Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 27 Awst

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: Amgueddfa Caerdydd i ailagor; tanio fflyd gyntaf erioed o e-feiciau yng Nghaerdydd; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Amgueddfa Caerdydd i ailagor

Mae Amgueddfa Caerdydd yn ailagor, bron i 18 mis ar ôl iddi gau ei drysau ar ddechrau pandemig Covid-19.

O ddydd Mercher 1 Medi, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau'r arddangosfa Caerdydd Mewn Cyd-destun yn oriel y llawr daear. Bydd Labordy'r Ddinas (oriel yr islawr) a'r Coridor Teils yn parhau ar gau am y tro.

Bydd mynediad i'r amgueddfa yn parhau am ddim, ond bydd nifer yr ymwelwyr yn cael ei chyfyngu i alluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol. Os bydd y capasiti'n cael ei gyrraedd, bydd system giwio ar waith.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'n bosib, ar ryw bwynt yn y dyfodol, y bydd Amgueddfa Caerdydd yn adrodd hanes y 18 mis diwethaf, ond am y tro rydym yn falch o groesawu ymwelwyr yn ôl a dechrau dod â hanes diddorol Caerdydd yn fyw unwaith eto drwy straeon pobl a chymunedau ein dinas."

Gall teuluoedd sy'n ymweld â'r amgueddfa fwynhau gweithgareddau hwyl ychwanegol, gan gynnwys llwybrau Cymeriadau Caerdydd sydd am ddim. Gallwch gasglu'r rhain wrth gyrraedd. Bydd pecynnau Dysgu fel Teulu Fy Amgueddfa hefyd ar gael i'w cadw, neu gellir eu lawrlwytho o wefan yr amgueddfa.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27363.html

 

Tanio fflyd gyntaf erioed o e-feiciau yng Nghaerdydd

Cafodd hanner cant o feiciau trydan eu cyflwyno i strydoedd Caerdydd yr wythnos hon wrth i gynllun Beiciau OVO y ddinas, sy'n cael ei weithredu gan nextbike, ddod yn fwy hygyrch nag erioed. 

Lansiwyd y fflyd o 50 o e-feiciau OVO a chwe gorsaf drydan heddiw (26 Awst), wrth i'r cyhoedd weld y Beiciau OVO ar waith am y tro cyntaf yn y ddinas.  Bydd 75 o e-feiciau a naw gorsaf arall yn cael eu cyflwyno'n ddiweddarach, gan greu fflyd o 125 o e-feiciau.

Mae'r lansiad yn golygu y bydd beicwyr yn gallu defnyddio e-feic OVO i feicio rhwng Caerdydd a Bro Morgannwg, gan fod y cynlluniau wedi'u cysylltu am y tro cyntaf - sydd wedi bod yn uchelgais ers tro ar gyfer nextbike, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg.

Lansiwyd fflyd o 50 o e-feiciau ym Mhenarth y llynedd, ac mae wedi bod yn hynod boblogaidd gyda'r cyhoedd.

Mae e-feic yn gyfuniad o feic confensiynol a modur sy'n golygu bod angen ymdrechu llai i bedlo.  Gyda chyflymder uchaf o 25km yr awr, gall yr e-feiciau deithio'n bellach ynghynt a gyda llai o ymdrech. 

Roedd yr e-feiciau OVO, a fydd yn ymuno â fflyd bresennol Caerdydd o 1,000 o feiciau OVO arferol, yn bosibl diolch i gyllid gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Cafodd y cyflenwr pŵer gwyrdd OVO Energy ei gyhoeddi fel noddwr teitl newydd cynllun beicio'r ddinas yn gynharach y mis hwn (Awst) yn ogystal â'r cynllun yn Glasgow.

Mae dinasyddion Caerdydd wedi gwneud mwy nag 1.1 miliwn o siwrneiau ar feiciau rhent ers i nextbike gael ei lansio yn y ddinas yn 2018, gan feicio pellter anhygoel o 3.7 miliwn km o amgylch y ddinas - sy'n cyfateb i feicio i'r lleuad ac yn ôl bron i 5 gwaith.

Bydd rhentu e-feic yn costio £1 am 30 munud i gwsmeriaid sydd ag aelodaeth fisol neu flynyddol neu £2 am 30 munud ar sail talu wrth ddefnyddio.  Rhaid dychwelyd e-feiciau i orsafoedd e-feiciau neu bydd dirwyon ychwanegol yn cael eu rhoi.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rwy'n falch iawn o weld OVO Energy yn ymuno fel partner allweddol, a nextbike yn ychwanegu e-feiciau at y fflyd. Mae hyn yn gadarnhad pellach bod Caerdydd yn ddinas feicio, a'r awydd mawr sydd ymhlith trigolion, cymudwyr ac ymwelwyr i deithio ar feic yn y brifddinas.

"Fel Cyngor, rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o roi'r seilwaith cywir yn ei le i alluogi'r rhai sy'n teithio ar feic i wneud hynny'n ddiogel, yn gyfforddus ac yn hyderus, ac i annog hyd yn oed mwy o bobl i fynd i feicio.  Mae ein strategaeth drafnidiaeth 10 mlynedd yn cynnwys cynlluniau'r Cyngor i adeiladu pum prif feicffordd ar draws y ddinas, wedi'u cysylltu â dolen yng nghanol y ddinas o lwybrau beicio o ansawdd uchel, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n wych.

"Drwy wella'r cyfleoedd beicio, yn ogystal â'r cyfleoedd cerdded a thrafnidiaeth gyhoeddus i bawb, gallwn annog mwy a mwy o bobl i adael eu ceir gartref, lleihau tagfeydd, glanhau'r aer rydym yn ei anadlu a'n helpu ni i gyd i fod ychydig yn iachach.

"Mae partneriaeth OVO Energy, buddsoddiad parhaus nextbike yn ei fflyd, a gwaith parhaus Cyngor Caerdydd i adeiladu'r seilwaith beicio sydd ei angen, i gyd yn dangos bod Caerdydd wir yn cyflawni o ran creu'r ddinas trafnidiaeth gynaliadwy sydd mor fawr ei hangen arnon ni a chenedlaethau'r dyfodol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27366.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (16 Awst - 22 Awst)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

26 Awst 2021, 09:00

 

Achosion: 977

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 266.3 (Cymru: 343.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 6,721

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,831.8

Cyfran bositif: 14.5% (Cymru: 17.9% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 27 Awst

️ Bydd Canolfannau Brechu Torfol Caerdydd a chlinigau galw heibio ar gau o ddydd Sadwrn 28 Awst i ddydd Llun 30 Awst ar gyfer penwythnos gŵyl y banc.

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  703,059 (Dos 1: 367,717 Dos 2:  335,342)

 

  • 80 a throsodd: 20,637 / 94.6% (Dos 1) 20,282 / 93% (Dos 2)
  • 75-79: 15,074 / 96.3% (Dos 1) 14,869 / 95% (Dos 2)
  • 70-74: 21,456 / 95.7% (Dos 1) 21,312 / 95% (Dos 2)
  • 65-69: 21,960 / 94.2% (Dos 1) 21,666 / 92.9% (Dos 2)
  • 60-64: 26,021 / 92.3% (Dos 1) 25,650 / 91% (Dos 2)
  • 55-59: 29,341 / 90.2% (Dos 1) 28,764 / 88.4% (Dos 2)
  • 50-54: 28,996 / 87.8% (Dos 1) 28,242 / 85.5% (Dos 2)
  • 40-49: 55,161 / 81.4% (Dos 1) 52,824 / 78% (Dos 2)
  • 30-39: 60,050 / 74.9% (Dos 1) 54,145 / 68.8% (Dos 2)
  • 18-29: 78,708 / 75.9% (Dos 1) 67,537 / 65.1% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,876 / 98.5% (Dos 1) 1,852 / 97.3% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,305 / 93.3% (Dos 1) 11,064 / 91.3% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,186 / 89.8% (Dos 1) 44,357 / 86.3% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser