Back
Helpu pobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i gael eu cyflogi'n llwyddiannus

23/6/2022

Mae prosiect sy'n rhoi'r cymorth a'r hyfforddiant angenrheidiol i bobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) er mwyn iddynt allu cael cyflogaeth yn llwyddiannus wedi'i lansio yng Nghaerdydd.

Mewn partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae Prosiect SEARCH yn darparu lleoliadau hyfforddiant a phrofiad gwaith i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu awtistiaeth, gyda'r nod o'u paratoi a'u cefnogi wrth iddynt bontio o'r ysgol i gyflogaeth amser llawn.

A picture containing a person wearing a lab coat in a laboratory

Ers ei gynllun peilot cychwynnol ym mis Medi 2021, mae'r cynllun wedi'i gefnogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sydd, fel y partner cyflogaeth, wedi darparu ystod o leoliadau profiad gwaith â chymorth mewn sawl adran yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan, gan gynnwys fferylliaeth, patholeg celloedd, arlwyo, switsfwrdd, llieiniau, cadw tŷ a phorthorion.

Mae'r trefnwyr bellach yn chwilio am gyflogwyr a sefydliadau eraill i ddod ymlaen a chefnogi lleoliadau gwaith yn y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:CardiffCommitment@cardiff.gov.uk

A person sitting at a desk with a computer and a computerDescription automatically generated with medium confidence

Mae disgyblion o Ysgol Uwchradd Woodlands ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd ac Ysgol y Deri ym Mro Morgannwg wedi cael gwersi ar sgiliau cyflogadwyedd ac wedi derbyn cymorth gan hyfforddwr cyflogaeth arbenigol Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith Caerdydd i gael mynediad at leoliadau profiad gwaith yn ystod y rhaglen blwyddyn lawn amser.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd: "Mae Prosiect SEARCH wedi llwyddo i sicrhau bod pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu cael mynediad at leoliadau profiad gwaith o ansawdd da ynghyd â darpariaeth i'w cefnogi i ddod o hyd i waith yn y dyfodol.

"Mae'n galonogol clywed bod pob un o'r saith intern yn aros gyda'r bwrdd iechyd ar hyn o bryd, gyda dau yn sicrhau cyflogaeth o ganlyniad uniongyrchol i gymryd rhan yn y prosiect.

"Mae ehangu'r prosiect yn dibynnu ar sefydliadau'n camu i'r adwy. Maent yn amhrisiadwy o ran helpu i gefnogi mwy o bobl ifanc i ddod yn uchelgeisiol, yn alluog ac yn barod i weithio wrth hyrwyddo unigolion hyderus sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o'n cymunedau."

A picture containing young man indoors preparing drugs in the hospital pharmacy

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg - Y Cynghorydd Rhiannon Birch:  "Mae Prosiect SEARCH yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod o hyd i leoliadau gwaith heriol o ansawdd uchel ar gyfer unigolion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy'n helpu i'w paratoi ar gyfer cyflogaeth hirdymor, rhywbeth y mae llawer yn ei chael hi'n anodd dod o hyd iddo.

"Fodd bynnag, mae angen mwy o leoliadau i fodloni'r awydd sylweddol am y mathau hyn o gyfleoedd. Byddwn yn annog unrhyw gyflogwyr sy'n credu y gall fod o gymorth i ddod ymlaen i helpu rhywun i gymryd cam pwysig i fyd gwaith."

Dywedodd Nicky Punter, Rheolwr Adnoddau a Chynhwysiant y Gweithlu ac Arweinydd Prosiect ar gyfer Prosiect SEARCH ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae'r prosiect wedi'i dderbyn yn arbennig o dda gan reolwyr ac arweinwyr Gweithredol yn y Bwrdd Iechyd. Mae'r cynllun wedi gweld pobl ifanc yn pontio o bobl sy'n gadael yr ysgol, i unigolion sy'n gweithio gyda sgiliau a phrofiad newydd, sydd wedi magu hyder a chred yn eu hunain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys dau intern llwyddiannus iawn yn cael gwaith parhaol o fewn y GIG o ganlyniad.

Hoffem ddiolch i holl reolwyr y gwahanol adrannau sydd wedi cynnal y interniaid ac am eu cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, ac am yr holl gynigion a gawsom ar gyfer lleoliadau yn y dyfodol pan fydd y garfan nesaf o fyfyrwyr yn cyrraedd.

Caiff pobl ifanc eu cyfeirio at dîm Prosiect SEARCH gan eu hysgol yn 16-18 oed.