Back
#DyfodolCadarnhaolCdydd - Arwyr Sbwriel Coed Glas


02.08.2021

 

 

Wrth i gyfyngiadau'r cyfnod cloi leihau a'r tymheredd godi, mae llawer ohonom yn heidio i barciau a mannau awyr agored Caerdydd i fwynhau'r haul a threulio amser yn yr awyr agored gydag anwyliaid.

 

Fodd bynnag, mae delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dangos rhai trigolion ac ymwelwyr yn gadael pentyrrau o sbwriel ar eu holau wedi treulio diwrnod yn yr haul.

 

Wedi'u siomi'n fawr gan y lluniau, penderfynodd dau o'n disgyblion cynradd fynd i'r afael â'r broblem hon eu hunain.

 

Dyluniodd disgyblion Blwyddyn 5 Ysgol Gynradd Coed Glas, Kevin Feng ac Oliver Paget, yn 10 oed ill dau, boster sy'n annog pobl i roi'r gorau i lygru eu hamgylchedd lleol ac yn hytrach i ofalu am y lle y maent yn byw ynddo.

 

Dwedodd Kevin, "Ein prif amcan oedd sicrhau bod pobl yn gofalu am y Bae. Roedd y lluniau wedi fy siomi'n arw gan fod cymaint o bobl wedi gadael eu sbwriel ar lawr." 

 

Mae Oliver yn cytuno, "Roedden ni'n meddwl am wneud y poster hwn oherwydd os nad yw pobl yn parchu'r Bae mae'n risg i bobl ac anifeiliaid."

 

Dwedodd Charlotte Ross,Cydlynydd Datblygu Cymunedol ar gyfer Carwch Eich Cartref, "Roeddwn wrth fy modd yn gweld poster Kevin ac Oliver. Mae eu neges 'Cael hwyl ond cofio glanhau ar eich ôl' yn llygad ei le. 

 

Mae gan Gaerdydd fannau awyr agored mor wych i'w mwynhau, ond mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cofio gofalu amdanynt hefyd. Os gallwn ni i gyd fod ychydig mwy fel Kevin ac Oliver, byddwn yn mynd i'r cyfeiriad cywir."

 

Mae ein tîm Carwch Eich Cartref wedi rhoi poteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio i Kevin ac Oliver, bathodyn arwr sbwriel, ysgrifbin a chrys-t â thema ailgylchu iddynt, i gyd mewn bag y gellir ei ail-ddefnyddio ynghyd â nodyn diolch gan Charlotte.

 

gGall pobl ifanc hefyd gael gafael ar ystod o gymorth a chyngor o gymwysterau i iechyd meddwl, drwy ymweld ag un o'r gwefannau canlynol:

 

👉  https://hwb.gov.wales/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/gwasanaethau-cymorth/cymorth-cyfrinachol 

👉  https://www.cbac.co.uk/home/cefnogi-athrawon-a-dysgwyr-coronafeirws/eich-lles/   

👉 https://www.mind.org.uk/cy/gwybodaeth-ar-gyfer-pobl-ifanc/

👉 http://www.cardiffyouthservices.wales/cy/

👉  www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf

Rydym yn rhannu straeon ein plant a'n pobl ifanc bob wythnos ar Ystafell Newyddion Caerdydd a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol - chwiliwch#DyfodolCadarnhaolCDYDD #CDYDDsynDdaiBlant

 

Gobeithiwn y bydd y straeon hyn yn ddefnyddiol ac yn eich ysbrydoli chi.