Back
Mae Nakeisha o’r farn y gall gweithio i Gyngor Caerdydd fod yn chwarae plant

25.04.22
Mae Nakeisha Sheppard yn sicr yn rhywun sy'n mwynhau ei gwaith ond yna, fel Hyfforddai Swyddog Chwarae cyntaf Cyngor Caerdydd, nid yw hynny'n syndod.

Wedi ei chyflogi fis Tachwedd y llynedd, mae'n treulio llawer o'i diwrnod yn helpu plant ledled y ddinas i fwynhau ystod eang o weithgareddau chwarae, chwaraeon a diddordebau, ond mae hi hefyd yn ennill sgiliau gwerthfawr ei hun drwy gyrsiau hyfforddi a phrofiad ymarferol.

Dros y ddwy flynedd nesaf, y bwriad yw i Nakeisha gymhwyso fel Swyddog Chwarae a mynd ymlaen i ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb o fewn tîm chwarae'r cyngor.

"Dyma'r swydd ddelfrydol i mi," meddai.  "Rwyf bob amser wedi bod eisiau gweithio gyda phlant ac fe wnes i wneud fy ngradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd gyda'r math yma o waith mewn golwg.

"Pan wnes i raddio yn 2019 es i i weithio mewn canolfan chwarae breifat ger fy nghartref yn Nhreganna ond yna fe darodd Covid ac, er fy mod ar ffyrlo, newidiodd popeth.

"Roeddwn i eisiau dychwelyd i'r gwaith a ches rôl drwy asiantaeth fel Cynorthwyydd Addysgu yn Ysgol Parc Ninian yn Grangetown ond dim ond am y gwaith roeddech yn ei wneud yn ystod y tymor y caech eich talu. Felly pan glywais am y swydd hon es i amdani ac roeddwn wrth fy modd pan gefais hi."

Ers iddi ddechrau gyda'r cyngor, mae Nakeisha wedi cael llawer o hyfforddiant wedi'i gynllunio i fynd â hi i gymhwyster Lefel III mewn Gwaith Chwarae.  "Rwyf eisoes wedi gwneud rhan gyntaf fy Lefel II ac wedi cael hyfforddiant mewn cymorth cyntaf, diogelu a gweithgareddau chwarae 'rhannau rhydd' – gan alluogi plant i chwarae gan ddefnyddio gwrthrychau bob dydd, yn hytrach na theganau.

"Byddaf hefyd yn cael profiad o weithio yn y swyddfa ac ochr weinyddol pethau pan fydd pawb yn dychwelyd i weithio yn y swyddfa, yn hytrach na gweithio gartref."

Mae'r hyfforddeiaeth, er yr un cyntaf yn adran Chwarae'r cyngor, yn dilyn llwyddiant y cynllun mewn meysydd eraill ac mae'n ymrwymiad gan y cyngor i ddatblygu pobl ifanc i baratoi ar gyfer y gweithle.

Dwedodd Steve Morris, rheolwr gweithredol, fod y rhan fwyaf o'r hyfforddeion yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi symud ymlaen i swyddi llawn amser, o ganlyniad i'r hyfforddiant a'r profiad gwaith a thrwy ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd.

"Mae'r cynllun wedi gweithio'n dda i ni mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth," meddai, "ac rwy'n falch iawn o allu datblygu hyfforddai arall, y tro hwn mewn chwarae plant.  Edrychaf ymlaen at weld sut mae Nakeisha yn datblygu yn y rôl hon a'r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar fywydau'r plant sy'n mynychu'r sesiynau chwarae."

I Sarah Stork, rheolwr Nakeisha, mae'r hyfforddeiaeth newydd yn ffordd ddelfrydol o ddod o hyd i'r genhedlaeth nesaf o swyddogion Chwarae.  "Mae'n fenter newydd i ni," meddai, "ac os bydd y cyfle'n codi eto byddwn yn sicr yn edrych i’w ailadrodd.

"Yn y gorffennol rydym wedi tueddu i gyflogi Swyddogion Chwarae sydd eisoes wedi cymhwyso.  Gall cael cymwysterau fod yn broses ddrud ond mae'r hyfforddeiaeth hon wedi'i chynllunio i helpu gyda hynny a gwneud y sefyllfa'n fwy deniadol.  Rydym am gefnogi pobl ifanc i gael gwaith ac mae gallu cynnig hyfforddiant yn bwysig."

Mae Tîm Chwarae'r cyngor wedi'i leoli yn Sblot ond mae'n gwneud llawer o waith allgymorth mewn ysgolion ledled Caerdydd, yn cynnal sesiynau chwarae ar ôl ysgol ac yn gweithio gyda grwpiau penodol fel gofalwyr ifanc a'r gymuned teithwyr.

"Mae'r gwaith yn amrywiol iawn a dyna sy'n apelio ataf," meddai Nakeisha.  "Ddoe roeddwn i mewn ysgol ac yna'n gwneud sesiwn chwarae pan oedd yr ysgol wedi gorffen.  Rydym yn trefnu pêl-droed, paentio a chrefftau i blant rhwng pump a 14 oed yma yn Sblot a hefyd yng Nghanolfan Ieuenctid Trelái, Canolfan Gymunedol Cathays, Ysgol Gynradd Mount Stuart a phafiliwn Butetown hefyd.

"Mae fy nghydweithwyr yn hynod o gymwynasgar a chyfeillgar ac mae wedi bod yn braf cwrdd â llawer o blant.  Mae hefyd wedi bod yn wych gweithio i'r cyngor – rydych yn clywed pethau da am sut y gallwch symud ymlaen a'r manteision ac rwy'n hapus iawn.

"Roedd fy nheulu bob amser yn dweud pa mor dda oeddwn i gyda phlant a nawr rwy'n gwneud defnydd da o hynny."

  • Mae Caerdydd ar Waith, asiantaeth recriwtio fewnol y Cyngor, wedi symleiddio’i brosesau ymgeisio i'w gwneud yn gyflymach ac yn haws i ymgeiswyr wneud cais am swyddi dros dro.  Gall ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn cofrestru i wneud cais am unrhyw un o'r ystod eang o swyddi dros dro o fewn yr awdurdod, sydd ar gael drwy Caerdydd ar Waith, gwblhau ffurflen gais ac asesiad ar-lein – gan gyflymu'r broses a oedd gynt yn gofyn i ymgeiswyr fynychu asesiad wyneb yn wyneb. Mae swyddi ar gael mewn nifer enfawr o feysydd sy'n adlewyrchu'r ystod eang o wasanaethau y mae'r cyngor yn eu darparu ledled y ddinas.  Caiff swyddi gwag dros dro gyda'r Cyngor eu diweddaru'n rheolaidd ar www.caerdyddarwaith.co.uk/  Mae'r wefan hefyd yn cynnig  ystod eang o gyngor a chymorth cyflogadwyedd i helpu pobl sy’n chwilio am swyddi neu am newid gyrfa i ennill y sgiliau, y profiad a'r wybodaeth a fydd yn eu helpu i bontio i gyflogaeth gynaliadwy mewn sector sy'n addas iddynt.
  • Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF.  I gael gwybod mwy am bolisïau'r cyngor yn y maes hwn, ewch i https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/