Back
Y Cynghorydd Caro Wild yn croesawu partner nextbike ac e-feiciau newydd

26/08/21

 

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Rwy'n falch iawn o weld OVO Energy yn ymuno fel partner allweddol, a nextbike yn ychwanegu e-feiciau at y fflyd. Mae hyn yn gadarnhad pellach bod Caerdydd yn ddinas feicio, a'r awydd mawr sydd ymhlith trigolion, cymudwyr ac ymwelwyr i deithio ar feic yn y brifddinas.

"Fel Cyngor, rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o roi'r seilwaith cywir yn ei le i alluogi'r rhai sy'n teithio ar feic i wneud hynny'n ddiogel, yn gyfforddus ac yn hyderus, ac i annog hyd yn oed mwy o bobl i feicio.  Mae ein strategaeth drafnidiaeth 10 mlynedd yn cynnwys cynlluniau'r Cyngor i adeiladu pum prif feicffordd ar draws y ddinas, wedi'u cysylltu â dolen yng nghanol y ddinas o lwybrau beicio o ansawdd uchel, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n wych.

"Drwy wella beicio, yn ogystal â dewisiadau cerdded a thrafnidiaeth gyhoeddus i bawb, gallwn annog mwy a mwy o bobl i adael eu ceir gartref, lleihau tagfeydd, glanhau'r aer rydym yn ei anadlu a'n helpu ni i gyd i fod ychydig yn iachach.

"Mae partneriaeth OVO Energy, buddsoddiad parhaus Nextbike yn ei fflyd, a gwaith parhaus Cyngor Caerdydd i adeiladu'r seilwaith beicio sydd ei angen, i gyd yn dangos bod Caerdydd wir yn cyflawni o ran creu'r ddinas trafnidiaeth gynaliadwy sydd mor fawr ei hangen arnon ni a chenedlaethau'r dyfodol."