Back
Beth sydd ar y fwydlen heno, Gaerdydd? Dosbarthu 20,000 o Brydau Teulu fel rhan o Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol

5/8/2021

Bydd cynllun i annog teuluoedd i baratoi, coginio a bwyta prydau gyda'i gilydd yn gweld mwy nag 20,000 o brydau bwyd yn cael eu darparu yn ystod gwyliau'r haf eleni.

Bydd mwy na 5,000 o fagiau bwyd i deuluoedd, sy'n cynnwys cynhwysion a ryseitiau cam wrth gam wedi'u datblygu gan ddeietegwyr o Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, yn cael eu dosbarthu i deuluoedd ledled y ddinas.

Gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru mae Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (RhCGY) arobryn Caerdydd yn rhoi cyfleoedd i blant gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a dysgu sgiliau newydd gyda chymorth amrywiaeth o bartneriaid ledled y ddinas, gan helpu i leddfu'r baich ariannol ar deuluoedd yn ystod gwyliau'r haf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae llu o fanteision i fwyta prydau cartref gyda'n gilydd fel teulu, a cyn y pandemig byddai'r teuluoedd hynny â phlant sy'n mynd i sesiynau RhCGY yn cael eu gwahodd i'r ysgol i fwyta cinio gyda'i gilydd.

"Mae'r cynllun bagiau bwyd i deuluoedd wedi'i ddatblygu fel ffordd amgen o hyrwyddo amser bwyd i'r teulu a helpu plant i ddeall mwy am fwyd, coginio a maeth.

"Eleni, mae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi'i wneud yn bosib ymestyn y rhaglen i gynnwys cymunedau y tu hwnt i'r ardaloedd a dargedir ac a ariennir yn draddodiadol gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn caniatáu i dimau RhCGY a phartneriaid ymroddedig Caerdydd, helpu i sicrhau bod cynifer o blant â phosibl yn gallu manteisio ar y ddarpariaeth.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Fu erioed mwy o angen am gynlluniau cyfoethogi gwyliau'r ysgol, gyda mwy o deuluoedd nag erioed yn teimlo effeithiau'r pandemig, yn gymdeithasol ac yn ariannol.

Mae'r cynllunBwyd a Hwylwedi cael ei ehangu i 29 o ysgolion erbyn hyn, gan helpu i sicrhau y gall plant fanteisio ar raglen gyffrous o chwaraeon a darpariaeth addysgol, ochr yn ochr â phrydau maethlon iach.

Yn ystod ymweliad â sesiwn RhCGY yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn ddiweddar, dywedodd Mark Drakeford, Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd: "Roedd yn wych ymweld ag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd ar gyfer Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol eleni i weld y gwaith gwych sy'n cael ei wneud yno ac i glywed am lwyddiant y rhaglen eleni ledled Caerdydd.

"Bob blwyddyn, mae RhCGY yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i fywydau pobl ifanc ac i'n cymunedau yn ehangach drwy gynnig bwyd iach, gweithgareddau corfforol, dysgu a hwyl."

Mae'r cynllun bagiau bwyd i deuluoedd wedi derbyn cefnogaeth gan Castell Howell, a helpodd i ddod o hyd i gynhwysion, a Dragon Signs a roddodd fagiau y gellir eu hail-ddefnyddio.

Cafodd y cynllunBwyd a Hwylei ddatblygu gan dîm RhCGY Caerdydd yn 2015 ac fe'i mabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno i weddill Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddilynol. Mae wedi cael ei ddefnyddio fel enghraifft o Arfer Gorau ac mae wedi arwain at gydnabod mai Cymru sydd â'r ddarpariaeth gwyliau fwyaf datblygedig yn y DU.