Back
Rysáit am Oes... Darparu'r Cynhwysion ar gyfer Llwyddiant

27/09/21 

Mae'r cnwd diweddaraf o gogyddion Caerdydd wedi cynnal digwyddiad ddaeth â dŵr i'r dannedd, penllanw rhaglen newydd gan y Cyngor, 'Rysáitam Oes... Darparu'r Cynhwysion ar gyfer Llwyddiant'.

A group of people posing for a photo in front of a buildingDescription automatically generated

Crëwyd Rysáit am Oes gan ein Tîm Gwasanaeth Ieuenctid Ôl-16, mewn partneriaeth â Thîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned y Cyngor, y Gwasanaeth i Mewn i Waith, Tîm Digidol y Gwasanaeth Ieuenctid a Chaffi Cymunedol Morgan's Table yn Llanrhymni.

Ym mis Ebrill, dechreuodd wyth o bobl ifanc Caerdydd raglen gynhwysfawr, 12 wythnos, a gynlluniwyd i roi blas iddynt o weithio yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo, gyda phinsiad o ddatblygiad personol wedi ei ychwanegu.

A couple of girls cooking in a kitchenDescription automatically generated with low confidence

Mae'r prosiect wedi'i anelu at bobl ifanc 16 i 25 oed Caerdydd, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.  Mae'n cynnwys sesiynau theori rhyngweithiol, wedi eu cyflwyno gan ein Mentoriaid Ieuenctid Ôl-16 a Dysgu Oedolion yn y Gymuned, a gweithdai ymarferol gan Morgan's Table.

Dywedodd Caroline Miles, Uwch Swyddog Ieuenctid mewn Atal ac Ymyrryd yn Gynnar (Ôl-16): "Y digwyddiad hwn oedd penllanw gwaith caled y grwpiau dros y 12 wythnos flaenorol, ac roedd yn gyfle gwych i roi eu sgiliau newydd ar waith. Gwnaethon nhw'r cyfan eu hunain; cynllunio, coginio a gweini pryd tri chwrs o'r radd flaenaf i westeion a wahoddwyd yn arbennig, a daeth y noson i ben gyda chyflwyno'r tystysgrifau Rysáitam Oes i'r bobl ifanc cwbl haeddiannol hyn."

"Ein nod nawr yw sicrhau eu bod i gyd yn ffynnu yn y diwydiant lletygarwch, ac rydym wedi creu cysylltiadau gwych â gwestai ledled Caerdydd, i'n helpu i ddod o hyd i le iddynt wrth y bwrdd, drwy brentisiaethau a chyfleoedd gyrfa."