Back
Amgueddfa Caerdydd i ailagor
Mae Amgueddfa Caerdydd yn ailagor, bron i 18 mis ar ôl iddi gau ei drysau ar ddechrau pandemig Covid-19.

O ddydd Mercher 1 Medi, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau'r arddangosfa Caerdydd Mewn Cyd-destun yn oriel y llawr daear. Bydd Labordy'r Ddinas (oriel yr islawr) a'r Coridor Teils yn parhau ar gau am y tro.

Bydd mynediad i'r amgueddfa yn parhau am ddim, ond bydd nifer yr ymwelwyr yn cael ei chyfyngu i alluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol. Os bydd y capasiti’n cael ei gyrraedd, bydd system giwio ar waith.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae’n bosib, ar ryw bwynt yn y dyfodol, y bydd Amgueddfa Caerdydd yn adrodd hanes y 18 mis diwethaf, ond am y tro rydym yn falch o groesawu ymwelwyr yn ôl a dechrau dod â hanes diddorol Caerdydd yn fyw unwaith eto drwy straeon pobl a chymunedau ein dinas."

Gall teuluoedd sy’n ymweld â’r amgueddfa fwynhau gweithgareddau hwyl ychwanegol, gan gynnwys llwybrau Cymeriadau Caerdydd sydd am ddim. Gallwch gasglu’r rhain wrth gyrraedd. Bydd pecynnau Dysgu fel Teulu Fy Amgueddfa hefyd ar gael i’w cadw, neu gellir eu lawrlwytho o wefan yr amgueddfa.

Mae nifer o fesurau diogelwch eraill ar waith yn yr Amgueddfa i helpu pobl i ddychwelyd i'r amgueddfa'n ddiogel, gan gynnwys:

  • Gofynnir i ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb, defnyddio'r hylif diheintio dwylo a chadw pellter cymdeithasol.
  • Bydd system unffordd ar waith.
  • Bydd ysgrifbinnau ar gael i'w defnyddio ar sgriniau cyffwrdd ac arddangosfeydd rhyngweithiol. Gellir casglu’r rhain ar ddechrau eich ymweliad a'u dychwelyd i fin diogel cyn i chi adael. Bydd y pennau’n cael eu diheintio cyn iddynt gael eu defnyddio gan yr ymwelwyr nesaf.
  • Gwybodaeth y gellir ei lawrlwytho am y gwrthrychau sy'n cael eu harddangos – yn syml, pwyntiwch eich camera ffôn clyfar at y codau QR (neu rhowch wybod i aelod o'r tîm os oes angen copi papur arnoch).
  • Mae llawer o'r seddi yn yr oriel wedi'u symud. Os oes angen i chi eistedd, rhowch wybod i aelod o'r tîm.

Bydd yr amgueddfa ar agor o Ddydd Mercher i Ddydd Sadwrn, 10am – 4pm.

Ar gyfer ymwelwyr nad ydynt eto'n barod i ddychwelyd, mae'r amgueddfa wedi datblygu llawer o weithgareddau ar-lein, gan gynnwys arddangosfeydd, gweithgareddau plant a gwefan casgliadau newydd, ewch i: www.amgueddfacaerdydd.com