Back
Cynigion Chwaraeon Cymru ar gyfer llywodraethu chwaraeon cymunedol i gael eu trafod

Bydd cynigion Chwaraeon Cymru i newid y ffordd mae chwaraeon cymunedol yn cael ei lywodraethu yng Nghaerdydd yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf Cabinet Cyngor Caerdydd, pan fydd yn ystyried argymhellion a wnaed gan ymchwiliad Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant i Chwaraeon Cymunedol yng Nghaerdydd.

Gan gwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, a Chaerdydd, byddai'r Bartneriaeth Chwaraeon Rhanbarthol Canol a gynigir yn disodli'r fenter ar y cyd bresennol rhwng Cyngor Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae strwythurau drafft a threfniadau llywodraethu ar gyfer y partneriaethau arfaethedig yn cael eu datblygu ar hyn o bryd drwy weithgor o bob Awdurdod Lleol yr effeithir arnynt, dan arweiniad a'u gweinyddu gan 'Chwaraeon Caerdydd.'

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Rydym yn gweithio'n agos gyda Chwaraeon Cymru, a'n partneriaid rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod llais Caerdydd yn cael ei glywed wrth i'r cynigion gael ei ddatblygu ymhellach, a bod y cynnydd da, sydd eisoes yn cael ei wneud yma i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon, yn parhau yn y dyfodol. Mae hwn yn fater pwysig, a hoffwn ddiolch i Bwyllgor yr Economi a Diwylliant am y gwaith y maent wedi'i wneud i graffu ar y cynigion."

Mae'r adroddiad craffu yn gwneud 6 argymhelliad sy'n gysylltiedig â'r broses o ymgysylltu â'r Cyngor ar gyfer datblygu cynigion newydd ac, yn amodol ar gymeradwyaeth pan fydd y Cabinet yn cyfarfod ar 28 Medi, caiff 5 eu derbyn ac un ei dderbyn yn rhannol.