Back
Graham Hinchey i'w ethol yn Arglwydd Faer newydd Caerdydd

26.05.22
Mae'r Cynghorydd Graham Hinchey wedi'i gadarnhau fel Arglwydd Faer newydd Caerdydd mewn cyfarfod o'r cyngor llawn heddiw.

Mae'r Cynghorydd Hinchey, 64, a fydd yn cael ei gefnogi gan ei Ddirprwy Faer newydd, y Cynghorydd Abdul Sittar, yn olynu'r Cynghorydd Rod McKerlich yn y rôl anrhydeddus ac mae wedi dewis Cŵn Tywys Cymru fel elusen eleni.

"Fel rhywun a aned yng Nghaerdydd ac sydd wedi byw yng Nghaerdydd ar hyd fy oes, rwy'n hapus, yn falch ac yn teimlo anrhydedd mawr o gael fy newis fel yr Arglwydd Faer newydd.

"Does gen i ddim amheuaeth bod blwyddyn gyffrous a chofiadwy gen i o'm blaen, ac rwy'n edrych ymlaen at yr her sydd wedi'i gosod ar fy nghyfer i helpu i sicrhau bod prifddinas Cymru yn parhau i gael ei gweld yn y golau gorau posibl i bawb y dof ar eu traws.

"Rwy'n edrych ymlaen at fynd allan ar hyd y lle yng Nghaerdydd ac ymweld â chymaint o ardaloedd o'r ddinas ag y gallaf drwy gydol fy mlwyddyn yn y swydd"

Fel cyn Reolwr Rhanbarthol BT, mae wedi byw yn y Mynydd Bychan ers dros 25 mlynedd ac mae'n adnabyddus yn y gymuned leol.  Yn ogystal â chynrychioli ward y Mynydd Bychan ar y cyngor, ef yw’r aelod cabinet sydd wedi gwasanaethu hiraf dros y 10 mlynedd diwethaf, gyda phortffolios yn cynnwys Cynllunio Strategol, Gwasanaethau Corfforaethol a Gwasanaethau Plant. Mae'r Cynghorydd Hinchey hefyd yn gadeirydd y llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Ton Yr Ywen ac yn is-gadeirydd yn Ysgol Gynradd Llwynbedw.

Mae hefyd wedi cadeirio grŵp cymunedol Cyfeillion Gerddi Llwynfedw ers ei sefydlu yn 2013. Mae pwyllgor y Cyfeillion, gyda chymorth aelodau a thrigolion, wedi codi miloedd o bunnoedd i drawsnewid yr hen bafiliwn yn y parc yn ganolfan gymunedol ffyniannus (https://www.youtube.com/watch?v=tCULpI-R1qg), sy’n cynnal digwyddiadau lleol ac elusennol, gan gynnwys y Parti yn y Parc blynyddol. 

Ond ei waith fel gwirfoddolwr Cŵn Tywys Cymru a fydd yn llywio ei flwyddyn fel Arglwydd Faer fwyaf.  "Byddwn yn cefnogi llawer o elusennau," meddai, "ond mae gennym gysylltiadau cryf gyda chŵn tywys, ar ôl maethu tua 24 dros y 10 mlynedd diwethaf – gofalu amdanynt wrth iddynt fynd drwy eu hyfforddiant."

Dywedodd Kerry Bevan, pennaeth gwasanaeth Cŵn Tywys Cymru:  "Rydym wrth ein bodd bod Graham wedi enwi Cŵn Tywys fel ei elusen ddewisol yn ystod ei flwyddyn yn y swydd.  Bydd y berthynas hon yn codi ymwybyddiaeth o wasanaethau Cŵn Tywys i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda nam ar eu golwg yng Nghaerdydd a ledled Cymru.  Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Arglwydd Faer newydd a'i helpu i gyflawni ei nod o enwi ci tywys bach."

Wrth ysgwydd Graham mewn llawer o ddigwyddiadau swyddogol fydd ei wraig Anne, sydd bellach yn Arglwyddes Faeres. Hi yw pennaeth Wales and West Housing, un o gymdeithasau tai mwyaf Cymru. Mae ganddynt dri mab a merch.