Back
Neuadd Dewi Sant ar fin codi'r llen ar ôl 18 mis

24/08/21

Bydd Neuadd Dewi Sant yn croesawu cynulleidfaoedd yn ôl Ddydd Mawrth 31 Awst gyda'i sioe fyw gyntaf mewn 18 mis.

Cafodd y lleoliad ei gau i'r cyhoedd ym mis Mawrth 2020 yn dilyn cyngor gan Lywodraeth San Steffan oherwydd mesurau diogelwch Covid-19. 

Fodd bynnag, ar ôl i Gymru symud i Lefel Rhybudd Sero, mae'r Neuadd yn ôl gyda bang - gan ailagor gyda'r sioe fyw gyntaf yng Nghymru sydd â chynulleidfa lawn dan do.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury "Rydym wrth ein bodd y bydd y sioe fyw gyntaf yng Nghymru, sydd â chynulleidfa lawn dan do, yn Neuadd Dewi Sant, ac yn enwedig gydag enw mor uchel ei broffil â Jimmy Carr.

"Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi colli adloniant byw gymaint ac wedi dod i sylweddoli faint o ran hanfodol y mae'n ei chwarae yn ein bywydau cymdeithasol. Hoffwn estyn croeso nôl cynnes i'n noddwyr ffyddlon wrth fwynhau dychweliad diogel i Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, a diolch enfawr am eich cefnogaeth amhrisiadwy."

I gael rhagor o wybodaeth am Neuadd Dewi Sant ac i archebu tocynnau ar gyfer sioeau sydd ar y gweill, ewch i:

www.NeuaddDewiSantCaerdydd.co.uk/