Back
Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i gyflymu’r broses o gwblhau datblygiad y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

17.09.2021

 

Mae mwy o wybodaeth am y gwaith o ddatblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol (PChRh) wedi'i datgelu.

 

Ystyrir mwy o fanylion am gynlluniau Cyngor Caerdydd i greu cyrchfan hamdden a chwaraeon o ansawdd uchel ar y safle ym Mae Caerdydd mewn adroddiad diweddaru i Gabinet yr awdurdod lleol.

 

Mae'r adroddiad, fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Iau 23 Medi, yn gofyn am awdurdod i gaffael gweddill y Pentref Chwaraeon o Bartneriaethau Greenbank a bwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni'r uwchgynllun ehangach.

 

 

 

Bydd yr adroddiad yn gofyn am awdurdod gan y Cabinet i:

 

  • Brynu tua 10 erw o dir Greenbank yn natblygiad y PChRh ac Arena Iâ Cymru i atgyfnerthu perchnogaeth y Cyngor ar y safle,
  • Cyflwyno nifer o leiniau tai llai ar y farchnad i gyflymu'r broses o gwblhau'r prosiect,
  • Prynu'r Arena Iâ'n rhan o'r cytundeb gyda Greenbank i helpu'r Cyngor i gyflawni eu cynllun i sefydlu cyrchfan hamdden a chwaraeon yn y PChRh gyda'r holl gyfleusterau dan reolaeth y Cyngor. Mae'r cyfleuster hwn yn cael ei weithredu gan Cardiff Devils ar hyn o bryd a bydd hyn yn parhau hyd y gellir rhagweld.

Mae'r adroddiad yn nodi bod yr achos busnes dros y Felodrom newydd yn cael ei ddatblygu ac y caiff ei adrodd yn ôl i'r Cabinet ym mis Rhagfyr.

 

Mae cynlluniau busnes ychwanegol hefyd yn cael eu datblygu i adleoli cyfleuster MX (motorcross) Caerdydd i'r PChRh ac ar gyfer y Cylched Beicio Ffordd Caeedig newydd arfaethedig - gyda'r ddau'n cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet rhywbryd yn y dyfodol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:"Mae'r Cyngor yn parhau'n ymrwymedig i gwblhau'r gwaith o ddatblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ac i greu cyrchfan hamdden a chwaraeon o ansawdd uchel ar y safle.

"Mae'r gyrchfan hamdden yn parhau'n flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor ac wedi'i chynnwys fel amcan yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor. Dros y blynyddoedd, mae'r Cyngor wedi buddsoddi mewn nifer o gyfleusterau o'r radd flaenaf fel y Pwll Rhyngwladol a'r Ganolfan Rafftio Dŵr Gwyn Ryngwladol a FlowRider.

"Os cytunir ar yr argymhellion yn yr adroddiad hwn, bydd y Cyngor yn gallu symud ymlaen gyda Cham 2 y gwaith datblygu, gan ddod â'r cyfleusterau ar y safle at ei gilydd fel un atyniad a datblygu cynlluniau i greu cyfleusterau ychwanegol yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol."