Back
Gwaith adeiladu ar adeilad newydd Ysgol Uwchradd Fitzalan yn cyrraedd uchelfannau newydd


9/2/2022

Mae cartref newydd sbon Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi cyrraedd carreg filltir arall, wrth i'r gwaith adeiladu gyrraedd y pwynt uchaf yn adeilad newydd yr ysgol yn Lecwydd.

Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, y cynllun gwerth £64 miliwn yw'r diweddaraf yn y ddinas i'w gyflwyno dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

I nodi'r garreg filltir, roedd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas ac Aelod Cabinet Caerdydd dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, ar safle'r ysgol newydd yng nghwmni Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, AoS

Ymhlith y gwesteion eraill oedd Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Fitzalan Debbie Morgan, disgyblion hŷn Ysgol Uwchradd FitzalanEshaan Rajesh a Maya Felani, Llysgenhadon Disgyblion yr Ysgol Newydd Sasha McGonigle a Wasif Mahmood,a Jason Taylor, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Kier, y contractwr a ddewiswyd i adeiladu'r ysgol newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "EinRhaglen Cymunedau Dysgu CynaliadwyBand B, gwerth £284m, yw'r buddsoddiad unigol mwyaf mewn ysgolion y mae Caerdydd erioed wedi'i weld ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae tair ysgol uwchradd newydd o'r radd flaenaf wedi'u darparu.

"Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan ar fin dilyn yr un llwyddiant ac rwy'n falch o gael gweld yn uniongyrchol, y cynnydd a wnaed ar y safle er gwaethaf heriau'r 18 mis diwethaf. 

"Mae ein hymrwymiad i barhau i fuddsoddi mewn ysgolion ac addysg ar draws y ddinas yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gan roi mynediad i bobl ifanc at addysg dda, cyfleusterau modern ac amgylcheddau dysgu o safon fel y gallant ffynnu a gwireddu eu potensial."

Dywedodd Jeremy Miles, AoS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru; "Rwy'n falch iawn y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi'r safle newydd ar gyfer Fitzalan drwy ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Yn ogystal â bod yn enghraifft wych o adeilad ysgol modern ar gyfer ardal ddinesig, bydd hefyd yn croesawu ein hymrwymiad i adeiladu ysgolion sy'n creu cyfleoedd i'r gymuned gyfan.

"Bydd yr Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn darparu amgylchedd gwych i ddysgwyr yn yr ardal hon o Gaerdydd a chyfleusterau hamdden rhagorol i'r gymuned leol hefyd."

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Mawrth 2021 a phan fydd wedi'i gwblhau, bydd y datblygiadyn cynnwysysgol uwchradd tri llawr ar gyfer 1850 o ddisgyblion, pwll nofio cymunedol a phedair Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA). Bydd dau gae 3G ar gael ar gyfer rygbi, pêl-droed a hoci a bydd mannau chwarae caled a meddal yn ogystal â maes parcio i staff ac ymwelwyr ar y safle hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n bleser dod yn ôl i'r safle a gweld y cynnydd gwych sydd wedi'i wneud. Ymwelais â'r ysgol ym mis Mawrth i dorri'r dywarchen a dathlu dechrau'r gwaith adeiladu. Nawr, un mis ar ddeg yn ddiweddarach ac er gwaethaf yr heriau a achoswyd gan y pandemig, mae'r adeilad wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall ac mae'r adeilad wedi cyrraedd ei uchder llawn.

"Gan gynrychioli buddsoddiad o £64m yn yr ardal leol, bydd yr Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd ynysgol â ffocws cymunedol sy'n golygu y bydd pobl leol yn gallu manteisio ar yr amwynderau rhagorol ar garreg eu drws, gan roi hwb sylweddol i'r ardal."

Dywedodd Jason Taylor, Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Kier Construction Cymru a Gorllewin Lloegr: "Mae cyrraedd brig y strwythur ar adeilad newydd Ysgol Uwchradd Fitzalan yn garreg filltir bwysig ac mae'n golygu ein bod gam yn nes at gyflwyno'r ysgol newydd hon ar gyfer y gymuned leol. Gan gydweithio â Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, rydym yn falch o fod yn cyflwyno ysgol newydd a fydd â chyfleusterau o'r radd flaenaf.

"O ddechrau'r prosiect hwn, mae cenhadon o'r ysgol wedi ymweld â'r safle'n rheolaidd i weld y cynnydd rydym yn ei wneud ac adrodd yn ôl i fyfyrwyr eraill, a thrwy ein hyb dysgu CITB ar y safle, gall trigolion lleol ddysgu mwy am y rolau rydym yn recriwtio ar eu cyfer yn ogystal â'r mathau o rolau sydd ar gael yn ein diwydiant. Mae'r hyb yn cefnogi menter Addewid Caerdydd i gynorthwyo pobl ifanc i ddod o hyd i lwybrau gyrfa gan ddarparu hyfforddiant ymarferol a phrofiad gwaith, ac mae'n rhan o'n hymrwymiad gwerth cymdeithasol i adael etifeddiaeth barhaol mewn ardaloedd yr ydym yn gweithio ynddynt."

Bydd yr ysgol newydd ar agor i ddisgyblion o fis Ebrill 2023.