Back
Datgelu barn y cyhoedd am gynlluniau Caerdydd i roi hwb i gyfleoedd addysg Gymraeg

23/2/2022

Mae dros 3000 o'r cyhoedd wedi cael dweud eu dweud ar strategaeth 10 mlynedd Caerdydd i hybu nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd y rhai a ymatebodd i raddau helaeth o blaid egwyddorion a gweledigaeth Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) 2022-2032 Caerdydd a gynlluniwyd i helpu Llywodraeth Cymru i wireddu ei tharged o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried adroddiad sy'n trafod yr ymatebion pan fydd yn cyfarfod nesaf Ddydd Iau 18 Chwefror 2022.

Gwneir argymhellion igyflwyno'rstrategaeth i'w chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Merry: "Rwy'n falch bod cymaint o bobl wedi ymgysylltu â'r ymgynghoriad ac mae'n galonogol clywed bod y rhan fwyaf oymatebion a gafwyd yn cefnogi'r egwyddorion a'r weledigaeth a amlinellir yn y strategaeth.  Mae llawer o safbwyntiau'n cydnabodCynllun cadarnhaol ac uchelgeisiol Caerdydd iddatblygu Caerdydd ddwyieithog lle mae'r Gymraeg yn iaith fyw a bywiog.

"Drwy gynyddu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn gynaliadwy tuag at y targedau a nodir yn Gymraeg 2050, mae'n adlewyrchu ein huchelgais bod pob person ifanc yn cael cyfle i glywed, siarad a mwynhau'r Gymraeg. Y gobaith yw y bydd hyn yn caniatáu i bobl ifanc gofleidio'r iaith yn llawn fel rhan o'n gwead cenedlaethol a chydnabod ei lle yn nghalon Caerdydd, prifddinas Cymru."

Un targed allweddol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yw i Gaerdydd sicrhau bod rhwng 25-29% o ddysgwyr Blwyddyn 1 yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2032.  Ar hyn o bryd mae 18% o ddysgwyr Blwyddyn 1 yn cael eu haddysgu'n Gymraeg.  Erbyn 2050, ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i 40% o blant gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg gyda 50% o'r plant sy'n derbyn eu haddysg drwy'r Saesneg yn nodi eu bod yn hyderus i siarad Cymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol.

Mae'r strategaeth, a fydd yn rhedeg o 2022-2032, yn cynnwys nifer o ymyriadau i hybu'r iaith, gan gynnwys:

  • Tyfu ein darpariaeth gynradd ac uwchradd, sy'n cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050;  
  • Cefnogi'r ddarpariaeth bresennol ac ysgogi mwy o alw am addysg Gymraeg ar draws y ddinas;
  • Gweithio gyda phartneriaid a'r Fforwm Addysg Gymraeg i ddarparu sylfaen gref i'r Gymraeg allu tyfu a ffynnu yng Nghaerdydd.
  • Bywiogi'r gwaith o hyrwyddo cyfleoedd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg (o'r blynyddoedd cynnar drwy addysg a gynhelir ac i addysg bellach ac uwch);
  • Gweithio gyda rhieni i ddeall y ffactorau sy'n dylanwadu wrth ddewis ysgol ar gyfer eu plentyn/plant;
  • Parhau i gefnogi darpariaeth Drochi ar gyfer hwyrddyfodiaid i'r iaith yng Nghaerdydd fel y gellir ystyried addysg Gymraeg fel opsiwn sydd ar gael i bob teulu;
  • Gweithio i gefnogi mwy o amrywiaeth yn y sector Cymraeg - gan sicrhau bod pob teulu yng Nghaerdydd yn ymwybodol ei fod yn ddewis sydd ar gael i'w plant a gweld eu hysgol leol yn adlewyrchiad o'u cymuned a'r ddinas;
  • Cynyddu nifer y staff addysgu a dysgu Cymraeg rhugl i gefnogi twf ac ymrwymiad parhaus i ddarparu addysg Gymraeg ac addysgu Cymraeg rhagorol yn ysgolion Caerdydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:   "Mae ein gweledigaeth newydd ar gyfer addysg a dysgu yng Nghaerdydd yn gwneud ymrwymiad clir a diamwys i ddarparu mwy o leoedd ysgol Cymraeg ac rydym eisoes wedi cymryd camau breision ymlaen yn y maes hwn gan agor ysgolion Cymraeg newydd ar draws y ddinas a sicrhau bod mwy o leoedd ar gael i ddisgyblion yn yr ysgolion presennol.

"Nid oes fawr o amheuaeth bod pobl yn dod yn fwy ymwybodol o fanteision addysg ddwyieithog, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y wybodaeth gan bob teulu i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth, a theimlo'n hyderus i ddewis addysg Gymraeg i'w plant. Mae gan ein Uned Trochi Cymraeg hanes profedig o helpu teuluoedd sy'n symud i Gaerdydd neu deuluoedd sy'n dewis symud draw o addysg Saesneg i addysg Gymraeg ran o'r ffordd trwy daith addysg y plentyn, ond mae angen i ni barhau i weithio ar hyrwyddo'r gefnogaeth sydd ar gael i rieni sydd â'u plant yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Yn olaf, mae'n rhaid i ni barhau i fod yn ymwybodol o anghenion ein holl ysgolion presennol wrth i ni gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg. Drwy gynyddu'r ddarpariaeth mewn ffordd strategol, a chan ystyried amcanestyniadau cyfraddau geni cyfredol - sy'n rhagweld gostyngiad cychwynnol yn niferoedd disgyblion hyd at 2024 - rydym yn ceisio sicrhau bod ein holl ysgolion ar sail ariannol gadarn."

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Cyngor Caerdydd wedi codi ac agor tair ysgol Gymraeg newydd a chynyddu capasiti mewn llawer o'i ysgolion a oedd yma eisoes.   Yng nghyd-destun gostyngiad cyffredinol yn niferoedd disgyblion sy'n derbyn addysg gynradd, mae amcanestyniadau darpariaeth ysgolion presennol y Cyngor yn awgrymu y bydd y llefydd yma ynghyd â'r ddarpariaeth ychwanegol a gynlluniwyd eisoes, yn cynnig lefel gymharol uchel o lefydd dros ben ar draws ysgolion y sector Cymraeg i gefnogi twf cynaliadwy ym mlynyddoedd cynnar y cynllun deng mlynedd. 

Bydd cyflawni targedau'r CSCA o gynyddu niferoedd y disgyblion sy'n gael eu haddysgu mewn ysgolion Cymraeg o 18% yn 2021 i 25-29% yn 2032 yn gofyn am fwy o leoedd ysgol Cymraeg ledled Caerdydd.  Wrth i ysgolion ymateb yn gadarnhaol i'r Gwricwlwm i Gymru newydd ac ymateb i'r awydd cynyddol i allu siarad Cymraeg, rydym yn hyderus y bydd ysgolion Saesneg hefyd yn awyddus i adeiladu ar eu sgiliau iaith cynyddol gydag ysgolion yn symud i gyflwyno mwy o addysgu ar y Gymraeg gan feithrin hyder eu disgyblion i siarad a mwynhau'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Dwedodd y Cynghorydd Merry: "O gofio'r amcanestyniadau poblogaeth a'r gostyngiad tebygol yn nifer y disgyblion sy'n mynd i ysgolion dros y blynyddoedd nesaf, mae angen i ni feddwl yn strategol ynghylch sut allwn sicrhau'r defnydd gorau posibl o'r holl leoedd sydd ar gael ar hyn o bryd ar draws y ddinas a'r lleoedd ychwanegol sydd eisoes wedi eu cynllunio gennym fydd ar gael yn fuan. Rydym wedi gweld twf cadarnhaol yn y nifer sy'n manteisio ar ein darpariaeth Gymraeg dros y 10 mlynedd diwethaf, ond mae angen inni edrych nawr ar ffyrdd arloesol o annog mwy o rieni i edrych ar addysg Gymraeg fel yr opsiwn gorau i'w plant er mwyn dod a mwynhau bod yn ddwyieithog yng Nghymru.

"Er gwaethaf yr amcanestyniadau poblogaeth ar hyn o bryd, mae cynlluniau i ehangu gennym ar waith i gynyddu nifer y lleoedd Cymraeg yn y sector cynradd, a fydd yn hwyluso cynnydd pellach yn nifer y plant oedran derbyn i gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod cyfnod y cynllun hwn, bydd ysgol newydd hefyd yn agor i wasanaethu datblygiad tai Plasdŵr.  Bydd hwn yn fodel newydd o ysgol i Gaerdydd, sy'n deillio o ysgolion llwyddiannus yng Ngwlad y Basg a helpodd i dyfu'r defnydd o'r iaith yno yn sylweddol. Yn yr ysgol dau ddosbarth mynediad hon bydd un dosbarth yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r dosbarth arall yn cale ei sefydlu fel dosbarth dwy iaith (Cymraeg a Saesneg). Y gobaith yw y bydd yr ysgol hon yn gweithredu fel enghraifft o arfer dda a all gefnogi ysgolion eraill i symud ar hyd y continwwm iaith er mwyn cynnig mwy o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg maes o law."

Cymraeg 2050 - Gofynion Llywodraeth Cymru

I gefnogi'r broses gynllunio, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn gofyn i'r CSCAau gael eu trefnu ar sail saith deilliant sy'n adlewyrchu taith addysg dysgwr ac sy'n gyson â meysydd polisi Cymraeg 2050 ac Addysg yng Nghymru: Ein cenhadaeth Genedlaethol.  Dyma'r deilliannau:

Deilliant 1: Mwy o blant meithrin/plant tair oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Deilliant 2: Mwy o blant dosbarth derbyn/plant pump oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o'u haddysg statudol i'r llall

Deilliant 4: Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau asesedig mewn Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol

Deilliant 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn unol â'r dyletswyddau a osodir gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Deilliant 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Datblgiadau yn y ddarpariaeth Gymraeg yng Nghaerdydd ers 2012:

Agorodd Cylch Meithrin Pwll Coch ym mis Medi 2020. 

Ehangodd Ysgol Plasmawr 1DM (30 lle) o fis Medi 2021

Gweithredu newidiadau i ddalgylch ysgolion cynradd o fis Medi 2021 i gefnogi cynaliadwyedd ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd.

Cynyddu maint y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Glantaf i hyd at 30 o ddisgyblion

Datblygu darpariaeth Arbenigol Cymraeg cynradd yn Ysgol Pwll Coch ac Ysgol Pen-y-Groes

Sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd â 2 ddosbarth mynediad, Ysgol Hamadryad yn 2016, cyn iddi symud i adeilad ysgol newydd sbon ar safle newydd yn Butetown fis Ionawr 2019

Adeilad newydd sbon ar gyfer Ysgol Glan Ceubal, yn Ystum Taf, a gwblhawyd yn 2018

Ysgol Glan Morfa, yn y Sblot, wedi'i chodi ar safle newydd gan ddyblu'n ei maint i 2 ddosbarth mynediad yn 2018

Ehangu Ysgol y Wern i 2.5 dosbarth mynediad yn 2015 (ac yna i 3 dosbarth mynediad yn 2016).

Ehangu Ysgol Treganna, i 3 dosbarth mynediad mewn adeiladau newydd sbon, ar safle ysgol newydd yn 2013.

Ehangu Ysgol Melin Gruffydd i 2 ddosbarth mynediad yn 2012

Sefydlu Ysgol Bro Edern, ysgol uwchradd Gymraeg 6 dosbarth mynediad, yn 2012