Back
£1.1 miliwn o gyllid ar gyfer treftadaeth a bywyd gwyllt Ynys Echni
Bydd adeiladau hanesyddol ar Ynys Echni yn cael eu hatgyweirio a'u hadnewyddu, bydd cynefinoedd yr ynys yn cael eu gwella ar gyfer bywyd gwyllt, a darperir amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac ymwelwyr, ar ôl i berchnogion yr ynys, Cyngor Caerdydd, lwyddo i sicrhau mwy na £600,000 o gyllid cyflenwi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae prosiect 'Ynys Echni: Cerdded Drwy Amser', a fydd bellach hefyd yn elwa ar £200,000 o gyllid cyfalaf gan y cyngor, ochr yn ochr â buddsoddiad pellach gan sefydliadau partner gan gynnwys RSPB Cymru a Chymdeithas Ynys Echni, yn ceisio rhoi bywyd newydd i'r ynys a denu mwy o ymwelwyr i'r em gudd hon ym Môr Hafren.

Mae'r prosiect tair blynedd yn cynnwys:

  • adnewyddu helaeth ar orsaf y Corn Niwl sydd wedi'i rhestru ar Radd II.
  • sefydlogi'r ysbyty colera ac adeiladau golchi dillad.
  • atgyweiriadau i system dalgylchoedd dŵr Fictoraidd yr ynys.
  • adnewyddu gorsaf chwiloleuadau’r Ail Ryfel Byd i ddarparu 'cuddfan morlun' – lle tawel i ymwelwyr wylio'r môr, llongau ac adar.
  • gwell cynefinoedd ar gyfer cytref Gwylanod Cefnddu Lleiaf yr ynys a fflora morol.
  • gwell dehongliad ar y safle i fynd ag ymwelwyr ar daith drwy hanes yr ynys.

Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys nifer o brosiectau ffotograffig a chelfyddydol yn ogystal â chysylltu ag awdurdodau lleol ar ochr Lloegr Môr Hafren i ddathlu 'Diwrnod Marconi' a chysylltiadau'r ynys â Guglielmo Marconi, a anfonodd y signalau di-wifr cyntaf dros y môr agored rhwng yr ynys a Thrwyn Larnog.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r cyllid hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i'w groesawu'n fawr a bydd, ynghyd â'n buddsoddiad ni, a buddsoddiad ein partneriaid, yn arwain at welliannau sylweddol i'r ynys."

"Mae Ynys Echni yn drysor cudd ar garreg drws Caerdydd – mae'n llawn hanes sy'n ymestyn o Oes yr Efydd yr holl ffordd i enedigaeth technoleg gyfathrebu fodern, ac fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae'n gartref i fflora a ffawna unigryw. Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â chadw'r dreftadaeth honno, diogelu ei bywyd gwyllt cyfoethog, a dod â straeon diddorol yr ynys i gynulleidfa ehangach."           

Dywedodd Rheolwr Ardal De Cymru RSPB Cymru, Cellan Michael:  "Mae RSPB Cymru wrth eu bodd gyda'r newyddion bod prosiect Cyngor Caerdydd. Ynys Echni: Cerdded Drwy Amser’ wedi sicrhau cyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r Cyngor, Cymdeithas Ynys Echni ac eraill i warchod bywyd gwyllt yr ynys tra'n helpu cynifer o bobl â phosibl i gael profiad o safle o bwysigrwydd bywyd gwyllt a threftadaeth o'r fath ar garreg drws y ddinas. Elfen allweddol fydd cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno cynllun newydd i warchod bywyd gwyllt anhygoel yr ynys, gan gynnwys cytref yr wylan gefnddu leiaf fel rhan o 'Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig' yr ynys."

Dywedodd Peter Sampson, Cadeirydd Cymdeithas Ynys Echni, "Mae Cymdeithas Ynys Echni wrth ei bodd bod Grant Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi ei sicrhau a diolchwn i bawb yn y Bartneriaeth sydd wedi gweithio mor galed i wneud i hyn ddigwydd. Bydd y grant, ynghyd â'r holl fuddsoddiadau arall a gynlluniwyd, yn ein galluogi i sicrhau'r ynys a'i threftadaeth unigryw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, sef nod y Gymdeithas erioed."

Mae Cymdeithas Ynys Echni yn croesawu aelodau newydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, ewch i www.flatholmsociety.org.uk

Nod y prosiect hefyd yw rhoi cyfleoedd i fwy o grwpiau ysgolion cymunedau a thwristiaid ymgysylltu â’r ynys neu ymweld â hi, yn ogystal â mwy o ymgysylltu gan wirfoddolwyr, gan gynnig mwy o gyfleoedd i gael profiad o fyw a gweithio ar yr ynys.