Back
Panel Dinasyddion Ifanc Caerdydd yn lansio i ymgysylltu â phobl ifanc ar ddatblygiadau lleol allweddol

03.05.22
Mae Cyngor Caerdydd eisiau clywed gan bobl ifanc Caerdydd am bynciau lleol allweddol sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae Panel Dinasyddion o drigolion lleol o bob rhan o Gaerdydd sy'n rhoi eu barn ar nifer o bynciau ymgynghori drwy gydol y flwyddyn wedi bod ar waith ers peth amser ac erbyn hyn mae Panel Dinasyddion Ifanc yn cael ei greu ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed sy'n byw yn y ddinas.

Hoffai'r cyngor ymgysylltu â phanel iau gyda phynciau mwy penodol ac annog pobl ifanc i gymryd rhan o oedran ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau a democratiaeth leol. Mae cael barn a mewnbwn pobl ifanc ar bethau pwysig sy'n digwydd yn y ddinas hefyd yn cefnogi Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn; Mae gennych hawl i gael eich clywed a'ch cymryd o ddifrif.

M
ae Cyngor Caerdydd eisoes wedi ymgysylltu a gweithio gyda phobl ifanc wrth wneud cynlluniau yn y ddinas fel gyda'r Strategaeth Un Blaned lle maent yn helpu i lunio'r ymateb strategol i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd, y cynllun NextBike a phrosiectau Addysg Minecraft lle mae pobl ifanc wedi cynllunio rhannau o'r ddinas ar gyfer amrywiaeth o ddatblygiadau strategol drwy ddefnyddio'r platfform gêm rithwir.

Mae cynlluniau a strategaethau pwysig eraill hefyd wedi'u datblygu a'u haddasu gyda phobl ifanc mewn golwg megis y
Strategaeth Adfer Covid sy'n Ystyriol o Blant a Pobl Ifanc ar Ddiogelu lle'r oedd pobl ifanc yn ymwneud yn helaeth â gweledigaeth, egwyddorion a nodau'r strategaeth, ynghyd â’i hanimeiddio’n weledol.

Rydym hefyd yn cynnal Arolwg Disgyblion Caerdydd sy'n Dda i Blant ym mhob ysgol i gasglu barn pobl ifanc a helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch ble maent yn byw, y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio a datblygiad y ddinas yn y dyfodol.

Bydd aelodau'r Panel Dinasyddion Ifanc yn cael cyfle i rannu eu barn drwy gwblhau arolygon ac weithiau gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill fel grwpiau ffocws, gweithdai neu fforymau. Gofynnir iddynt am eu mewnbwn ar wahanol bethau sy'n digwydd yn y ddinas megis trafnidiaeth, yr amgylchedd, addysg, iechyd, tai, datblygiadau mawr, teithio llesol, twf y ddinas, dyfodol cyfleoedd gwaith a chyflogaeth a mwy.

Wrth gofrestru i fod yn aelod o'r Panel Dinasyddion Ifanc, bydd pobl ifanc yn:

  •  Helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghyngor Caerdydd a gwasanaethau eraill, fel y Bwrdd Iechyd, Trafnidiaeth ac Addysg, ledled y ddinas i wneud Caerdydd yn lle gwell i blant a phobl ifanc dyfu i fyny ynddo.
  • Gwireddu eu hawl i gael gwrandawiad o dan erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawl y Plentyn (CCUHP) ar y materion y maent yn angerddol yn eu cylch.
  • Helpu Cyngor Ieuenctid Caerdydd i ddadlau o blaid newid cadarnhaol a hawliau plant ledled dinas Caerdydd.
  • Cael cyfle i ennill taleb £50 am gofrestru
  • Cael cyfle i ennill taleb £50 am bob arolwg a gwblheir

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'n bwysig cael plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y broses o helpu i wneud penderfyniadau a lleisio eu barn ar y materion y maent yn angerddol iawn yn eu cylch. Bydd nid yn unig yn rhoi hyder iddynt ac yn eu cynnwys drwy newid y ddinas y maent yn byw ynddi, ond hefyd yn eu hannog i fynegi eu barn a chwarae rhan mewn democratiaeth leol yn gynnar."

I gael gwybod mwy am Banel Dinasyddion Ifanc Caerdydd ac i gofrestru, cliciwch yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/dweud-eich-dweud/panel-dinasyddion-caerdydd/Pages/default.aspx

Mae Panel Dinasyddion Ifanc Caerdydd yn cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.