Back
HQ Theatres yw gweithredwr newydd y Theatr Newydd
HQ Theatres (HQ) – rhan o fusnes adloniant byw rhyngwladol premiwm Trafalgar Entertainment  – yw gweithredwr swyddogol newydd Theatr Newydd Caerdydd, ar ôl diwedd llwyddiannus proses ymgeisio gystadleuol a gynhaliwyd gan Gyngor Caerdydd.  Bydd HQ yn arwyddo’r brydles ar gyfer yr adeilad ddydd Llun 16 Awst ac mae'n bwriadu ailagor yn llawn ddydd Sul 19 Medi. 

Y theatr Edwardaidd 115 mlwydd oed, gyda lle i 1,144 o bobl, yw'r 12fed lleoliad i'w redeg gan HQ Theatres. Nhw yw’r cwmni arbenigol mwyaf yn y DU sy’n rhedeg theatrau rhanbarthol.  Bydd y trefniadau prydlesu am y cyfnod y bydd HQ yn rhedeg y theatr yn y brifddinas yn para am 25 mlynedd a bydd staff presennol y Theatr Newydd yn trosglwyddo i gyflogaeth HQ.

O dan gynlluniau'r cwmni bydd rhaglenni yn parhau i gael eu datblygu ar gyfer y Theatr Newydd a bydd buddsoddiad sylweddol gyda’r nod o wella ardaloedd blaen y tŷ ac i ddiogelu a gwella adeiledd y theatr.  Mae gan y cwmni gynlluniau hefyd i sefydlu swyddogaeth Gymunedol ac Addysgol bwrpasol i wreiddio'r lleoliad ymhellach yn y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu – ac mae ganddo uchelgais i weithio gyda sefydliadau diwylliannol, celfyddydol ac adloniant yn y ddinas i ddatblygu dull o raglennu ar draws y ddinas. 

Bydd y Theatr Newydd hefyd yn cael ei defnyddio i lansio sioeau newydd, a gyflwynir drwy gysylltiadau HQ â chynhyrchwyr mwyaf blaenllaw'r DU.

Mae'r cytundeb rhwng HQ Theatres a Chyngor Caerdydd yn dangos pa mor gryf yw hyder buddsoddwyr yn y sector diwylliannol wrth iddo wella o effeithiau economaidd ysgubol y pandemig a gaeodd y rhan fwyaf o leoliadau am dros flwyddyn.  Enillodd HQ y cais am y Theatr Newydd yn 2019, ond fe gafodd y cynlluniau gweithredu eu gohirio yn ystod y pandemig.

Bydd y Theatr Newydd yn ailagor ei drysau ar 19 Medi gyda pherfformiad gan Simon Amstell, ac yna bydd digwyddiad carped coch ysblennydd a pherfformiad o'r sioe gerdd hynod boblogaidd ledled y byd, Priscilla Queen of the Desert o 20 Medi.

Ym mis Mawrth 2021, prynwyd HQ Theatres gan Syr Howard Panter a grŵp Trafalgar Entertainment (TE) y Fonesig Rosemary Squire – buddsoddwr blaenllaw pwysig mewn theatrau yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn dilyn buddsoddiad mawr gwerth miliynau o bunnoedd, ailagorodd TE Theatr Trafalgar Llundain gyda’r Jersey Boys ym mis Gorffennaf a dadorchuddiodd ei ganolfan sinema bwtîc gyntaf yn Chiswick, Llundain. Mae'r cwmni hefyd ar fin agor yTheatr Frenhinol â 1,200 sedd yn Sydney ac yn ddiweddar cyhoeddodd gynlluniau i agor adeilad arloesol Theatr Olympia, y theatr barhaol newydd fwyaf i agor yn Llundain ers y 1970au.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r Theatr Newydd wedi diddanu cynulleidfaoedd mas draw ers 115 o flynyddoedd gan greu llawer o atgofion gwych i genedlaethau o theatr-garwyr Caerdydd. Felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dod i gytundeb sy'n diogelu swyddi a dyfodol y theatr, gan sicrhau y bydd llawer mwy o genedlaethau'n cael eu diddanu am lawer mwy o flynyddoedd i ddod.

"HQ Theatres yw un o’r prif gwmnïau sy’n rhedeg theatrau yn y DU ac mae eisoes wedi chwarae rhan fawr yn llwyddiant y Theatr Newydd, gan gynhyrchu pantomeim mwyaf Cymru yno am yr 20 mlynedd diwethaf drwy Qdos Entertainment. Maent yn deall cynulleidfaoedd Caerdydd ac rydym yn hyderus y bydd y Theatr Newydd yn ffynnu oherwydd eu 
gwybodaeth a’u harbenigedd.

"Rwyf i fy hun yn edrych ymlaen at weld y llen yn codi ar yr oes newydd hon yn y Theatr Newydd ac, nawr bod cyfyngiadau'r cyfnod clo yn cael eu llacio, rydym yn aros yn eiddgar i weld y Theatr Newydd yn ailagor ym mis Medi ac rydym yn dymuno pob llwyddiant i'r gweithredwyr newydd." 

Dywedodd Julian Russell, Prif Weithredwr HQ Theatres: "Rydym wrth ein boddau ein bod yn cydio yn awenau’r Theatr Newydd.  Mae'r adeilad hwn yn drysor i Gaerdydd ac yn lleoliad y gall Cymru gyfan fod yn falch ohono.   Ein nod yw adeiladu ar y sylfeini cadarn yn y theatr, dod â sioeau newydd cyffrous i'r ddinas, datblygu cynulleidfaoedd a sbarduno gwelliannau ym mhrofiad y cwsmer – wrth barchu'r hanes cyfoethog a'r enw da sydd gan y lleoliad.

"Dwi am dalu teyrnged i'r tîm cyfan yn y Theatr Newydd am eu hymroddiad, eu hymrwymiad a'u gwydnwch dros yr 16 mis diwethaf – ac rydym yn wirioneddol yn llawn cyffro i fod yn cychwyn ar y daith hon gyda nhw wrth i ni weithio i agor y drysau eto."

Dywedodd Y Fonesig Rosemary Squire, Cyd-Sylfaenydd a Chyd-Brif Swyddog Gweithredol Trafalgar Entertainment: "Mae’n bleser mawr i ni groesawu Theatr Newydd Caerdydd i bortffolio lleoliadau HQ Theatres ac i deulu brandiau ehangach Trafalgar Entertainment. Mae gan y tîm yn HQ enw rhagorol ledled y DU fel arbenigwyr a rheolwyr theatrau ac rwy’n llongyfarch Julian a'i dîm rheoli ar gwblhau'r cytundeb.

"Bydd HQ Theatres nawr yn darparu rhaglen ffyniannus o gynyrchiadau a digwyddiadau o'r radd flaenaf gyda buddsoddiad cyfalaf sylweddol a pharhaus, ymgysylltu’n fwy â'r gymuned ac arbenigedd gwirioneddol mewn gweithrediadau a marchnata. Mae'n gyfnod newydd gwych i'r lleoliad eiconig hwn yng Nghymru.

"Fel y rhiant-gwmni, mae Trafalgar Entertainment yn benderfynol o helpu i ddod ag adloniant byw yn ôl ledled y DU ac rydym i gyd wedi gweld yn ystod yr wythnosau diwethaf pa mor frwd roedd cynulleidfaoedd am ddychwelyd i'r hud unigryw sydd mewn theatr fyw, gyda pherfformiadau wedi'u gwerthu’n llwyr ar draws ein lleoliadau eraill. Edrychwn ymlaen yn awr at groesawu cynulleidfaoedd yn ôl i'r Theatr Newydd pan fyddwn yn ailagor y drysau ym mis Medi."