Back
Cam nesaf cynigion Ysgol Uwchradd Cathays

 

8/10/2021

Bydd argymhellion i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays newydd yn cael eu cyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ar ddiwedd y mis.

Mae adroddiad sy'n amlinellu'r cynigion hefyd yn crynhoi canfyddiadau'r ymgynghoriad a ddilynodd yr Hysbysiad Statudol Cyhoeddus a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Mehefin 2021

Pe bai'n cael ei datblygu, byddai'r ysgol newydd yn cael ei chyflwyno fel cynllun blaenoriaeth sy'n ceisio mynd i'r afael â'r ysgolion hynny y nodwyd eu bod mewn cyflwr gwael, gyda diffygion mawr, gyda phroblemau addasrwydd neu y maent yn agosáu at ddiwedd eu hoes weithredol.

Gan gynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol, byddai'r cynllun yn sicrhau cyfleusterau gwell ar y safle, sydd ar gael at ddefnydd y gymuned a rennir.

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Cynyddu capasiti'r ysgol o 1,072 o leoedd (5.5 dosbarth mynediad gyda 247 lle yn y chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 dosbarth mynediad gyda 250 lle yn y chweched dosbarth), o fis Medi 2023
  • Codi adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays ar safle Canolfan Maendy ger Ffordd y Goron a Heol y Gogledd
  • Ehangu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) gyfredol i ddysgwyr sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASA) o 16 lle i 50 lle mewn ystafelloedd pwrpasol yn yr adeiladau ysgol newydd
  • Uwchraddio cyfleusterau cymunedol yn Cathays a Gabalfa drwy sicrhau bod cyfleusterau ysgol llawer gwell ar gael i'w defnyddio ar y cyd â'r gymuned leol ehangach
  • Parhau i gynnig mannau agored oddi ar y ffordd i'r gymuned leol at ddefnydd hamdden anffurfiol

Trwy ehangu'r ysgol, byddai hefyd cyfle i ateb y galw a ragwelir am leoedd yn ei dalgylch ac i ateb y galw gormodol am leoedd o ddalgylchoedd cyfagos eraill, o ganlyniad i ddatblygiadau tai newydd. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r Rhaglen Band B yn ceisio mynd i'r afael â'r problemau mwyaf difrifol o ran digonolrwydd a chyflwr yng Nghaerdydd ac mae Ysgol Uwchradd Cathays wedi'i nodi'n ysgol mae angen buddsoddi ynddi a'i datblygu. Bydd hyn yn galluogi disgyblion, staff a'r gymuned leol i fanteisio ar gyfleusterau modern, gwell ac ysbrydoledig, sy'n addas ar gyfer dysgu'r 21ain Ganrif.

"Mae lleoliad canolog yr ysgol yn y ddinas yn golygu y gall gefnogi twf yn ei hardal yn ogystal ag ardaloedd eraill, gan helpu i ateb y galw a ragwelir am leoedd Saesneg cymunedol yn ogystal ag ateb y galw am leoedd ychwanegol mewn CAA ledled y ddinas i ddysgwyr ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth."

Datblygwyd y cynigion ar gyfer yr ysgol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chyfnod hysbysu statudol. Mae hyn wedi cynnwys llunio map ffin llinell goch dangosol o safle arfaethedig yr ysgol sy'n nodi graddau'r man mynediad agored cymunedol a fyddai ar gael.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Mae ymgynghoriadau cyhoeddus wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu'r cynlluniau hyd yma. Bu cefnogaeth sylweddol i ailddatblygu'r ysgol, ond rwy'n ymwybodol o nifer o bryderon ynghylch yr effaith ar fannau mynediad agored cyhoeddus a'r defnydd o amwynderau hamdden lleol presennol.

"Mae hyn wedi cael ei ystyried a phe bai'r cynlluniau'n cael eu datblygu, byddai ardal fawr fwy o ofod cymunedol yn cael ei chadw a fyddai'n cael ei thirlunio mewn rhannau i greu'r ardal fwyaf priodol a defnyddiadwy bosibl. Byddai hyn yn ychwanegol at y cyfleusterau a fyddai'n cael eu cynnig o fewn ffin yr ysgol a fyddai ar gael i'r gymuned y tu allan i oriau ysgol a hefyd y gallu parhaus i ddefnyddio cyfleusterau Canolfan Maendy."

Yn rhan o gynlluniau Cyngor Caerdydd i greu cyrchfan hamdden a chwaraeon o ansawdd uchel ar y safle ym Mae Caerdydd, mae gwaith yn parhau i greu trac awyr agored newydd yn rhan o'r cam nesaf i ddatblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Bydd adleoli'r trac beicio ym Maendy i'r cyfleuster pwrpasol newydd hwn yn sicrhau y gellir parhau i gefnogi talent leol. Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am hyn yma:Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i gyflymu'r broses o gwblhau datblygiad y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol (newyddioncaerdydd.co.uk)

Bydd yr adroddiad yn mynd i'r Cabinet pan fydd yn cyfarfod nesaf ddydd Iau 14 Hydref 2021.

Bydd adroddiad pellach ar faterion tir yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet.