Back
Adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith a wnaed i gynorthwyo Caerdydd yn ystod COVID

 

28/7/2021

 

Mae dosbarthu mwy na 40 miliwn o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) ledled Caerdydd, dosbarthu 2,295 o becynnau bwyd i bobl yn cysgodi rhag COVID-19 yn y ddinas, yn ddim ond ychydig o ffigyrau anhygoel Gwasanaethau Cymdeithasol a ddatgelwyd mewn adroddiad i Gyngor Caerdydd.

Mae'r gwaith a gyflawnwyd gan y Gwasanaethau  Cymdeithasol i Oedolion a Phlant yn ystod y pandemig yn cael sylw yn Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol ar gyfer 2020/21.
Mae canfyddiadau'r adroddiad yn dangos bod:

  • 40.5 miliwn o eitemau o GDP wedi'u dosbarthu ledled y ddinas i 159 o ddarparwyr gofal ac 162 o ysgolion;
  • 2,295 o becynnau bwyd wedi'u dosbarthu'n uniongyrchol i'r rhai oedd yn cysgodi neu oedd angen cymorth ychwanegol y tu allan i'r trefniadau cenedlaethol; a bod
  • 146 o staff wedi'u hail-bwrpasu i ddarparugofal cymdeithasol ar y rheng flaen, a 1200 o wirfoddolwyr wedi dod ynghyd i ‘gydweithio dros Gaerdydd' ar anterth y pandemig.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y cynnydd y galw a wynebwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys:

  • cofnodi 37,503 o gysylltiadau* yn ystod 2020/21 o'i gymharu â 31, 323 y llynedd;
  • gwneud 4,690 o atgyfeiriadau, o'i gymharu â 2,594;
  • cynnal 2,651 o asesiadau lles o'i gymharu â 2,218;
  • 1,081 o geisiadau wedi'u prosesu gan y Porth i Deuluoedd a gafodd wobr cydnabyddiaeth gan Heddlu De Cymru am ei gyfraniad at y gwaith o gynorthwyo'r gymuned
  • ychwanegwyd 648 o blant at y Gofrestr Amddiffyn Plant o'i gymharu â 399; ac mae
  • 487 o blant a phobl ifanc yn cael cymorth gan dimau Cymorth i Deuluoedd a Chymorth i Deuluoedd ag Anableddau y cyngor.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Mae'r ffigyrau'n dweud y cyfan ac yn amlwg yn dangos yr effaith a gafodd y pandemig ar Wasanaethau Cymdeithasol, gan gynyddu'r galw yn gyffredinol. Maent yn dangos yr heriau sylweddol a phwysau a wynebwyd gan ein gweithlu yn ystod y 17 mis diwethaf. Mae'r tîm wedi gweithio'n galed i sicrhau bod rhai o'r plant a phobl ifanc mwyaf agored yn y ddinas yn gallu cael gafael ar y cymorth a gofal oedd eu hangen arnynt.

O ran y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, datgelwyd y canlynol yn yr adroddiad:

  • bod 43,000 o alwadau wedi dod i law'r gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf Cymunedol a lwyddodd i gynnal cyfradd ateb o 99%;
  • bod 26,168 o gysylltiadau wedi dod i law Pwynt Cyswllt Cyntaf y cyngor;
  • y rhoddwyd cymorth i 5,500 o bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf;
  • y cwblhawyd 4,055 o Gynlluniau Cymorth a Gofal a 3,656 o Adolygiadau;
  • cyflawnwyd 567 o Asesiadau Lles Gofalwyr; a bod
  • bod 93% o gleientiaid wedi dweud eu bod yn teimlo y gallent fyw gartref yn fwy annibynnol o ganlyniad i'r cymorth a gawsant.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cyng. Susan Elsmore: "Mae'r sector gofal wedi wynebu heriau sylweddol yn ystod y pandemig ac mae ymdrechion ac ymroddiad ein timau gofal cymdeithasol wedi bod yn hanfodol i ymateb Caerdydd. Mae ein timau wedi mynd gam ymhellach i gadw dinasyddion mwyaf agored i niwed y ddinas yn ddiogel, yn cael cymorth ac yn gysylltiedig yn ystod y cyfnod anodd hwn a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu holl ymdrechion anhygoel.  Rydw i hefyd am gofnodi fy niolch personol i'r holl wirfoddolwyr a gamodd i'r adwy pan oedd angen cymorth ar y ddinas. Mae hyn wedi dangos i bob un ohonom fod Caerdydd yn ddinas wych gydag ymdeimlad o gymuned.


Os ydych chi angen cymorth gan Wasanaethau Cymdeithasol CaerdyddGwasanaethau Cymdeithasol a Lles (cardiff.gov.uk)