Back
Cynigion newydd ar gyfer datblygu Ysgol Uwchradd Cathays


11/6/2021

Bydd adroddiad sy'n manylu ar ymatebion o ymgynghoriad ar gynigion cychwynnol ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays newydd yn cael ei rannu â Chabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 17 Mehefin.

C:\Users\c739646\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Outlook\S28DUMBO\IMG_2220.JPG

Ac yntau'n dod i ben ym mis Mawrth 2020, rhoddodd yr ymgynghoriad gyfle i'r cyhoedd rannu eu barn a daeth 494 o ymatebion i law.

Er bod cefnogaeth sylweddol o blaid ailddatblygu'r ysgol, codwyd nifer o bryderon hefyd, gan gynnwys newidiadau a chynnydd posibl o ran traffig, a'r effaith ar fannau agored cyhoeddus a'r defnydd o amwynderau hamdden lleol presennol.

O ganlyniad, mae'r adroddiad yn gofyn am awdurdod gan y Cabinet i ddatblygu cynigion pellach ar sail yr ymatebion a gafwyd a chyflwyno hysbysiad statudol i:

  • Ehangu Ysgol Uwchradd Cathays o 1,072 o leoedd (5.5 Dosbarth Mynediad gyda 247 o leoedd yn y chweched dosbarth) i 1,450 o leoedd (8 Dosbarth Mynediad gyda 250 o leoedd yn y chweched dosbarth)
  • Codi adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays ar safle Canolfan y Maendy ger Heol y Goron a Heol y Gogledd
  • Ehangu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) bresennol i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 16 o leoedd i 50 o leoedd mewn adeilad pwrpasol yn adeiladau'r ysgol newydd

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bydd y sylwadau a'r safbwyntiau a ddaeth i law trwy gam cychwynnol yr ymgynghoriad yn chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer yr ysgol newydd ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran.

"Mae'n galonogol bod llawer o bobl yn cefnogi'r cynllun ac mae dros hanner yr ymatebwyr yn croesawu cynlluniau ar gyfer gwell cyfleusterau, i'w defnyddio gan yr ysgol a'r gymuned. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod gan rai bryderon yr ymatebwyd iddynt yn y cynigion sy'n cael eu dwyn ymlaen, gyda'r ffiniau diwygiedig ar gyfer yr ysgol, y ganolfan hamdden a'r man cymunedol mynediad agored yn destun gwaith dylunio pellach. Rhoddir ystyriaeth i'r holl adborth wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol."

Mae Ysgol Uwchradd Cathays wedi'i nodi fel ysgol â blaenoriaeth sydd mewn cyflwr gwael ac yn nesáu at ddiwedd ei hoes. Byddai ailddatblygu ac ehangu'r ysgol yn rhoi cyfleoedd i ateb y galw am leoedd a ragwelir yn ei  dalgylch a chymunedau cyfagos, yn ogystal ag ateb y galw am leoedd Canolfan Adnoddau Arbenigol ychwanegol ledled y ddinas ar gyfer dysgwyr â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig.

Pe bai'n cael ei datblygu, byddai'r ysgol newydd yn cael ei hadeiladu o dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru fel un o'r cynlluniau blaenoriaeth.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry, "Dylai pob plentyn a pherson ifanc allu manteisio ar ddarpariaeth ddysgu dda neu ragorol ac mae'n bwysig ystyried addasrwydd a chyflwr adeilad presennol yr ysgol.

"Pe bai'n cael ei datblygu, byddai'r Ysgol Uwchradd Cathays newydd nid yn unig yn darparu cyfleusterau ysbrydoledig, modern a phwrpasol ar gyfer y dysgu a'r addysgu gorau, ond hefyd byddai'n ysgol fro sy'n cynnig gwell darpariaeth chwaraeon a chymunedol sy'n hygyrch i bobl a grwpiau lleol."

Gallai'r prosiect hefyd roi'r cyfle i symud ymlaen gyda chynlluniau i adleoli Trac Beicio'r Maendy i gyfleuster pwrpasol newydd, gan sicrhau y bydd talentau lleol yn parhau i gael eu cefnogi.  Y bwriad yw adeiladu trac awyr agored newydd yng nghanol Bae Caerdydd fel rhan o gam nesaf y gwaith o ddatblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.

Ymgysylltwyd â disgyblion o Ysgol Uwchradd Cathays ac Ysgolion Cynradd Albany, Allensbank a Gladstone fel rhan o'r broses ymgynghori, gan sicrhau bod lleisiau a barn plant a phobl ifanc yn rhan o'r broses benderfynu ac yn cefnogi uchelgais Caerdydd o fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant.

Bydd y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn cynorthwyo'r gwaith o ddarparu Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sef cynllun cenedlaethol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i fenthyca arian drwy'r sector preifat er mwyn dylunio ac adeiladu ysgolion, a chynnal adeiladwaith yr adeiladau dros gyfnod o 25 mlynedd.

Mae'r Cyngor wedi cytuno i lunio Cytundeb Partneriaeth Strategol 10 mlynedd ar sail menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a phartner sector preifat, Meridiam Investments II SAS, i ddarparu ysgolion yn y dyfodol, gan gynnwys, mewn egwyddor, Ysgol Uwchradd Cathays.