Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 06/09/21

 

03/09/21 - Gwaith Ffordd Gyda'r Hwyr yn dechrau ar Stryd y Castell dydd Sul

Bydd gwaith ffordd yn dechrau ar Stryd y Castell nos Sul - 5 Medi - gyda'r nod o ailagor y ffordd i draffig cyffredinol erbyn diwedd mis Hydref.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27420.html

 

02/09/21 - Bydd trigolion Caerdydd yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd misol o 7 Medi ymlaen

Bydd trigolion Caerdydd yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd misol o 7 Medi ymlaen. Rydym yn cynghori trigolion i edrych ar wefan y cyngor -www.caerdydd.gov.uk/gwastraffgardd-neu app Cardiff Gov, i gael gwybod pryd y bydd eu gwastraff gardd yn cael ei gasglu ym mhob ardal y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27415.html

 

02/09/21 - #DyfodolCadarnhaolCDYDD - Mae Caredigrwydd yn Bwysig: Ysgol Uwchradd Willows yn Helpu Eraill yn y Gymuned

Dros y 18 mis diwethaf rydym wedi dysgu bod caredigrwydd yn bwysig. Yn sicr, roedd ein disgyblion yn Ysgol Uwchradd Willows yn rhoi hyn ar waith yn yr ystafell ddosbarth fel rhan o brosiect ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27412.html