yn newyddion gwych. Uchelgais ehangach P-RC yw creu seilwaith trafnidiaeth werdd a chynaliadwy sy'n diwallu anghenion ein holl ddinasyddion yn ogystal â diogelu'r blaned - ac mae gan ein rhaglen Cerbydau Allyriadau Isel Iawn ran enfawr i'w chwarae yn hyn o beth. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i leoli 178 o wefrwyr deuol at ddefnydd cyhoeddus ar draws 146 o safleoedd, ledled y rhanbarth. Roedden ni wrth ein bodd yn gweld yr uned gyntaf yn cael ei gosod ym Mlaenau Gwent ym mis Awst; ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y rhaglen  yn dod yn fyw go iawn ar draws Caerdydd a phob ardal awdurdod lleol dros y misoedd nesaf."

Mae'r gwefryddion newydd yn cael eu gosod yn:

Maes Parcio Hyb y Star, Heol Muirton

Heol y Coleg

Arglawdd Dôl Afon Taf

Tewkesbury Place

Maes Parcio Parc y Mynydd Bychan

Maes Parcio Havannah Street

Maes Parcio Heol Pen-llin

Maes Parcio Heol y Gogledd

Maes Parcio Stablau'r Castell

Maes Parcio Gerddi Sophia

Maes Parcio Harvey Street

Maes Parcio Caeau Pontcanna/Llandaf