Back
Llwyddiant i Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban gydag ESTYN


20/1/2022

Yn dilyn arolwg gan Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru, mae Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban yn Nhremorfa wedi cael ei thynnu o'r rhestr o ysgolion sydd angen gwelliant sylweddol.

Cyhoeddwyd adroddiad sy'n manylu ar y cynnydd a wnaed gan yr ysgol mewn perthynas ag argymhellion a wnaed yn ystod arolwg Estyn ym mis Mai 2019.

Yn ystod ymweliad diweddar, canfu'r arolygwyr fod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud gan gynnwys sefydlu arweinyddiaeth sefydlog ac effeithiol a darparu prosesau gwerthuso gwell sy'n helpu'r ysgol i ddiwallu anghenion ei dysgwyr.  O ganlyniad i benodi'r Pennaeth yn barhaol ym mis Mawrth 2020, mabwysiadwyd ethos cefnogol lle mae staff a disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u gofalu amdanynt.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffordd y mae ‘rhaglen brifysgol' yr ysgol yn hybu brwdfrydedd ac yn ennyn diddordeb disgyblion gydag amrywiaeth o gyfleoedd fel drama a bocsio ac mae medrau darllen disgyblion wedi cynyddu o ganlyniad i staff yn gweithio'n ddiwyd i wella'r ddarpariaeth. Buddsoddwyd mewn adnoddau darllen newydd a sefydlwyd 'caffi darllen', gan hybu cariad at lyfrau ymhlith disgyblion o bob oed.

Ymgorfforwyd ystod o weithdrefnau defnyddiol i fonitro a gwella presenoldeb disgyblion gan gynnwys gwasanaeth bws mini i gasglu a dod â disgyblion i'r ysgol. I'r disgyblion hynny sydd wedi dangos gwell presenoldeb neu sydd wedi cyflawni presenoldeb llawn, dyfernir tocyn aur, sy'n rhoi cyfle iddyn nhw fwynhau diod boeth gyda'r Pennaeth.

Mae'r adroddiad yn nodi bod y corff llywodraethu hefyd wedi'i gryfhau drwy benodi llywodraethwyr profiadol newydd sydd â rolau a chyfrifoldebau clir. Maent yn ymweld â'r ysgol yn rheolaidd i gymryd rhan mewn gweithgareddau defnyddiol fel darllen gyda disgyblion. 

Canfu Estyn hefyd fod y pryderon diogelu a nodwyd yn ystod yr arolwg craidd wedi cael sylw gan gynnwys rhaglen gynhwysfawr a roddwyd ar waith i sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd rheolaidd i ddysgu sut i gadw'n ddiogel ar-lein.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rwy'n hynod falch o weld bod arolygwyr Estyn wedi cydnabod y gwelliannau sylweddol a wnaed yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban.

"Ers canfod bod angen gwelliant sylweddol ar yr ysgol ym mis Mai 2019, mae'r awdurdod lleol, gyda chymorth y consortiwm, wedi cymryd camau i alluogi'r ysgol i gyflawni safonau gwell.  Mae arweinyddiaeth a llywodraethu wedi'u cryfhau ac mae'r staff wedi cael cyfleoedd dysgu proffesiynol i gynorthwyo gyda datblygiad. 

"Hoffwn longyfarch y Pennaeth, y llywodraethwyr a'r staff am eu gwaith caled a'u hymroddiad sydd wedi arwain at y canlyniad cadarnhaol hwn, gan ddarparu'r sylfeini ar gyfer pennod newydd gyffrous i'r ysgol."

Wrth ystyried y llwyddiant, dywedodd y Pennaeth Rachel Woodward:"Mae cymuned Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban yn falch iawn o'r ail ymweliad llwyddiannus gan Estyn yn ddiweddar. Mae'r gwaith caled a'r ymrwymiad i ddarparu'r addysg orau i'n disgyblion wedi arwain at welliant parhaus a dyheadau uchel i bawb."

Ychwanegodd y Gwir Barchedig Ddr. Sebastian Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr:  "Roedd llwyddiant Arolwg diweddar Estyn o Ysgol Sant Alban i'w groesawu yn wir. Ar yr adeg hon pan fydd pob ysgol yn rheoli'r disgwyliadau newidiol o ganlyniad i Covid, llongyfarchaf gymuned yr Ysgol gyfan am ei gwydnwch, ei huchelgais a'i hysbryd.

Mae Ysgol Sant Alban wedi wynebu sawl her yn ystod y blynyddoedd diwethaf a heddiw mae ei llwyddiannau addysgu a dysgu yn amlwg. Diolch i Arolygwyr Estyn a adnabu ac a ganmolodd Ysgol Sant Alban. Beth bynnag a ddaw yn 2022, rydym yn gwybod ei bod yn flwyddyn dda i Ysgol Sant Alban."